Artes Mundi 9 Yn Cyhoeddi Dyddiadau'r Arddangosfa A'r Wobr Ar Gyfer 2021

Date posted: July 23, 2020

Pleser mawr i Artes Mundi yw cyhoeddi dyddiadau newydd ar gyfer nawfed rhifyn yr arddangosfa a gwobr eilflwydd. Yn wreiddiol wedi'i drefnu ar gyfer mis Hydref 2020, bellach fe'i cynhelir yng ngwanwyn 2021. 

Cynhelir Artes Mundi 9 o 13 Chwefror 2021 tan 6 Mehefin 2021 yng Nghaerdydd, ar draws tair canolfan, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Chapter a g39. Ar gyfer y rhifyn yma, cyhoeddir enillydd Gwobr Artes Mundi 9 cyn agor yr arddangosfa 11 Chwefror yn hytrach na thua diwedd yr arddangosfa fel y digwyddai yn y gorffennol.

Artes Mundi sy’n cyflwyno prif wobr celfyddyd gyfoes ryngwladol y DU ac mae’n safonwr pwysig o ran cyfnewid diwylliannol rhwng y DU a’r gymuned celfyddydau gweledol ryngwladol. Wrth ddwyn ynghyd arddangosfa eilflwydd sylweddol sy’n cynnwys rhai o artistiaid cyfoes enwocaf y byd, mae Artes Mundi 9 yn argoeli cynnig y cyfle gorau un i weld celfyddyd gyfoes ryngwladol yn y DU sy’n ymdrin â syniadau a materion sy’n fwyfwy arwyddocaol o dan ein hamgylchiadau presennol. Mae’r rhestr fer o chwe artist wedi’i dethol o blith dros 700 o enwebiadau a gyflwynwyd gan 90 o wledydd. O hyd dyma wobr celfyddyd gyfoes fwyaf y DU gyda £40,000 i’w ennill ac yn y gorffennol mae wedi cael ei dyfarnu i Theaster Gates (2015), John Akomfrah (2017), ac Apichatpong Weerasethakul (2019).

Hyfrydwch pur i ni yw cyhoeddi dyddiadau diwygiedig Artes Mundi 9 ac rydyn ni’n ymrwymedig i gyflwyno rhaglen sy’n ddiogel i’r holl artistiaid, cynulleidfaoedd, partneriaid a chefnogwyr. Wrth i ni fyw drwy ac ymgysylltu â newidiadau byd-eang pellgyrhaeddol, yn fwy nag erioed, mae gwaith pob un o’r chwe artist yn ymdrin ac yn taro deuddeg â’r syniadau a materion y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â nhw fel unigolion ac yn dorfol yn ein cymdeithasau sy’n ymwneud â thegwch, cynrychiolaeth, trawma a braint.

Nigel Prince, Cyfarwyddwr Artes Mundi

Mae Rhestr Fer Artes Mundi 9 yn cynnwys: Firelei Báez (Y Weriniaeth Ddominicaidd), Dineo Seshee Bopape (De Affrica), Meiro Koizumi (Japan), Beatriz Santiago Muñoz (Puerto Rico), Prabhakar Pachpute (India) a Carrie Mae Weems (Yr Unol Daleithiau). Detholwyd y rhestr fer gan reithgor oedd yn cynnwys  Cosmin Costinas, Cyfarwyddwr Gweithredol a Churadur Para Site, Hong Kong a Chyfarwyddwr Artistig Triennale Kathmandu 2020; Elvira Dyangani-Ose, Cyfarwyddwr Oriel y Showroom yn Llundain; a Rachel Kent, Prif Guradur Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes, Sydney, Awstralia.

Yn ôl y rheithgor: Gan gwmpasu paentio ac arlunio, gwneud gwrthrychau, ffilm a fideo, mae gwaith yr artistiaid yn eistedd o fewn cyd-destun yr amgueddfa a thu hwnt; mae rhai’n trawsnewid gofodau cyhoeddus ac eraill yn bodoli fel iteriadau byrhoedlog. Gan weithio yn erbyn y syniad o ganolbwynt, maent yn adlewyrchu gwahanol naratifau byd-eang mewn ffyrdd cyffrous yn ogystal â meddylgar. Mae gweithiau’r artistiaid hyn yn ymdrin mewn ffordd bwerus â’r grymoedd newidiol sy’n siapio ein byd, gan gwmpasu themâu o hunaniaeth ac adrodd, strwythurau cymdeithasol a’r cof torfol, a diwydiant a’r argyfwng ecolegol.

Cysylltwch â Ni | Telerau Defnyddio | Nodau Masnach | Datganiad Preifatrwydd
Hawlfraint 2013 Artes Mundi. Cedwir pob hawl

Dyluniwyd gan