Aurora Trinity Collective: wrth sgwrsio

dyddiad wedi'i bostio:
20 Mehefin 2020

Fe wnaethon ni ofyn i Nasima Begum ac Ogechi Dimeke o Gyd-fenter Aurora Trinity i feddwl am beth oedd bod yn rhan o gyd-fenter gelfyddyd agored yn ei feddwl iddynt.

Nasima: Beth rwyt ti wedi’i ddarganfod amdanat ti dy hun ers ymuno ag Aurora? 

 

Ogechi: O’r blaen, efallai oherwydd fy mhrofiad cyn dod i Gaerdydd, ro’n i’n ddihyder ac yn teimlo nad o’n i’n ddigon da fel fy mod i’n poeni am fynegi fy syniadau neu farn. Mae dod at Aurora wedi gwneud i mi sylweddoli bod gen i syniadau sy’n werth gwrando arnyn nhw. Does neb yn peri i mi deimlo’n fach neu’n ddisylw ac mae wedi dod â hynny’n ôl i ’mywyd i – bod gen i lais a galla i ei ddefnyddio a dw i’n cael ei ddefnyddio. 

 

Nasima: Ro’n i bob amser yn gwybod nad oes raid i ti fod yn berffeithydd. Jyst cyn mynd at Aurora ro’n i bob amser yn brwydro ’da fi fy hun ac yn meddwl bod angen i mi fy newid fy hun, bod angen i mi fod yn fwy perffaith. Dw i’n meddwl fy mod i wedi fy ailddarganfod fy hun, dyna ddywedwn i. Ro’n i ar adeg cyn ymuno ag Aurora, mi o’n i ar adeg pryd ro’n i’n ceisio bod yn rhywun arall, a dw i wedi ailddarganfod y galla i werthfawrogi gwaith rhywun arall erbyn hyn. Galla i werthfawrogi dy waith a does dim rhaid i mi deimlo fel ’sen i’n gorfod bod fel ti. Mae pobl wedi dweud wrthon ni mai peth mawr yw gwneud mân gamgymeriadau. 

 

Ogechi: Ie, peth mawr yw e.  

 

Nasima: Ac weithiau rydyn ni’n gwybod mai camgymeriadau bach ydyn nhw ac yn wir dyna’r darganfyddiad hwnnw eto a dw i’n teimlo ’mod i’n gallu bod yn fi fy hun eto, ti ’mod? 

 

Ogechi: Ydw. 

 

Nasima: Mi alla i chwerthin am ben fy nghamgymeriadau. Galla i chwerthin am ben y pwyth anghywir 

 

Ogechi: Yn wir, mae Aurora wedi bod yn brofiad hyfryd i ni, gan roi’r cyfle i ni i’n hailddarganfod ein hunain ac i’n mynegi ein hunain yn ein ffordd unigryw ein hunain. Dyna harddwch celfyddyd, mynegiant o bwy ydyn ni yw hi ac mae wedi bod yn hyfryd darganfod ac ailddarganfod hynny. 

 

 

Ogechi: Sut dest ti i wybod am Aurora? 

 

Nasima: Ocê, byddwn i’n arfer mynd at Meryl – ’ti siŵr o fod yn ei nabod hi? Mae hi’n rhedeg y grŵp chwarae, yntefe, i’r ffoaduriaid a cheiswyr lloches ond mae croeso i bawb ddod yno. Er nad ffoadur ydw i nac yn geisiwr lloches, mae croeso mawr i bawb yn y grŵp ’na. Fe ddywedodd hi wrtha i am sesiwn sy’n digwydd bob dydd Gwener, a dyma fi fel, ‘O, iawn te. Sesiwn gelf.’ Ac mi oedd gwir ddiddordeb gen i a meddyliais, fi yw hwn, dyma le dylwn i fynd, ti ’mod? Dw i wir yn hoffi celf ac felly mi es i draw drannoeth. Iawn, fedra i ddim aros ond dw i jyst eisiau gwybod beth yw e felly mi wna i aros am bum munud. Dw i’n cofio gweld Helen a Marianne wrth y drws ac roedd Helen yn dweud ‘gwna’n siŵr dy fod ti’n dod draw i’n sesiwn ni. Mae ein hun ni’n wirioneddol dda’. A dyma fi fel ‘Iawn te, gawn ni weld. Bydd yn rhaid i mi dy weld ti yr wythnos nesa, bydden i wrth fy modd yn aros’. Yr wythnos ganlynol, dyma fi’n troi lan ac es i â’r fam-yng-nghyfraith ’da fi a dywedais i wrth Helen a Marianne sut dw i wir yn hoffi celf a sut dw i eisie dod â hi’n ôl i ’mywyd i ac fe wnaeth hi ’nghael i i wneud ychydig o sgrîn-argraffu’n syth yn y wers gynta ac mi oedd e’n braf. Felly, dyna sut des i wybod am Aurora a dw i’n teimlo fel taw rhywbeth fel ffawd sydd wedi dod â fi yno, hynny yw, es i at grŵp Meryl doedd e ddim i mi ar y dechrau ond mi es i yno ac wedyn yn syth cael clywed am sesiynau Helen doeddwn i ddim yn gwybod dim byd amdanyn nhw. 

 

Ogechi: Mi ddes i wybod am Aurora drwy grŵp Meryl hefyd, oherwydd ceisiwr lloches oeddwn i a bues i’n mynychu’r grŵp gyda’r mab. Ar y pryd, doedd e ddim wedi dechrau yn y meithrin felly bydden ni’n mynychu’r grŵp. Ac roedd Meryl fel, ‘O, mae yna grŵp ar ddydd Gwener, grŵp i fenywod’ a’r atyniad oedd, ‘O, maen nhw’n gwneud gwaith gwnïo a chelf.’ Ac ro’n i fel, ‘O, gwnïo, iawn, dw i’n hoffi gwnïo.’ Oherwydd o le dw i’n dod – dw i’n dod o Nigeria yn wreiddiol – mae ein dillad fel arfer yn cael eu teilwra ar archeb, ein gwisgoedd traddodiadol. Ac ro’n i ychydig fel, celf – mi o’n i’n hoffi celf ond oherwydd i mi dyfu lan mewn diwylliant lle roedd hi fel ‘artistiaid, wyt ti o ddifri? Ti eisie bod yn artist? Seriws? Mae dy fêts yn feddygon a tithe’n artist?’ Ti’n gwybod, jyst ar yr ochr oedd hi, reit yn y cefndir a dweud y gwir. Ond wedyn ces i wybod am Aurora oherwydd roedd gen i dipyn o amser ar fy nwylo wrth aros am y Swyddfa Gartref, felly roedd e jyst fel amser sbâr i’w lenwi. Roedd yn eitha diddorol oherwydd doeddwn i ddim wedi gwneud rhai o’r pethau hynny o’r blaen – pethau oedd o ddiddordeb i mi oedden nhw. Roedd yr awyrgylch mor gynnes a phob un yn cael ei dderbyn ac roedd pawb yn gyfeillgar ac roedd yn hyfryd iawn ac mi wnes i deimlo fel ‘O, iawn, ti ’mod, mi wna i dreulio amser yma a, ti ’mod, ddysgu pethe newydd. Ro’n i wedi bod yn dda gyda nodwydd ac yn y blaen erioed ac roedd yn dda adfywio fy sgiliau ac eistedd gyda menywod eraill a ddim jyst bod yn geisiwr lloches neu’n fam i rywun felly roedd e’n hyfryd iawn. 

 

 

Nasima: Sut ’set ti’n dweud mae’r ffordd rwyt ti’n cymryd rhan wedi newid ers ymuno ag Aurora?

 

Ogechi: Yn bersonol dw i’n meddwl fy mod i wedi symud o fod yn rhywun sy’n mynychu’r grŵp yn unig i fod yn un sy’n rhan o’r broses benderfynu. Dw i’n meddwl bod hynny ’da fi, dw i wedi llwyddo i dyfu fel ’na yn y grŵp drwy Helen yn ceisio ein tynnu ni allan o, ti ’mod, ein cregyn. Ti ’mod, mae hi’n gwneud i ni gymryd rhan drwy ddweud pethe fel, “O, gallet ti neud hyn”. Dw i’n cofio, ryw ddiwrnod pan oedd Helen yn methu bod gyda ni a doedd Marianne ddim o gwmpas, dywedodd, “O, mi ddo i i mewn ac wedyn mynd, ond mi ddo i’n ôl yn nes ymlaen. Sgwn i allet ti jyst bod yn y grŵp a delio â fe am hynny o amser?” Ro’n i fel, “O Arglwydd, dw i’n mynd i strywo’r grŵp!” Ro’n i fel, “Iawn, fe wna i, be dw i’n ’neud?” Roedd yr awyrgylch yn dal i fod yr un mor hamddenol a chlên, roedden ni i gyd wedi ymlacio o hyd, yn dal i siarad ac fe wnaethon ni ychydig o bethe roedd angen i ni ’neud ond roedd yn dal i fod yn fendigedig. Felly, mae pethe wir wedi symud i mi, o ddim ond mynychu, i ddweud y gallwn i ’neud mwy. Gallwn i ‘neud mwy yn y grŵp yma ac mae wir yn braf ’mod i wedi symud ymlaen mor bell. A beth amdanat ti? Sut mae wedi bod i ti?

 

Nasima: Ar y dechrau roedd o fel, gad i mi weld be galla i ddysgu heddiw. Gad i mi weld pa bwyth maen nhw’n ei wneud, os ydyn nhw’n mynd i wneud pwyth newydd, ti ’mod? Dw i’n meddwl ei fod e’n ymwneud lot â dysgu’n gynta, dysgu pethe newydd ac os dw i’n edrych arna i fy hunan ’nawr, bydden i’n dweud ‘mod i’n cymryd rôl fwy gweithgar dw i’n meddwl. Daeth Jane draw o Crefft yn y Bae ac fe wnaeth hi dreulio tipyn o amser yn ein dysgu ni. Jyst cyn iddi adael, roedden ni’n dweud, “Ocê, felly pwy sy’n mynd i ddysgu pawb sut i ddefnyddio’r droell nyddu? A meddai hi, “Chi!” Ac ro’n i fel, “O, iawn – fi?”. Roedd hi fel, “Ti wedi bod yn ei neud e dros yr holl wythnosau diwetha, mi fedri di ’neud e.” A dw i’n meddwl ‘mod i’n cymryd y rôl weithgar ’na, oherwydd dyna beth mae Helen wedi bod yn ceisio dweud wrtha i o’r dechrau’n deg, o’r diwrnod cynta. Mae hi wedi bod yn ceisio dweud, “Gelli di neud hyn, gelli di neud llall – a gelli di redeg pethe hefyd.” Yn y gorffennol, bydden i’n dweud bod ’da fi fwy o ddiddordeb mewn dysgu rhywbeth ac erbyn hyn dw i fel ’se ’da fi fwy o ddiddordeb mewn gwneud i bobl eraill deimlo’n gyfforddus. Mae yna bobol sy’n dod ac yn dweud o hyd, “Dyw fy Saesneg i ddim yn dda” ac mae yna rai sy’n siarad Arabeg ac achos ’mod i’n dysgu Arabeg dw i’n ceisio gwneud bach o Saesneg a bach o Arabeg, rywsut ’dych chi’n llwyddo i esbonio pethe, ond dw i’n teimlo bod y ffordd dw i’n cymryd rhan wedi newid fel ’na. Dw i’n ceisio bod yn fwy croesawus a dweud wrth bobol, “A dweud y gwir, ti’n gwybod be? Gallet ti neud hyn hefyd ti ’mod? Gallet ti neud hyn hefyd, gallet ti ddysgu rhywun hefyd, jyst fel wnaeth Helen gyda fi, ti ’mod? Achos weithie ’dyn ni ddim yn gweld ein cryfderau ac mae fel pan fydd ‘da ti rywun arall yn dweud wrthot ti gallet ti neud hyn, mae wir yn helpu, felly hoffwn i wneud hynny i rywun arall, jyst fel wnaeth Helen i mi. Fe wnaethon ni i gyd ddechrau fel defnyddwyr oedd eisie dysgu ond erbyn hyn gallen ni fod yn rhannu’r wybodaeth sy ’da ni.