Artes Mundi
’n cyhoeddi’r ddau Ddetholwr ar gyfer Gwobr ac Arddangosfa 2008 a nawdd newydd gan Merrill Lynch.

Bydd y curaduron annibynnol Olabisi Silva o Nigeria ac Isabel Carlos o Bortiwgal yn dewis Rhestr Fer o wyth artist ar gyfer Artes Mundi 3.

Eu tasg fydd llunio’r Rhestr Fer o artistiaid o bedwar ban byd sy’n cynrychioli’r doniau cyfoes gorau sy’n dod i amlygrwydd. Bydd Olabisi Silva ac Isabel Carlos yn ystyried dros 400 o enwebiadau a gyflwynwyd gan guraduron, artistiaid a phobl broffesiynol amlwg ym myd celf o fwy na 65 o wledydd, ynghyd â’u henwebiadau personol eu hunain a chyfres o ymweliadau â stiwdios. Mae gan y Detholwyr tan ddiwedd mis Medi i wneud eu penderfyniad, pryd y cyhoeddir y rhestr fer derfynol o wyth artist.

Curadur celf llawrydd a beirniad celf sy’n gweithio yn Lisbon yw Isabel Carlos . Hi oedd Cyfarwyddwr Artistig Biennale Sydney yn 2004, On Reason and Emotion , a churadur Pafiliwn Portiwgal yn Biennale Fenis 2005. Roedd hi’n Sylfaenydd a Dirprwy Gyfarwyddwr yr Instituto de Arte Contemporanea (IAC) yn Lisbon rhwng 1996 a 2001.

Olabisi Silva yw Sylfaenydd a Chyfarwyddwr y Ganolfan Gelfyddyd Gyfoes yn Lagos. Roedd hi’n un o sawl curadur rhyngwladol oedd yn gyfrifol am gynnwys artistig Biennale Dakar yn 2006. Yn 2007 hi fydd curadur Telling, arddangosfa o ffotograffiaeth gyfoes o’r Ffindir yn 7fed Biennale Ffotograffiaeth Affrica yn Bamako, a chyd-guradur yr arddangosfa agoriadol o Gelfyddyd Affricanaidd gyfoes yn Amgueddfa Genedlaethol Mali, Bamako

Mae grŵp Cleientau Preifat Byd-eang Merrill Lynch yn noddi Artes Mundi am y tro cyntaf a byddant yn cefnogi proses chwilio a dewis byd-eang y Detholwyr.

 

 

 
Isabel Carlos


Olabisi Silva
 

Bydd Arddangosfa Artes Mundi 3 yn agor yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd ar Fawrth 15 fed 2008 ac yn parhau tan Fehefin 8 fed 2008. Dyfernir y Wobr yn Ebrill 2008.