Stori o'r Gogledd

gan Kevin Dyer

Stori o’r Gogledd gan Kevin Dyer

Stori o’r Gogledd gan Kevin Dyer

Mynydd y Pigau yw Mynydd Eithinen. Ers miloedd o flynyddoedd mae pobl wedi gadael eu hôl yma. Yn ffosydd a chloddiau, yn gylchoedd daear, yn dwmpathau llawn esgyrn a gemwaith. Mae’n hysbys hefyd bod pobl wedi sgrialu fyny fan hyn ym mhob tywydd ac wedi gadael gwrthrychau, neu garpiau dillad, yn offrwm. Ers dechrau mudiad y Capel, serch hynny, pan wthiwyd paganiaeth i’r cyrion, a phan gychwynnodd pobl eistedd mewn rhesi mewn adeiladau hirsgwar, nid cotiau anifeiliaid na broetshys o blu a welwch chi yma. Dyma lle bydd pobl bellach yn dod i grogi eu hen ddillad angladd. Byddan nhw’n rhwygo carpion oddi ar eu siolau neu’u llabedau duon, neu fotwm o’u cardiganau tywyll, ac yna’n eu crogi ar bicell neu lwyn eithin neu weiren bigog. Bydd y darnau carpiog yn pydru ac yn darfod. Pan fyddan nhw’n diflannu, bydd y boen hithau’n mynd i’w canlyn. Dyna’r gred.

 

Clywodd Awel y stori hon flynyddoedd yn ôl gan ei Hewythr Dafydd, a chredai mai lol botes faip oedd y cyfan. Un o’r hanesion hynny y bydd pobl yn eu dweud pan fydd y sgwrs yn y dafarn yn pallu. Ond roedd hi’n ddwy flynedd bellach ers colli Caitlyn, a does dim byd gwaeth yn y byd na marw plentyn.

 

Er iddi gymryd hoe o’i gwaith, dechreuodd hi golli’i phwyll yn cicio’i sodlau yn y fflat. Roedd hi wedi dod o hyd i ddarn o Lego i lawr ochr y soffa ac wedi gwasgu hwnnw tan i’w migyrnau droi’n wyn; roedd hi wedi deffro yn y nos ac wedi eistedd ar y garthen ger gwely Caitlyn; roedd hi wedi gwthio’i hwyneb i’r wardrob fach ac wedi arogli’i merch oedd wedi mynd.

 

Wnaeth hi ddim ffonio tad Caitlyn – chafodd o erioed wybod bod Awel yn feichiog. Wyddai o ddim am y babi yn y groth, felly pa ddiben rhoi gwybod iddo ei bod hi’n sâl. Ond mae cario baich o’r fath ar eich pen eich hun yn dipyn o beth.

 

Roedd ei Mam wedi bod yn wych. Byddai’n galw â bag siopa’n llawn ffa ac yn eistedd yno yn y gegin yn eu tynnu nhw o’u codau ac yn sgwrsio am y byd a’r betws. Weithiau byddai’n dweud wrth ei merch y byddai pethau’n gwella, bod amser yn iacháu, ond doedd y fam ifanc, a hithau bellach ddim yn fam, ddim am glywed y ffwlbri hwnnw.

 

Roedd hi wedi bod yn mynd allan gyda’i ffrindiau, ond byddai wastad yn brysio adre’n gynnar. Roedd hi wedi rhoi cynnig ar therapi, ond byddai’n eistedd yno’n fud. Oherwydd beth sydd yna i’w ddweud?

 

Heddiw, roedd hi’n ddwy flynedd union ers diwrnod y cynhebrwng. 

 

Deffrodd Awel am bedwar; y darlun yn ei phen oedd arch fechan plentyn.

 

Rhoddodd Awel bowdr a phaent ar ei hwyneb, a gadael i’r radio floeddio. Fedrai hi ddim stumogi brecwast, ond roedd hi’n benderfynol o oroesi’r diwrnod. Roedd hogyn neis, Gareth o’r adran gyfrifon, wedi dweud y gallen nhw fynd am ginio heddiw.

 

Ond cyrhaeddodd hi’r drws a simsanodd ei choesau oddi tani. Syrthiodd, gan ollwng ei bag, a gwasgaru’r cyfan yn llanast. Tarodd ei phenelin ar y bwrdd bach lle cadwai ei goriadau, ond sylwodd hi ddim ar hynny.

 

Ping ping ping. Gorweddodd ar ei chefn a darllen y negeseuon. Dwsinau o bobl, ffrindiau, mam wrth gwrs, i gyd yn dymuno’n dda iddi ac yn rhannu mwy o gusanau na’r arfer. Deallai hi’r neges go iawn: ‘Bydd yn ddewr.’

 

Ond fedrai hi ddim bod yn ddewr rhagor. Roedd hi ar chwâl. Edrychodd ar bopeth oedd wedi’i daflu o’i bag…  minlliw, gwm cnoi, hancesi papur, tampon rhag ofn, dwy feiro, ei phwrs, a hances boced. Hances boced gotwm go iawn.

 

Roedd ei nain wedi rhoi hon iddi ar ddiwrnod yr angladd. Roedd blodyn wedi’i frodio arni. Blodyn glas, bychan bach.

 

Chwarddodd. Gwawd sych o chwarddiad.

 

Roedd ei thrwyn yn rhedeg, ac ymylon ei llygaid yn cochi. 

 

Anfonodd decst at Gareth, yn dweud na fedrai ddod i ginio.

 

Anfonodd decst at ei rheolwr, yn dweud bod cur pen ar y diawl ganddi.

 

Sgwennodd decst at ei mam yn dweud ei bod hi’n teimlo’n gachu, ond anfonodd hi mohono.

 

 ‘Tyd ’laen ta’r bastad,’ meddai hi wrth yr hances.

 

Gyrrodd i Clwyd Gate, parcio ger yr hen fotél, cloi drws y car a cherdded. Croesodd y ffordd, troi i lawr y lôn fach, at y gamfa, ac i fyny’r cae serth. Roedd y glaswellt yn gwta ac yn llyfn, ac roedd bwncath yn cadw sŵn uwch ei phen. Chlywodd Awel mohono. Chlywai hi ddim byd heblaw am guriad ei chalon a’i hanadlu cyflym ei hun.

 

Cyrhaeddodd y copa. Mynydd Eithinen. Roedd hi wastad wedi credu mai coel gwrach oedd y cyfan. Ond fel y disgrifiodd ei hewythr, yn yr union fan, dyna nhw’r carpion a’r llarpiau o ddefnydd du – darnau o lewys neu sgarffiau neu siolau – wedi’u bachu ar y weiren bigog. Efallai fod rhyw ugain o ddilladau angladd wedi’u gadael yma. I gyd gan bobl oedd yn ei chael hi’n anodd gollwng gafael.

 

Doedd o ddim yn llecyn sanctaidd. Chredai hi ddim mewn pethau felly. Ond dyma fan lle’r oedd pobl wedi dod iddo i aros a meddwl a theimlo. Roedd rhywbeth yn yr awyr yn dweud hynny wrthi. Gwrandawodd; roedd hi fel petai’r awyr wedi anadlu, ond heb ollwng ei wynt. Chredai hi ddim mewn ysbrydion chwaith. Ond yma ar ben y bryn unig, heb gerddwyr, heb ffermwyr, heb sgwrs – roedd hi’n teimlo nad oedd hi, yr eiliad hon, ar ei phen ei hun. Edrychodd o’i chwmpas. Os oedd rhywrai eraill yma, doedden nhw’n sicr ddim i’w gweld. Teimlodd ias fechan i lawr asgwrn ei chefn. 

 

Bachodd yr hances ar y weiren, gan greu twll yn agos at y blodyn glas. 

 

Chwythai awel a churai’r hances yn y gwynt fel baner. 

 

Anadlodd yn ddwfn, cyn rhyddhau. Roedd hynny fel chwythu llwch o gornel anghofiedig.

 

Edrychodd ar yr holl garpiau eraill – roedden nhw’n ddu, ond bach a gwyn oedd ei defnydd hi. Baner ildio. Nage chwaith, trosiad am obaith.

 

Teimlodd waed yn llifo i lawr ei braich lle tarodd ei phenelin; roedd yno archoll tua modfedd o hyd. Y peth cyntaf go iawn iddi’i deimlo mewn blynyddoedd, bron.

 

Canodd ei ffôn. 

 

Gareth.

 

‘Smai’.

 

‘Ti’n iawn?’

 

‘Yndw’.

 

‘Y cinio. Dwi’m yn dy stelcio di na dim, ond mi wnes i bicnic bach. Dwy rôl ŵy a samosa mawr o Tesco. Mi allwn ni’i haneru. Ac mi ddois i â fflasg.’

 

Roedd y gwaed yn diferu o’i bysedd, y cerpyn gwyn yn cyhwfan, a’r glaw’n dynesu. Ac roedd cynnig picnic mor garedig, fe’i lloriodd, gan wthio popeth arall, am ennyd fach, o’r neilltu. 

 

Trodd ei chefn ar y defnydd ar y ffens a dechrau’r daith i lawr y llwybr. Galwodd y bwncath arni eto, a gweiddodd Awel yn ôl, ‘Smai, Mistar Bwncath’. Rhoddodd chwerthiniad bach a dechrau rhedeg, fel plentyn, yn gynt ac yn gynt i lawr y bryn, dros y cae, ac efallai’n wir i le gwell.


Credit: Kevin Dyer

 

 

 

Mae Kevin yn byw yn Rhuthun. Ynghynt bu’n byw ym Mhentrellyncymer a chyn hynny yng Nghaerdydd. Mae ganddo ddiddordeb penodol mewn sut mae lleoliad a thirwedd yn siapio ein bywydau. Artist Cyswllt i Farnham Maltings yw e, yn Awdur Cyswllt i ATT ac yn Brif Artist i Theatr Storm in the North. Yn ddiweddar, Kevin oedd yr awdur digidol preswyl i ‘Writing on the Wall’. 

 

Mae’n gweithio fel dramodydd a mentor ysgrifennu ac mae wedi ennill neu wedi bod ar y rhestr fer ar gyfer llawer o wobrau ysgrifennu dramâu. Mae’r rhain yn cynnwys:

 

Enillydd Gwobr Dramodydd Ysbrydoledig Rhyngwladol. Cyflwynwyd gan Assitej International yn eu Cyngres Fyd yn Cape Town.   

 

Enillydd Gwobrau Theatr y DU. Y Ddrama Orau, The Hobbit, wedi’i haddasu gan Kevin Dyer. 

 

Enillydd Urdd Ysgrifenwyr Prydain Fawr. Y Ddrama Orau i Gynulleidfaoedd Ifainc, The Monster Under the Bed’.   

 

Enillydd ar ddau achlysur Wobr Olwen Wymark am gefnogi awduron eraill. 

 

Mae newydd orffen ei nofel gyntaf, Marion. Nofel am fuwch yw hi.  

 

www.kevindyer.co.uk 

 

Trwy’r prosiect From Now On, derbyniodd Kevin gefnogaeth fentora ac adborth beirniadol gan Durre Shahwar, Cyd-sylfaenydd Where I’m Coming From.