Hygyrchedd

Datblygwyd y we-fan hon i gydymffurfio â chanllawiau hygyrchedd W3C a lefel AA o gydymffurfiad. Rydym wedi ymdrechu i gydymffurfio â’r holl ganllawiau a gyflwynir yn Lefel AA, lle bynnag y bo modd..

Mae hi’n bosib cynyddu (neu leihau) maint yr holl destun ar dudalennau y rhan fwyaf o wefannau. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio’r rheolaethau maint ffont sy’n rhan o bob porwr gwe. Mae gwahanol borwyr gwe yn gwneud hynny mewn ffyrdd gwahanol ond, yn gyffredinol, dylech edrych ar y dewisiadau yn newislen ‘View’ eich porwr neu, fel arall, chwilio yn yr adran Help. Dyma rai cyfarwyddiadau penodol ar gyfer rhai o’r porwyr mwyaf poblogaidd.

Internet Explorer 7+ (PC)

Ewch i ddewislen ‘View’, ‘Text Size’, a dewiswch y maint gorau i chi. Canolig yw maint testun fel arfer, cyn iddo gael ein newid. Fel arall, os oes gennych lygoden ag olwyn gallwch wasgu botwm CTRL eich bysellfwrdd a sgrolio i fyny neu i lawr gyda’r olwyn er mwyn newid maint.

Firefox (Mac a PC)

Ewch i ‘View’ a naill ai cliciwch ar yr eitemau ‘Decrease Text Size’ / ‘Increase Text Size’, neu defnyddiwch y bysellfwrdd: CTRL a + neu – i gynyddu neu leihau main..

Safari (Mac a PC)

Ewch i’r ddewislen ‘View’ a dewiswch ‘Make Text Bigger’ neu ‘Make Text Smaller’. Fel arall, gallwch ddefnyddio’r botwm Opsiwn ynghyd â + neu – i gynyddu neu leihau maint.

Chrome (Mac a PC)

Fel arall, gallwch ddefnyddio’r botwm CTRL ynghyd â + neu – i gynyddu neu leihau maint.