Dyddiadau arddangosfa Artes Mundi 6 yn cael eu cyhoeddi

Date posted: February 18, 2014

Ar 25 Hydref 2014, bydd Artes Mundi’n dychwelyd gyda’i 6ed arddangosfa  i Amgueddfa Cymru Caerdydd, Chapter a safleoedd eraill.

Bydd Artes Mundi 6, a fydd yn rhedeg am 17 wythnos tan 22 Chwefror 2015, yn cynnwys gwaith gan 9 o artistiaid cyfoes, arloesol a rhyngwladol sy’n edrych ar nifer o themâu amrywiol. Bydd yr arddangosfa’n cynnwys cerfluniaeth, gosodwaith, perfformio, ffilm a ffotograffiaeth yn ogystal â gwaith safle-benodol yng nghanol y ddinas. Bydd gwaith o leiaf hanner yr artistiaid ar ddangos yn yr Orielau Cyfoes yn Adain Orllewinol Amgueddfa Cymru Caerdydd, ein prif bartner ar gyfer y prosiect uchelgeisiol hwn.

Yn dilyn cydweithredu llwyddiannus yn ystod Artes Mundi 5, bydd Canolfan Gelfyddydau Chapter yn bartner arddangos swyddogol gan chwarae rôl hanfodol wrth arddangos gwaith artistiaid cyfranogol yn yr oriel ond hefyd, bydd yn ganolfan bwysig ar gyfer ymarferion, dangosiadau ffilm a digwyddiadau eraill. Cyhoeddir lleoliadau a safleoedd eraill ar draws y ddinas yn ystod y misoedd nesaf.

Yn ystod yr arddangosfa a’r cyfnod yn arwain ati, bydd rhaglen o ddeialogau, sgyrsiau amser cinio a  digwyddiadau am ddim i’r teulu cyfan ar draws Cymru.

Am yr wybodaeth ddiweddaraf, ymunwch â’n rhestr bostio a dilynwch ni ar Trydar @ArtesMundi

Cysylltwch â Ni | Telerau Defnyddio | Nodau Masnach | Datganiad Preifatrwydd
Hawlfraint 2013 Artes Mundi. Cedwir pob hawl

Dyluniwyd gan