Gruff Rhys a’r Niwl

Date posted: December 16, 2012

Theatr Chapter

Nos Sul 16 Rhagfyr, 8pm

£15

Theatr Chapter

 

Bydd y band ‘surf’ o ogledd Cymru Y Niwl yn ymuno â Gruff Rhys am gig arbennig i gyd-fynd â chyfraniad Phil Collins i Artes Mundi 5. Byddant yn ail-greu’r trac sain ar gyfer y perfformiad a’r gosodwaith This Unfortunate Thing Between Us (TUTBU TV) lle y buont yn serennu fel ‘band y tŷ’.

Mae This Unfortunate Thing Between Us ar ddangos ar hyn o bryd fel  Comisiwn y Bwlch Goleuo newydd ac mewn dwy garafán ar flaen-gwrt Chapter. Wedi’i berfformio’n gyntaf yn 2011 a’i ddarlledu’n fyw ar deledu digidol yn yr Almaen, sianel siopa gartre amgen ywTUTBU TV sy’n gwerthu profiadau bywyd go iawn yn lle nwyddau masgynyrchedig. Mae’n cynnwys broliant, arddangosiadau a phobl yn ffonio i mewn yn fyw i gynnig cipolwg gogleisiol ar ddyfodol posibl teledu prynwriaethol.

Cysylltwch â Ni | Telerau Defnyddio | Nodau Masnach | Datganiad Preifatrwydd
Hawlfraint 2013 Artes Mundi. Cedwir pob hawl

Dyluniwyd gan