Rydym yn Cyflogi
Swyddog Marchnata a Chyfathrebu
Ceisiadau’n cau: dydd Gwener 13 Mai 2022
Cynhelir cyfweliadau: Yr wythnos yn dechrau 23 Mai 2022.
Dyddiad dechrau delfrydol: mis Mehefin 2022
Rydym yn chwilio am Cynhyrchydd Ymgysylltu gweithio ochr yn ochr â’r tîm i gyd-ddatblygu a chyflwyno gweithgareddau wythnosol i blant Menter Gydweithredol Aurora Trinity.
Rôl amrywiol yw hon a bydd gweithgareddau’n cael eu llunio ar y cyd drwy’r prosiect ar ei hyd wrth i chi ddod i nabod y plant y byddwch yn gweithio gyda nhw. Cynhelir sesiynau bob bore dydd Gwener yng Nghanolfan y Drindod yng Nghaerdydd neu ar-lein drwy Zoom. Nodau prosiect y plant yw ei fod yn ddiogel, yn gynhwysol, yn ddifyr ac yn greadigol.
Mae’r prosiect yn gydgreadigol ac felly bydd y rôl yma’n gweithio ochr yn ochr â nifer mawr o artistiaid, curaduron a chynhyrchwyr diwylliannol eraill.
Casgliad o artistiaid yw Menter Gydweithredol Aurora Trinity a gwerthfawrogir cyfraniadau a syniadau pob aelod o’r prosiect.
Manylion y rôl
- Llawrydd: £78.75 yr hanner diwrnod (cynhelir gweithdai ar foreau Gwener rhwng 30 a 12:30 a rhoddir amser ychwanegol i baratoi a glanhau naill ochr am tua hanner awr).
- Efallai y gwahoddir deiliad y contract i ymgymryd â gwaith ychwanegol gyda’r nos ac yn ystod y penwythnosau. Rhoddir hysbysiad priodol ynglŷn â phob cyfle o’r fath.
- Rheolir gan y Curadur Rhaglenni Cyhoeddus ond bydd yn gweithio gyda holl aelodau Gydweithredol Aurora a tîm Artes Mundi ac ar draws gwahanol brosiectau.
- Cynhelir mwyafrif y sesiynau yng Canolfan y Drindod, gyda rhai yn digwydd oddi ar y safle neu ar-lein.
Ceir gwybodaeth lawn am y rôl yn y Pecyn Gwybodaeth a Ymgeisio.
Cynhyrchydd Ymgysylltu Pecyn Gwybodaeth PDF
Cynhyrchydd Ymgysylltu Pecyn Gwybodaeth Word
Cynhyrchudd Ymgyslltu Pecyn Print Bras PDF
Cynhyrchudd Ymgyslltu Pecyn Print Bras Word
Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal
Sut i Wneud Cais
Os oes gynnoch chi ddiddordeb yn y rôl yma, anfonwch eich CV a datganiad byr am eich diddordeb yn y rôl at Letty Clarke. Anfonwch e-bost i letty.clarke@artesmundi.org gan nodi Cynhyrchydd Ymgysylltu yn y llinell bwnc.