Teresa Margolles yn derbyn Gwobr y Tywysog Claus 2012

Date posted: November 1, 2012

Llongyfarchiadau i un o artistiaid rhestr fer Artes Mundi 5 Teresa Margolles, sydd wedi derbyn un o wobrau’r Tywysog Claus.

Mae’r gwobrau’n anrhydeddu cyflawniadau rhagorol ym maes diwylliant a datblygu. Fe’u cyflwynir bob blwyddyn i 11 o unigolion neu sefydliadau y mae eu gweithrediadau diwylliannol yn cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad eu cymdeithasau.

Mae Margolles yn ymuno â rhestr drawiadol o artistiaid llawryfol gan gynnwys artist arall sydd ar y rhestr fer eleni Tania Bruguera a anrhydeddwyd yn 2008.

www.princeclausfund.org

Cysylltwch â Ni | Telerau Defnyddio | Nodau Masnach | Datganiad Preifatrwydd
Hawlfraint 2013 Artes Mundi. Cedwir pob hawl

Dyluniwyd gan