Drama Miriam Bäckström - Motherfucker

Date posted: November 28, 2012

Nos Fercher 28 Tachwedd 7pm+9pm
Theatr Chapter
Tocynnau – £10/£5 – ARCHEBWCH YMA

Diwedd perffaith yw’r perfformiad cyntaf o ddrama Bäckström i gynhadledd undydd Artes Mundi 5 Amlinellau Cymdeithasol – Celf ar y Ffiniau. Gan helaethu ar themâu rheolaeth, camddefnyddio a chysylltiadau grym cyfnewidiol, sef testun ei ffilmiau Rebecka 2004 a Kira Carpelan 2009, mae’n edrych ar y rolau, sefyllfaoedd a safbwyntiau cymhleth o fewn perthynas. Gan gyfuno theatr â phorthiant fideo byw mae hi’n creu datgysylltiad rhwng perfformiad ar lwyfan a thafluniad fideo byw. Hyd yn oed gydag actorion ar lwyfan o’u blaenau, a all cynulleidfaoedd beidio â gwylio delwedd fideo a gyfryngir?

 

Cysylltwch â Ni | Telerau Defnyddio | Nodau Masnach | Datganiad Preifatrwydd
Hawlfraint 2013 Artes Mundi. Cedwir pob hawl

Dyluniwyd gan