Mae’r wobr £30,000 yn golygu bod gwaith celf gan un o’r artistiaid ar restr fer Artes Mundi 6 yn gallu cael ei brynu ar gyfer casgliad celf gyfoes Amgueddfa Cymru.
Wrth gyhoeddi’r penderfyniad, dywedodd Jonathan Watkins, Cyfarwyddwr Oriel IKON oedd yn un o banel beirniadu’r wobr brynu, “Meddylion ni am beth sydd ei angen ar y byd ar hyn o bryd a beth sydd ei angen ar y byd yw gwaith Ragnar Kjartansson.”
Wrth dderbyn ei wobr dywedodd Kjartansson, “Mae cael y wobr hon yn golygu llawer i mi. Un o’r anrhydeddau mwyaf dw i wedi’u cael erioed yw bod yn un o’r artistiaid ar y rhestr fer – bod yn y teulu yna o artistiaid disglair ysbrydoledig. Bonws anhygoel braidd yw ennill y wobr. Dw i’n ddiolchgar iawn y bydd darn o ’ngwaith i bellach yng nghasgliad parhaol Amgueddfa Cymru Caerdydd. Amgueddfa wych yw hi a dw i’n rhyw obeithio creu darn yn benodol i’r safle yma.”
cymdeithasol
Dilynwch ni ar Twitter
Ewch i'n Facebook Tudalen