Creadigrwydd yw Camgymeriadau
Gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri
Fel rhan o raglen gyhoeddus AM10, buom yn gweithio mewn partneriaeth â lleoliadau i ddatblygu cyfres o brosiectau gyda chymunedau. Cafodd y rhain eu gwireddu mewn ymateb i’r themâu a’r syniadau a oedd yn bresennol yn yr ymarferion a’r gweithiau a oedd yn cael eu harddangos gan bob un o’r saith artist. Cymerodd y prosiectau sawl ffurf tra bod cymunedau hefyd wedi cyfrannu at ein cyfres o bodlediadau a chynhyrchu labeli deongliadol a ddangosir yn yr orielau.
Roedd Creadigrwydd yw Camgymeriadau yn brosiect cydweithredol rhwng artistiaid Anabl a sefydliadau celfyddydau gweledol yng Nghymru, gan gynnwys Celfyddydau Anabledd Cymru, g39 a Mostyn, gydag arbenigedd ychwanegol gan y sefydliad o Fanceinion, Venture Arts. Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar leisiau, doniau a phrofiadau uniongyrchol artistiaid gweledol Anabl, Byddar a niwrowahanol wrth ddatblygu modelau arloesol ar gyfer mynediad ar y cyd yn y celfyddydau gweledol, gyda’r bwriad o:
- Ddatblygu ffyrdd newydd i artistiaid a sefydliadau wreiddio mynediad bwriadol yn eu gwaith celf a’u rhaglenni mewn ffyrdd ystyrlon, gan wneud y celfyddydau gweledol yng Nghymru yn hygyrch i gynifer o bobl â phosibl
- Creu cyfleoedd i sicrhau bod artistiaid, curaduron ac ymarferwyr creadigol Anabl, Byddar a niwrowahanol yn cael eu grymuso, eu hyrwyddo a’u cynnwys yn y sector celfyddydau gweledol
- Rhannu canfyddiadau’r prosiect drwy ‘Becyn Cymorth Mynediad i’r Celfyddydau Gweledol’ sydd ar gael yn rhad ac am ddim
Bu’r grŵp cyntaf o chwe artist yn gweithio gyda’i gilydd a chreu ‘Meerkats’ newydd ar y cyd sy’n parhau i gyfarfod a chefnogi arferion ei gilydd. Ym mis Ionawr 2023, ar gyfer yr ail garfan, fe wnaeth Creadigrwydd yw Camgymeriadau wahodd 15 o artistiaid Anabl, Byddar a niwrowahanol sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru i gydweithio â’r partneriaid i gyfrannu at ymchwil i’r weithred o wreiddio hygyrchedd i artistiaid a gweithwyr celfyddydau proffesiynol mewn sefydliadau yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys gweithdai, cyfleoedd datblygu proffesiynol, mentora artistiaid un-i-un, ymchwil a digwyddiadau cyhoeddus.
Please click images to enlarge
Partneriaid Cyflwyno
Partneriaid Craidd
Partneriaid Cyllido