Fideos a Phodlediadau

GWYLIO: Wrth y bwrdd gyda Prabhakar Pachpute

GWYLIO: Wrth y bwrdd gyda Prabhakar Pachpute

Mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Artes Mundi yn cyflwyno sgwrs olaf Wrth y bwrdd gyda’r artist Prabhakar Pachpute.

 

 

Mae Wrth y bwrdd yn dwyn ynghyd leisiau’r chwe artist ar restr fer Artes Mundi 9 ochr yn ochr â lleisiau curaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron sy’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yn eu gwaith a’r berthynas gydblethedig rhwng hanesion ac arferion, o’r lleol i’r rhyngwladol. Mae’r olaf o chwe digwyddiad yn y gyfres Wrth y bwrdd yn cyflwyno’r artist Prabhakar Pachpute mewn sgwrs gyda’r curadur a’r darlithydd Zasha Colah; Siân Williams, Pennaeth Casgliadau Arbennig a Llyfrgellydd Llyfrgell Glowyr De Cymru ym Mhrifysgol Abertawe; Dr Radhika Mohanram, Athro Saesneg yn y Ganolfan Theori Beirniadol a Diwylliannol ym Mhrifysgol Caerdydd. Gan ddychmygu ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu pryd o fwyd ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’i waith.

 

 

Mae Prabhakar Pachpute yn byw ac yn gweithio yn Pune, India. Mae Pachpute yn gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau a deunyddiau gan gynnwys lluniadu, golau, animeiddiadau stop-symud, sain a ffurfiau cerfluniol. Mae gan ei ddefnydd o siarcol gysylltiad uniongyrchol â’i bwnc a’i wreiddiau teuluol, pyllau glo a glowyr. Yn aml, mae Pachpute yn creu amgylcheddau ymgollol a dramatig yn ei waith sy’n benodol i safle, gan ddefnyddio portreadaeth a thirwedd gyda throsiadau swrrealaidd i fynd i’r afael yn feirniadol â materion llafur mwyngloddio ac effeithiau mwyngloddio ar y dirwedd naturiol a dynol. Derbyniodd Pachpute ei radd baglor mewn celfyddydau cain ym maes cerflunio o Brifysgol Indira Kala Sangit, Khairagarh (Chhattisgarh, 2009) a’i MFA o Brifysgol Maharaja Sayajirao of Baroda (Gujrat, 2011). Mae wedi arddangos yn helaeth gyda sioeau unigol yn y Clark House Initiative, Mumbai (2012); Experimenter, Kolkata (2013&2017); National Gallery of Modern Art, Mumbai (2016); AsiloVia Porpora, Milan (2018); a’r Glasgow School of Art (2019). Mae wedi cymryd rhan mewn arddangosfeydd grŵp hefyd yn Van Abbemuseum, Eindhoven (2013); Kadist Art Foundation, Paris (2013); IFA, Stuttgart a Berlin (2013); DRAF, Llundain(2014); MACBA, Barcelona (2015); Parasite, Hong Kong (2017); Asia Cultural Centre, Gwangju(2017); STUK, Leuven(2018); AV Festival, Newcastle (2018); ac roedd yn rhan o’r 31ain São Paulo Biennial (2014); y 5ed Fukuoka Asian Art Triennial (2014); y 14eg Istanbul Biennial (2015); yr 8fed Asia Pacific Triennial, Brisbane(2015); a’r Dhaka Art Summit (2018); yr 2il Yinchuan Biennale (2018) a’r 4ydd Kochi-Muziris Biennale (2018). Cynrychiolir Prabhakar Pachpute gan Experimenter, Kolkata.

GWYLIO: Wrth y bwrdd gyda Meiro Koizumi

GWYLIO: Wrth y bwrdd gyda Meiro Koizumi

Mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Artes Mundi yn cyflwyno pedwaredd sgwrs Wrth y bwrdd gyda’r artist Meiro Koizumi.

 

 

Mae Wrth y bwrdd yn dwyn ynghyd leisiau’r chwe artist ar restr fer Artes Mundi 9 ochr yn ochr â lleisiau curaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron sy’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yn eu gwaith a’r berthynas gydblethedig rhwng hanesion ac arferion, o’r lleol i’r rhyngwladol.Mae’r pedwerydd o chwe digwyddiad yn y gyfres Wrth y bwrdd yn cyflwyno’r artist Meiro Koizumi mewn sgwrs gyda Zoe Butt, Cyfarwyddwr Artistig y Factory Contemporary Arts Centre, Dinas Ho Chi Minh; y cymdeithasegydd cymharol a’r hanesydd, Abu-Bakr Madden Al Shabaz; ac Evie Manning, Cyd-gyfarwyddwr Artistig cwmni theatr Common Wealth. Gan ddychmygu ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu pryd o fwyd ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’i waith.

 

 

Mae Meiro Koizumi (1976, Gunma, Japan) yn ymchwilio i’r ffiniau rhwng y preifat a’r cyhoeddus, sy’n faes o bwysigrwydd penodol i’w ddiwylliant Japaneaidd brodorol. Mae ei fideos yn seiliedig ar berfformiadau a senarios adeiledig yn aml. Mae ei berfformiadau’n canolbwyntio ac yn ehangu ar yr eiliad pan fydd sefyllfa’n mynd y tu hwnt i reolaeth, yn troi’n chwithig neu’n torri rheolau cymdeithasol. Mynychodd Meiro Koizumi yr International Christian University, Tokyo; Chelsea College of Art and Design, Llundain yn ogystal â’r Rijksakademie van Beeldende Kunsten, Amsterdam. Mae arddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys Annet Gelink Gallery (2017), DeHallen, Haarlem (2016), Arts Maebashi, Maebashi (2015), Kadist Art Foundation, Paris (2014), Museum of Modern Art, Efrog Newydd (2013), Centro de Arte de Caja de Burgos (CAB), Burgos (2012), Art Space,Sydney (2011) a’r Mori Art Museum, Tokyo (2009). Cymerodd ran mewn nifer o sioeau grŵp fel 5ed Biennale Rhyngwladol Experimenta, Melbourne (2014), 8fed Shenzhen Sculpture Biennale, Shenzen (2014), Tokyo Opera City Art Gallery, Tokyo (2014), MSGSU Tophane-i Amire Culture and Arts Center, Istanbul (2013), Pinchuk Art Centre, Kiev (2012), Hara Museum of Contemporary Art, Tokyo (2011), Museum of Contemporary Art, Tokyo (2011), Biennial Lerpwl, Lerpwl (2010), Media City, Seoul (2010),Shanghai MOCA, Shanghai (2008) a llawer mwy. Mae ei waith wedi’i gynnwys yng nghasgliadau’r Museum of Modern Art, Efrog Newydd, Kadist Art Foundation, Paris a’r Stedelijk Museum, Amsterdam.

 

 

Mae Abu-Bakr Madden Al-Shabazz yn Ymgynghorydd Addysg, Cymdeithasegydd Cymharol a Hanesydd Byd yn y profiad Du ac Affricanaidd o’r cyfnod cynhanesyddol i’r cyfoes. Mae wedi cynnal rhaglen Astudiaethau Hanes Pobl Dduon lwyddiannus ym Mhrifysgol Caerdydd ers naw mlynedd ac mae bellach yn Uwch Gymrawd Gwadd ar gyfer Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Caerdydd ym maes Hil ac Addysg. Mae wedi gweithio gyda sawl sefydliad diwylliannol dros y 10 mlynedd diwethaf megis: Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Gentle Radical, Peak Cymru, a What’s Next, ym meysydd amrywiaeth ddiwylliannol gan ganolbwyntio’n arbennig ar Wladychu, Llenyddiaeth Ddu, Democratiaeth Ddiwylliannol, Ymerodraeth a Chymru Ddiwydiannol a’i chysylltiad â’r Caribî a Gogledd America yn ystod caethwasiaeth.

 

 

Mae Evie Manning yn Gyd-gyfarwyddwr Artistig Common Wealth, cwmni theatr arobryn sy’n creu digwyddiadau theatr sy’n benodol i safle sy’n cwmpasu sain electronig, ysgrifennu newydd, dylunio gweledol a gwaith gair am air. Lleolir Common Wealth yn Bradford a Chaerdydd ac maen nhw’n teithio gyda’u cynyrchiadau ledled y DU ac yn rhyngwladol. Fel cyfarwyddwr Common Wealth, mae ei gwaith yn cynnwys: The Deal Versus The People (West Yorkshire Playhouse), No Guts, No Heart, No Glory, (Gwobr Gyntaf Scotsman Fringe / Live From TVC gyda BBC4), ac Our Glass House (Gwobr Rhyddid Mynegiant Amnest Rhyngwladol). Fel gweithiwr llawrydd, mae Evie wedi cydweithio a gwneud gwaith gyda’r Royal Exchange, Battersea Arts Centre, Freedom Studios, Tamasha, Chris Goode and Company, Transform Festival a’r Southbank Centre. Hi oedd derbynnydd Cymrodoriaeth Celfyddydau Perfformio’r BBC yn 2015.

GWYLIO: Wrth y bwrdd gyda Carrie Mae Weems

GWYLIO: Wrth y bwrdd gyda Carrie Mae Weems

Mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Artes Mundi yn cyflwyno pumed sgwrs Wrth y bwrdd gyda’r artist Carrie Mae Weems.

 

 

Mae Wrth y bwrdd yn dwyn ynghyd leisiau’r chwe artist ar restr fer Artes Mundi 9 ochr yn ochr â lleisiau curaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron sy’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yn eu gwaith a’r berthynas gydblethedig rhwng hanesion ac arferion, o’r lleol i’r rhyngwladol. Mae’r olaf ond un o chwe digwyddiad Wrth y bwrdd yn cyflwyno’r artist Carrie Mae Weems mewn sgwrs gyda’r artist a’r athro Sonia Boyce, OBE; Thomas J. Lax, Curadur y Cyfryngau a Pherfformiad yn MoMA (Efrog Newydd); yr artist, awdur a’r curadur Umulkhayr Mohamed; a’r artist, steilydd a Sylfaenydd DOCKS Magazine, Nicole Ready. Gan ddychmygu ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu pryd o fwyd ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’i waith.

 

 

Drwy ffotograffiaeth, perfformiad a fideo, mae Carrie Mae Weems wedi creu corff cymhleth o gelf sy’n ymchwilio i berthynas pobl mewn teuluoedd, rolau rhyw, hiliaeth, gwahaniaethu ar sail dosbarth cymdeithasol a gwleidyddiaeth. Er bod Weems yn mynd i’r afael ag amrywiaeth eang o faterion, ei hymrwymiad cyffredinol yn ei holl waith yw ein helpu i ddeall ein heiliad bresennol yn well drwy archwilio ein gorffennol cyfunol. Mae gwaith Weems, derbynnydd grant MacArthur, i’w weld mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat ledled y byd gan gynnwys y Metropolitan Museum of Art; The Museum of Fine Arts, Houston; a’r Museum of Contemporary Art, Los Angeles. Mae wedi cymryd rhan mewn arddangosfeydd unigol a grŵp niferus mewn amgueddfeydd cenedlaethol a rhyngwladol o bwys gan gynnwys y Whitney Museum, y Museum of Modern Art, a’r Solomon Guggenheim Museum.

 

 

Daeth Sonia Boyce OBE RA i amlygrwydd ar ddechrau’r 1980au fel ffigwr allweddol yn sin gelfyddydol Ddu-Brydeinig ffyniannus y cyfnod hwnnw – gan ddod yn un o artistiaid ieuengaf ei chenhedlaeth i gael ei gwaith wedi’i brynu gan y Tate, gyda phaentiadau oedd yn ymdrin â hil a rhyw ym Mhrydain. Ar hyn o bryd mae Boyce yn Athro ym Mhrifysgol y Celfyddydau yn Llundain, lle mae’n dal y Gadair gyntaf mewn Celf a Dylunio Du. Bydd Boyce yn cynrychioli’r DU yn y 59fed Arddangosfa Gelf Ryngwladol La Biennale di Venezia gydag arddangosfa newydd o bwys ar gyfer Pafiliwn Prydain yn 2022.

 

 

Thomas J. Lax yw Curadur y Cyfryngau a Pherfformiad yn MoMA (Efrog Newydd) lle mae’n paratoi’r arddangosfa Just Above Midtown: 1974 to the Present gyda Linda Goode Bryant ar hyn o bryd. Bu’n gweithio gyda chydweithwyr ar draws MoMA hefyd ar brosiect mawr yn ail-hongian casgliad yr amgueddfa a bu’n trefnu Unfinished Conversations. Cyn hyn, bu’n gweithio yn y Studio Museum yn Harlem. Mae Lax ar fwrdd Danspace Project a’r Jerome Foundation ac mae’n addysgu yn yr Institute for Curatorial Practice in Performance yn y Wesleyan University. Mae ar bwyllgorau cynghori sefydliadau gan gynnwys Contemporary And, The Laundromat Project, Participant Inc., a Recess Assembly.

 

 

Mae Umulkhayr Mohamed yn artist, awdur a churadur Somalïaidd Cymreig, sy’n gweithio yn Amgueddfa Cymru ar hyn o bryd. Hi yw arweinydd curadu Lates: PITCH BLACK, cydweithrediad rhwng Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Artes Mundi, sy’n ddathliad aml-gelfyddyd o Dduwch fel rhywbeth di-ben-draw ac anfeidraidd. Mae ei harfer artistig yn ymwneud â chreu hierarchaethau i chwilio am gydsafiad a rhyddhad. Mae Mohamed yn rhan o Grŵp Curaduron Newydd y British Art Network, ac yn aelod o Black Curators Collective. Ar hyn o bryd mae’n gwneud Gradd Meistr mewn Diwydiannau Creadigol Byd-eang yn y School of Oriental and African Studies.

 

 

Mae Nicole Ready yn artist, cynhyrchydd a sylfaenydd DOCKS Magazine: cyhoeddiad blynyddol sy’n archwilio diwylliant Pobl Dduon a Phobl Groenliw yng Nghymru. Graddiodd yn ddiweddar o Brifysgol De Cymru gyda BA mewn Hyrwyddo Ffasiwn. Ar hyn o bryd mae Nicole yn Gynhyrchydd Ymgysylltu sy’n gweithio gydag Artes Mundi, Cynhyrchydd yn Amgueddfa Cymru, ac yn rhan o’r prosiect SSAP (Panel Cynghori Is-Sahara) Emerging Futures: Days Ahead. Cafodd Nicole sylw ar BBC Cymru Ar-lein yn trafod Mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, ac roedd yn aelod panel gwadd yng nghaffi Privilege.

GWYLIO: Wrth y bwrdd gyda Beatriz Santiago Muñoz

GWYLIO: Wrth y bwrdd gyda Beatriz Santiago Muñoz

Mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Artes Mundi yn cyflwyno trydedd sgwrs Wrth y bwrdd gyda’r artist Beatriz Santiago Muñoz.

 

 

Mae Wrth y bwrdd yn dwyn ynghyd leisiau’r chwe artist ar restr fer Artes Mundi 9 ochr yn ochr â rhai curaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron sy’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yn eu gwaith a’r berthynas gydblethedig rhwng hanesion ac arferion, o’r lleol i’r rhyngwladol.

 

 

Mae’r trydydd o chwe digwyddiad yng wrth y bwrdd yn cyflwyno’r artist Beatriz Santiago Muñoz mewn sgwrs â’r anthropolegydd, bardd ac artist perfformio ffeministaidd, Dr Gina Athena Ulysse; Francis McKee, Cyfarwyddwr Canolfan Celfyddyd Gyfoes, Glasgow; a churadur, gwneuthurwr ffilmiau, a Sylfaenydd Black Film Festival Wales, Yvonne Connikie. Gan ddychmygu ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu pryd o fwyd ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’i waith.

 

 

Mae Beatriz Santiago Muñoz yn artist y mae ei gwaith delwedd symudol estynedig yn cordeddu blith draphlith â theatr Boalaidd, ethnograffeg arbrofol a syniadaeth ffeministaidd. Mae’n tueddu i weithio gyda rhai nad ydyn nhw’n actorion, ac yn ymgorffori gwaith byrfyfyr yn ei phroses. Mae ei gwaith diweddar ar anymwybyddiaeth synhwyraidd symudiadau gwrth-wladychol, ac ar waith barddonol bob dydd yn y Caribî. Mae ei harddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys: Gosila, Der Tank, Basel; Rodarán Cabezas yn Espacio Odeon, That which identifies them, like the eye of the cyclops en Wester Front, A Universe of Fragile Mirrors, PAMM, Miami; Song Strategy Sign, New Museum; Mae arddangosfeydd grŵp diweddar yn cynnwys: Whitney Biennial 2017, NYC; Prospect 4, New Orleans; 8th Contour Biennale, Mechelen; Ce qui ne sert pas s’oublie, CAPC-Bordeaux. Mae hi wedi derbyn Gwobr Gelfyddydau Herb Alpert, hi oedd Cymrawd Ford UDA 2016, a derbyniodd grant artist gweledol Creative Capital 2015 ar gyfer ffilm sydd ar y gweill o’r enw Verano de Mujeres.

 

 

Mae Dr Gina Athena Ulysse yn anthropolegydd, bardd ac artist perfformio ffeministaidd Haitiaidd-Americanaidd. Mae’n fethodolegydd rhyngddisgyblaethol, ac mae ei chwestiynau ymchwil a’i hymarfer celf yn ymgysylltu â geowleidyddiaeth, portreadau hanesyddol, a beunyddioldeb amodau’r boblogaeth wasgaredig Ddu. Mae ei llyfr diwethaf, Because When God Is Too Busy: Haiti, me & THE WORLD (2017), yn gasgliad o ffotograffau, barddoniaeth a thestunau perfformio. Mae’n athro llawn Astudiaethau Ffeministaidd yn UC Santa Cruz, Califfornia. ginaathenaulysse.com.

 

 

Mae Francis McKee yn awdur a churadur sy’n gweithio yn Glasgow. Rhwng 2005 a 2008 bu’n Gyfarwyddwr Glasgow International, ac ers 2006 bu’n Gyfarwyddwr Canolfan Celfyddyd Gyfoes, Glasgow. Mae’n Ddarlithydd ac yn Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Gelf Glasgow, yn gweithio ar ddatblygu ideolegau ffynhonnell agored, ac mae wedi ysgrifennu ar waith artistiaid fel Christine Borland, Ross Sinclair, Douglas Gordon, Simon Starling, Matthew Barney, Pipilotti Rist, Willie Doherty, Kathy Prendergast, Abraham Cruzvillegas, ac Ester Krumbachova. Ei lyfr diweddaraf yw Even the Dead Rise Up (Book Works, 2017).

 

 

Mae Yvonne Connikie yn rhaglennydd, curadur a gwneuthurwr ffilmiau sy’n arbenigo mewn ffilm annibynnol Du. Hi oedd Sylfaenydd Black Film Festival Wales (2000-2008), Aelod Sylfaenydd y New Black Film Collective, a Churadur Cynorthwyol ar gyfer Black London Film Heritage. Mae Connikie yn ymgeisydd PhD ym Mhrifysgol De Cymru ac yn archwilio gweithgareddau hamdden pobl Garibïaidd Windrush yn Butetown. Mae’n rhan o’r pwyllgor rhaglennu ar gyfer Gŵyl Ffilm Garibïaidd Windrush ac mae’n datblygu ffilm arbrofol wedi’i hysbrydoli gan Windrush gyda’r prosiect ‘Pitch Black’, a grëwyd gan Artes Mundi ac Amgueddfa Cymru. Mae’n parhau i weithio gyda Gwneuthurwyr Ffilmiau ac Artistiaid annibynnol y DU drwy ei phlatfform, Cinema Golau.

GWYLIO: Wrth y bwrdd gyda Dineo Seshee Bopape

GWYLIO: Wrth y bwrdd gyda Dineo Seshee Bopape

Mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Artes Mundi yn cyflwyno ail sgwrs Wrth y bwrdd gyda’r artist Dineo Seshee Bopape.

 

 

Mae Wrth y bwrdd yn dwyn ynghyd leisiau’r chwe artist ar restr fer Artes Mundi 9 ochr yn ochr â lleisiau curaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron sy’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yn eu gwaith a’r berthynas gydblethedig rhwng hanesion ac arferion, o’r lleol i’r rhyngwladol.

 

 

Mae’r ail o chwe digwyddiad yn y gyfres Wrth y bwrdd yn cyflwyno’r artist Dineo Seshee Bopape mewn sgwrs gyda Marie Hélène Pereira, Curadur a Chyfarwyddwr Rhaglenni yn Raw Material Company, Senegal; Elvira Dyangani Ose, Cyfarwyddwr Oriel y Showroom Gallery, Llundain; yr artist a’r gweithiwr ynni, Evan Ifekoya; a’r artist a’r gwneuthurwr ffilmiau, Tina Pasotra. Gan ddychmygu ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu pryd o fwyd ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’i waith.

 

 

Ganed Dineo Seshee Bopape ym 1981, ar ddydd Sul. Pe bai’n hanu o Ghana, ei henw fyddai akosua/akos o’i dalfyrru. Yn ystod yr un flwyddyn â’i genedigaeth, efallai fod 22 o gorwyntoedd wedi’u cofnodi ym Môr yr Iwerydd. Digwyddodd y terfysg yn Brixton; mae’r gân “endless love” yn boblogaidd ar y radio; anafwyd dau berson pan ffrwydrodd bom mewn canolfan siopa yn Durban; mae Bobby Sands yn marw; mae MTV yn cael ei lansio; mae’r Boeing 767 yn gwneud ei thaith awyr gyntaf; mae Umkonto We Sizwe yn cyflawni ymosodiadau tanddaearol niferus yn erbyn y wladwriaeth apartheid. Cafwyd daeargryn a laddodd oddeutu 150 o bobl yn Tsieina; cynhelir Cynhadledd Cyrff Anllywodraethol Ryngwladol ar Boblogaethau Brodorol a’r Tir yng Ngenefa. Caiff yr enw ‘rhyngrwyd’ ei grybwyll am y tro cyntaf; etholwyd Hosni Mubarack yn llywydd yr Aifft; mae coup d’etat yn Ghana; mae’r Dywysoges Diana o Brydain yn priodi Charles; mae Bob Marley yn marw; mae De Affrica apartheid yn ymosod ar Angola; mae AIDS yn cael ei adnabod/ei greu/ei enwi; mae Salman Rushdie yn cyhoeddi ei lyfr “Midnight’s Children”; canfyddir gweddillion y Titanic; mae Muhammad Ali yn ymddeol; adnewyddir gorchymyn alltudiaeth Winnie Mandela am 5 mlynedd arall; mae’r baban tiwb prawf cyntaf yn cael ei eni, mae Thomas Sanakara yn reidio beic i’w gyfarfod cabinet cyntaf; mae Machu Pichu yn cael ei ddynodi’n safle treftadaeth; mae ei mam-gu ar ochr ei thad yn marw yn sgil effaith dementia; yn y flwyddyn honno mae miliynau o bobl yn crio dagrau (o bob math), yn siarad geiriau mewn llawer o ieithoedd a biliynau o bobl yn breuddwydio…. parhaodd rhai pethau, trawsnewidiwyd rhai pethau, daeth eraill i ben(?). Mae’n debyg bod poblogaeth ddynol y byd oddeutu 4.529 biliwn… heddiw mae hi (Bopape) yn un ymhlith 7 biliwn – sy’n meddiannu ansoddeiriau lluosog. Efallai fod digwyddiadau cydamserol eraill blwyddyn ei genedigaeth, a’i hoes, yn rhy niferus i’w hadnabod yn llawn….

 

 

Mae gan Marie Hélène Pereira radd ym maes Rheoli a Chyfraith Busnes Rhyngwladol ac ar ôl ychydig flynyddoedd yn gweithio ym myd busnes, symudodd ei diddordeb proffesiynol i faes y celfyddydau a diwylliant. Ar hyn o bryd mae’n Guradur ac yn Gyfarwyddwr Rhaglenni yn RAW Material Company, Senegal, lle mae wedi trefnu arddangosfeydd a rhaglenni cynhwysfawr cysylltiedig gan gynnwys cyfraniad Raw Material Company at “We face forward: Art from West Africa Today” Whitworth Art Gallery, Manceinion; CI Curatorial Hub yn TEMP, Efrog Newydd; Y 9fed Shanghai Biennial, Shanghai; MARKER Art Dubai (2013). Mae ei diddordebau’n cynnwys gwleidyddiaeth hunaniaeth, a hanes mudo.

 

 

Elvira Dyangani Ose yw Cyfarwyddwr y Showroom Gallery, Llundain. Cyn hyn, roedd ganddi swyddi curadurol yn Creative Time, sefydliad nid er elw yn Efrog Newydd, Götborg International Biennal for Contemporary art, a Tate Modern (Celf Ryngwladol). Mae’n ddarlithydd mewn diwylliannau gweledol yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain, ac mae ei gwaith ymchwil curadurol ac academaidd wedi canolbwyntio ar y cysylltiadau rhwng celf fyd-eang, ôl-wladychiaeth ac astudiaethau amgueddfa.

 

 

Mae Evan Ifekoya yn artist ac yn weithiwr ynni sydd, drwy ymchwiliadau archifol a sonig, yn dyfalu’n helaeth ynghylch duwch. Yn 2018 fe wnaethant sefydlu Black Obsidian Sound System (B.O.S.S.) a gaiff ei redeg ar y cyd a gan QTIBPOC (queer, trans*, intersex, black and people of colour) Maen nhw wedi cyflwyno arddangosfeydd a pherfformiadau ledled Ewrop ac yn Rhyngwladol, yn fwyaf diweddar: Biennial Lerpwl (2021); Gus Fischer Seland Newydd (2020); IDe Appel yr Iseldiroedd (2019); Gasworks Llundain (2018).

 

 

Mae Tina Pasotra yn artist a gwneuthurwr ffilmiau amlddisgyblaethol y mae ei hymarfer yn pontio theatr, dawns, ffasiwn, ffilm, gosodiadau a phensaernïaeth – a ysbrydolir gan groestoriadedd a phrofiadau wedi’u byw. Ochr yn ochr â datblygu ei phrosiectau ei hun, mae Pasotra wedi gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru fel cyfarwyddwr newydd ar gyfer eu perfformiad theatr ymgollol byw ‘The Insatiable, Inflatable Candylion’ a chynorthwyodd y Cyfarwyddwr Artistig Kully Thiari ar ‘Sisters’ – gwaith sydd ar y gweill gan fenywod sy’n artistiaid Prydeinig-Asiaidd ac Indiaidd blaenllaw fel rhan o dymor pwysig o gydweithio artistig i nodi Blwyddyn Diwylliant y DU-India. Mae naratif byr cyntaf Pasotra,’I Choose’ ar gael ar BBC iPlayer.

GWYLIO: Wrth y bwrdd gyda Firelei Báez

GWYLIO: Wrth y bwrdd gyda Firelei Báez

Mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Artes Mundi yn lansio ein sgwrs am ddim gyntaf yn yr fwrdd gyda’r artist Firelei Báez.

 

 

Mae Wrth y bwrdd yn dwyn ynghyd leisiau’r chwe artist ar restr fer Artes Mundi 9 ochr yn ochr â rhai curaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron. Bydd y sgyrsiau’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yn eu gwaith a’r berthynas gydblethedig rhwng hanesion ac arferion, o’r lleol i’r rhyngwladol.

 

 

Mae’r cyntaf o chwe digwyddiad Wrth y bwrdd yn cyflwyno’r artist Firelei Báez mewn sgwrs â Rachel Kent, Prif Guradur Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes Awstralia; Dr. Francesca Sobande, darlithydd Astudiaethau Cyfryngau Digidol ym Mhrifysgol Caerdydd; a’r artist gweledol, ymchwilydd a chyflwynydd Dr. Adéọlá Dewis. Gan ddychmygu ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu pryd o fwyd ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artistiaid a’u gwaith.

 

 

Ganwyd Firelei Báez yn y Weriniaeth Ddominicaidd ac mae’n byw ac yn gweithio yn Efrog Newydd. Caiff ei chynrychioli gan James Cohan, Efrog Newydd. Mae Báez wedi cynnal arddangosfeydd unigol yn 2019 yn Amgueddfa Gelf Mennello, Orlando; Canolfan Celfyddyd Gyfoes Witte de With, Rotterdam; a’r Modern Window yn yr Amgueddfa Celfyddyd Fodern, Efrog Newydd. Trefnwyd ei harddangosfa unigol fawr yn 2015 Bloodlines gan Amgueddfa Gelf Pérez Miami a theithiodd i Amgueddfa Andy Warhol yn Pittsburgh. Yn 2017 cafodd ei dethol i fod ar y rhestr fer ar gyfer Future Generation Art Prize Sefydliad Celfyddyd Pinchuk, arddangosodd yn 57fed Biennale Fenis ac yn 2019 dyfarnwyd Cymrodoriaeth Gelfyddydau Soros iddi.

 

 

Mae Dr. Adéọlá Dewis yn artist gweledol, ymchwilydd a chyflwynydd sydd wedi’i lleoli yng Nghymru. Mae’n hanu o Trinidad a Tobago, ac mae ei gwaith yn archwilio mynegiadau o hunaniaeth a pherthyn yn y boblogaeth wasgaredig. Mae gwaith Dr. Dewis yn ystyried y ffyrdd y gall perfformiadau rhyddfreiniol fel Carnifal, dawnsiau masgiau a defodau lywio dulliau o fynd ati i greu celf. Ar hyn o bryd, hi yw Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Laku Neg: menter artistiaid digidol sydd ar gynnydd ar gyfer artistiaid gwasgaredig Affricanaidd, sy’n hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth y boblogaeth wasgaredig Affricanaidd drwy gof, athroniaeth, perfformiad ac adrodd straeon, fel ffocws allweddol ar gyfer agenda gwneud iawn. Mae hi’n ddarlithydd sy’n cael ei thalu fesul awr ym Mhrifysgol De Cymru hefyd.

 

 

Rachel Kent yw Prif Guradur Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes (MCA) Awstralia. Mae’n arweinydd celfyddydol a hanesydd celf profiadol, ac mae’n siarad ac yn cyhoeddi’n eang ar gelfyddyd fodern a chyfoes, gyda diddordeb arbennig mewn themâu amgylcheddol a hawliau dynol. Mae Rachel yn rheithiwr ar gyfer gwobrau celf gyfoes yn Asia ac Ewrop; ac mae’n aelod o amrywiaeth o baneli cynghori a golygyddol academaidd, llywodraeth a diwylliannol.

 

 

Mae Dr.Francesca Sobande yn Ddarlithydd mewn Astudiaethau Cyfryngau Digidol yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (Prifysgol Caerdydd). Hi yw Cyfarwyddwr Cwrs y rhaglen BA Cyfryngau, Newyddiaduraeth a Diwylliant ac mae’n aelod o’r Labordy Cyfiawnder Data. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio’n benodol ar ddiwylliant digidol, y boblogaeth wasgaredig Ddu, ffeministiaeth, gwaith creadigol, pŵer a diwylliant poblogaidd. Dr. Sobande yw awdur The Digital Lives of Black Women in Britain (Palgrave Macmillan, 2020) ac mae ar fwrdd ymddiriedolwyr Artes Mundi. Mae hi hefyd yn gydawdur llyfr sydd i’w gyhoeddi’n fuan gyda Layla-Roxanne Hill sef Black Oot Here: Black Lives in Scotland (Bloomsbury/Zed Books, 2022).

Taith Disgrifio Sain: Dineo Seshee Bopape

Taith Disgrifio Sain: Dineo Seshee Bopape

Ymunwch ag Artes Mundi a’r disgrifydd sain Anne Hornsby ar gyfer cyfres o deithiau o amgylch Artes Mundi 9. Wedi’i gynllunio ar gyfer pobl Ddall a Rhannol Ddall, bydd pob sesiwn yn archwilio detholiad o weithiau celf neu eiliadau gan artistiaid sydd wedi ennill gwobrau Artes Mundi 9. Mae’r daith hon yn Saesneg.

 

 

Mae Anne Hornsby yn arloeswr ym maes sain-ddisgrifio yn y DU, ac roedd yn gyfrifol am gyflwyno’r ail wasanaeth sain-ddisgrifio yn Lloegr yn Theatr Octagon, Bolton, ym 1989. Lansiodd Mind’s Eye ym 1992 i gynnig sain-ddisgrifiad ar gyfer theatrau, orielau, amgueddfeydd, dawns, gwyliau ffilm a chynnwys ar-lein. Mae hi wedi ennill dwy wobr am ei gwaith ac mae’n hyfforddwr achrededig. Cyn y cyfyngiadau symud, roedd hi’n sain-ddisgrifio dros 100 o ddigwyddiadau’r flwyddyn yn ogystal â chynnig hyfforddiant yn rheolaidd. Mae hi’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Gymru, er yn rhithwir, ac ehangu mynediad i’r arddangosfa.

 

 

Mae gwaith cynhwysfawr Dineo Seshee Bopape yn ymdrin â syniadau cymdeithasol-wleidyddol ynglŷn â’r cof (o’r personol i’r torfol, yr hysbys a’r anhysbys), adrodd straeon a chynrychiolaeth fel ffurfiau cydgysylltiedig. Mae ei gwaith yn aml yn defnyddio ystod eang o ddeunyddiau cyffredin ac elfennol megis pridd, brics a choed, gyda gwrthrychau hapgael a delweddau archifol, fideo a sain i ddatblygu gosodweithiau swmpus a grymus. Mae’r rhain yn dwyn at ei gilydd y nefolaidd a’r daearol, y corfforol a’r metaffisegol, y personol a’r torfol. Er enghraifft, yn ei gwaith i Fiennale Berlin yn 2018, roedd golau oren yn trochi ystafell islawr llawn gwrthrychau ar chwâl fel malurion, ochr yn ochr â fideos gan gynnwys rhai’n dangos trais rhywiol yn erbyn gwragedd duon a ffilmiau o chwalfa feddyliol Nina Simone ar lwyfan. Fe greodd awyrgylch pwerus, llawn tyndra a rhithbair bron o anghysur ac anesmwythyd.

Taith Disgrifio Sain: Meiro Koizumi

Taith Disgrifio Sain: Meiro Koizumi

Ymunwch ag Artes Mundi a’r disgrifydd sain Anne Hornsby ar gyfer cyfres o deithiau o amgylch Artes Mundi 9. Wedi’i gynllunio ar gyfer pobl Ddall a Rhannol Ddall, bydd pob sesiwn yn archwilio detholiad o weithiau celf neu eiliadau gan artistiaid sydd wedi ennill gwobrau Artes Mundi 9. Mae’r daith hon yn Saesneg.

 

 

Mae Anne Hornsby yn arloeswr ym maes sain-ddisgrifio yn y DU, ac roedd yn gyfrifol am gyflwyno’r ail wasanaeth sain-ddisgrifio yn Lloegr yn Theatr Octagon, Bolton, ym 1989. Lansiodd Mind’s Eye ym 1992 i gynnig sain-ddisgrifiad ar gyfer theatrau, orielau, amgueddfeydd, dawns, gwyliau ffilm a chynnwys ar-lein. Mae hi wedi ennill dwy wobr am ei gwaith ac mae’n hyfforddwr achrededig. Cyn y cyfyngiadau symud, roedd hi’n sain-ddisgrifio dros 100 o ddigwyddiadau’r flwyddyn yn ogystal â chynnig hyfforddiant yn rheolaidd. Mae hi’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Gymru, er yn rhithwir, ac ehangu mynediad i’r arddangosfa.

 

 

Mae fideo Meiro Koizumi yn ymchwilio i’r ffiniau rhwng y preifat a’r cyhoeddus, y dilys a’r trefnedig, yn enwedig fel a welir mewn adegau o gofio torfol neu ddinesig, maes sydd o bwysigrwydd penodol i’w dreftadaeth ddiwylliannol Japaneaidd. Yn aml, bydd ei waith yn ymdrin yn benodol ag eiliadau unigol lle y gofynnir cwestiynau am sut gallen ni ymgysylltu ac ymwneud â a wynebu eiliadau poenus yn hanes cenedl a sut yr ydym yn cofio gwrthdaro heb syrthio’n ôl ar hiraeth am yr hyn a fu, adolygiadaeth neu bropaganda jingoistaidd. Yn nodweddiadol, mae ei fideos yn datblygu i gyflwyno sefyllfaoedd beunyddiol sydd wedi’u trawsnewid yn rhai llawn tyndra. Ei waith Battlelands (2018) oedd y tro cyntaf i’r artist weithio gyda thestunau nad oeddent yn Japaneaidd, gyda Koizumi yn ymchwilio i ddimensiwn seicolegol trais rhyfel drwy berfformiadau gan bump o gyn-filwyr Americanaidd o ryfeloedd yn Irac ac Affganistan. Gwrthbwysir eu straeon am brofiadau trawmatig drwy ddarlunio gofodau domestig eu cartrefi a thirweddau America a grëwyd gan y cyn-filwyr yn gwisgo camerâu corff i greu gofod materol a meddyliol teimladwy’r rheini sy’n dychwelyd o ryfel.

Taith Disgrifio Sain: Prabhakar Pachpute

Taith Disgrifio Sain: Prabhakar Pachpute

Ymunwch ag Artes Mundi a’r disgrifydd sain Anne Hornsby ar gyfer cyfres o deithiau o amgylch Artes Mundi 9. Wedi’i gynllunio ar gyfer pobl Ddall a Rhannol Ddall, bydd pob sesiwn yn archwilio detholiad o weithiau celf neu eiliadau gan artistiaid sydd wedi ennill gwobrau Artes Mundi 9. Mae’r daith hon yn Saesneg.

 

 

Mae Anne Hornsby yn arloeswr ym maes sain-ddisgrifio yn y DU, ac roedd yn gyfrifol am gyflwyno’r ail wasanaeth sain-ddisgrifio yn Lloegr yn Theatr Octagon, Bolton, ym 1989. Lansiodd Mind’s Eye ym 1992 i gynnig sain-ddisgrifiad ar gyfer theatrau, orielau, amgueddfeydd, dawns, gwyliau ffilm a chynnwys ar-lein. Mae hi wedi ennill dwy wobr am ei gwaith ac mae’n hyfforddwr achrededig. Cyn y cyfyngiadau symud, roedd hi’n sain-ddisgrifio dros 100 o ddigwyddiadau’r flwyddyn yn ogystal â chynnig hyfforddiant yn rheolaidd. Mae hi’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Gymru, er yn rhithwir, ac ehangu mynediad i’r arddangosfa.

 

 

Mae gwaith Prabhakar Pachpute yn ystyried yr amodau gwaith, y cloddio di-baid, y datblygu cymdeithasol anghyfartal a gwleidyddiaeth y tir sydd wedi’u gwreiddio yn ei dalaith frodorol Chandrapur, sy’n cael ei hadnabod fel ‘dinas yr aur du”. Yn hanu o dair cenhedlaeth o lowyr, mae ei arluniau manwl gywir, ei animeiddiadau a’i ddefnydd o siarcol yn gysylltiedig yn uniongyrchol â’i destun a’i wreiddiau teuluol. Yn aml yn arlunio’n syth ar waliau, mae defnydd Pachpute o fotiffau swrrealaidd yn creu gosodweithiau murol aruthrol ac amgylcheddau ymdrwythol o dirweddau dychmygol a ffigurau cymysgryw sy’n mynd i’r afael yn feirniadol â materion fel llafur, ecsbloetio a’r ffordd y mae’r unigolyn yn cael ei lyncu i’r torfol. Yn symud rhwng y personol a’r byd-eang, mae Pachpute yn ymdrin â chymhlethdod o drawsnewidiadau hanesyddol ar lwyfan economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Taith Disgrifio Sain: Carrie Mae Weems

Taith Disgrifio Sain: Carrie Mae Weems

Ymunwch ag Artes Mundi a’r disgrifydd sain Anne Hornsby ar gyfer cyfres o deithiau o amgylch Artes Mundi 9. Wedi’i gynllunio ar gyfer pobl Ddall a Rhannol Ddall, bydd pob sesiwn yn archwilio detholiad o weithiau celf neu eiliadau gan artistiaid sydd wedi ennill gwobrau Artes Mundi 9. Mae’r daith hon yn Saesneg.

 

 

Mae Anne Hornsby yn arloeswr ym maes sain-ddisgrifio yn y DU, ac roedd yn gyfrifol am gyflwyno’r ail wasanaeth sain-ddisgrifio yn Lloegr yn Theatr Octagon, Bolton, ym 1989. Lansiodd Mind’s Eye ym 1992 i gynnig sain-ddisgrifiad ar gyfer theatrau, orielau, amgueddfeydd, dawns, gwyliau ffilm a chynnwys ar-lein. Mae hi wedi ennill dwy wobr am ei gwaith ac mae’n hyfforddwr achrededig. Cyn y cyfyngiadau symud, roedd hi’n sain-ddisgrifio dros 100 o ddigwyddiadau’r flwyddyn yn ogystal â chynnig hyfforddiant yn rheolaidd. Mae hi’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Gymru, er yn rhithwir, ac ehangu mynediad i’r arddangosfa.

 

 

Un o’r artistiaid cyfoes mwyaf dylanwadol o America sy’n gweithio heddiw yw Carrie Mae Weems, sydd, drwy ei gwaith dros dri deng mlynedd, wedi ymchwilio i a chanolbwyntio ar y materion difrifol sy’n wynebu Americanwyr Affricanaidd, yn enwedig perthnasoedd teuluol, hunaniaeth ddiwylliannol, rhywiaeth, dosbarth, systemau gwleidyddol a chanlyniadau grym. Yn fwy diweddar, mae’n gweld ei gwaith yn siarad y tu hwnt i’r profiad Du i gwmpasu cymhlethdod y profiad dynol ehangach a chynhwysiant cymdeithasol. Er ei bod yn fwyaf adnabyddus am ei gwaith gyda ffotograffiaeth, mae ei chorff gwaith cymhleth ac arobryn yn defnyddio delweddau drwy osodwaith, perfformio a fideo, gan symud o’r dogfennol i greu lluniau a drefnir yn ofalus i adeiladu naratifau. Yn aml, mae wedi defnyddio ei hun yn ei gwaith, gan ddefnyddio’r ddelwedd luniedig fel cyfrwng i gwestiynu syniadau ac fel modd i gynrychioli delweddau o gymunedau duon, yn arbennig merched, sydd yn aml wedi’u cau allan o gael eu cynrychioli yn y brif ffrwd. Mae’r cyrff hyn o waith ffotograffig wedi estyn y cyfleoedd ar gyfer merched duon eraill o artistiaid.

Taith Disgrifio Sain: Beatriz Santiago Muñoz

Taith Disgrifio Sain: Beatriz Santiago Muñoz

Ymunwch ag Artes Mundi a’r disgrifydd sain Anne Hornsby ar gyfer cyfres o deithiau o amgylch Artes Mundi 9. Wedi’i gynllunio ar gyfer pobl Ddall a Rhannol Ddall, bydd pob sesiwn yn archwilio detholiad o weithiau celf neu eiliadau gan artistiaid sydd wedi ennill gwobrau Artes Mundi 9. Mae’r daith hon yn Saesneg.

 

 

Mae Anne Hornsby yn arloeswr ym maes sain-ddisgrifio yn y DU, ac roedd yn gyfrifol am gyflwyno’r ail wasanaeth sain-ddisgrifio yn Lloegr yn Theatr Octagon, Bolton, ym 1989. Lansiodd Mind’s Eye ym 1992 i gynnig sain-ddisgrifiad ar gyfer theatrau, orielau, amgueddfeydd, dawns, gwyliau ffilm a chynnwys ar-lein. Mae hi wedi ennill dwy wobr am ei gwaith ac mae’n hyfforddwr achrededig. Cyn y cyfyngiadau symud, roedd hi’n sain-ddisgrifio dros 100 o ddigwyddiadau’r flwyddyn yn ogystal â chynnig hyfforddiant yn rheolaidd. Mae hi’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Gymru, er yn rhithwir, ac ehangu mynediad i’r arddangosfa.

 

 

Mae Beatriz Santiago Muñoz yn fwyaf adnabyddus am ffilmiau sydd wedi’u gwreiddio mewn cyfnodau hirfaith o arsylwi ac ymchwil gan gyfuno agweddau ar ethnograffeg a theatr i edrych ar amodau cymdeithasol a gwleidyddol Puerto Rico, ei mamwlad, a’r Carabî. Yn aml, bydd ei gwaith yn canolbwyntio ar ailddatblygu a boneddigeiddio tirwedd Puerto Rico drwy seilwaith newydd neu brosiectau twristaidd neu rymoedd naturiol fel stormydd a daeargrynfeydd diweddar. Gan gydweithio ag ystod eang o bobl o wahanol gefndiroedd gan gynnwys iachawyr, actifyddion, cyn-garcharorion gwleidyddol a chigyddion, mae Muñoz yn ystyried yr unigolion hyn fel prif weithredwyr potensial trawsnewidiol ei chamera. Mewn ffordd farddonol, mae ei gwaith yn datgelu sut mae’r grymoedd yma er newid yn effeithio ar gymunedau lleol.

Taith Disgrifio Sain: Firelei Báez

Taith Disgrifio Sain: Firelei Báez

Ymunwch ag Artes Mundi a’r disgrifydd sain Anne Hornsby ar gyfer cyfres o deithiau o amgylch Artes Mundi 9. Wedi’i gynllunio ar gyfer pobl Ddall a Rhannol Ddall, bydd pob sesiwn yn archwilio detholiad o weithiau celf neu eiliadau gan artistiaid sydd wedi ennill gwobrau Artes Mundi 9. Mae’r daith hon yn Saesneg.

 

Mae Anne Hornsby yn arloeswr ym maes sain-ddisgrifio yn y DU, ac roedd yn gyfrifol am gyflwyno’r ail wasanaeth sain-ddisgrifio yn Lloegr yn Theatr Octagon, Bolton, ym 1989. Lansiodd Mind’s Eye ym 1992 i gynnig sain-ddisgrifiad ar gyfer theatrau, orielau, amgueddfeydd, dawns, gwyliau ffilm a chynnwys ar-lein. Mae hi wedi ennill dwy wobr am ei gwaith ac mae’n hyfforddwr achrededig. Cyn y cyfyngiadau symud, roedd hi’n sain-ddisgrifio dros 100 o ddigwyddiadau’r flwyddyn yn ogystal â chynnig hyfforddiant yn rheolaidd. Mae hi’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Gymru, er yn rhithwir, ac ehangu mynediad i’r arddangosfa.

 

Mae gwaith trawiadol Firelei Báez yn ailwampio testunau a delweddau sydd wedi’u cloddio o naratifau eang y diaspora wrth fynd i’r afael â chwestiynau sy’n ymwneud â hunaniaeth ddiwylliannol ac ymfudo i edrych ar bosibiliadau newydd i’r dyfodol. Mae ei phaentiadau hynod, lliwgar a manwl, sydd weithiau wedi’u cyfuno’n osodweithiau cerfluniol mawr, yn dwyn at ei gilydd fapiau trefedigaethol dan orchudd ciwiau gweledol symbolaidd sy’n ymestyn o decstiliau a gorchuddion waliau moethus gyda motiffau blodeuog o’r oes drefedigaethol i batrymau caligraffig, gweadau gwallt, penwisgoedd pluog a gemwaith gleiniog. Yn aml yn cynnwys protagonyddion benywaidd cryfion, mae ei gweithiau’n ymgorffori ieithoedd gweledol mytholeg a hanesion y Carabî ochr yn ochr â’r rheini a geir mewn ffuglen a ffantasi wyddonol i ddarlunio hunaniaethau fel pethau ansefydlog a straeon a etifeddir fel rhai sy’n esblygu o hyd tuag at fydoedd a chyflyrau bodolaeth dychmygol a newydd.

Cyhoeddiad Gwobr 9 Artes Mundi

Cyhoeddiad Gwobr 9 Artes Mundi

Yn fyw ar-lein: Dydd Iau Mehefin 17, 7pm BST

 

Ymunwch â ni yma i gael cyhoeddiad byw enillydd Gwobr Artes Mundi 9. Bydd y fideo gyferbyn yn dod yn ddolen fyw i’r cyhoeddiad am 7pm ar 17 Mehefin.

GWYLIO: NOW BEGIN <br> gan CDCCymru Cymdeithion

GWYLIO: NOW BEGIN
gan CDCCymru Cymdeithion

Mae ‘Now Begin’ yn arddangos 12 artist ifanc yn rhannu eu dyheadau am newid yn y byd. Wedi’i hysbrydoli gan themâu protest arddangosfa Artes Mundi Prabhakar Pachpute, mae’r artistiaid dawns hyn yn rhannu eu gweledigaeth ar gyfer dechrau newydd drwy symudiad a llais. Cerddoriaeth gan Tic Ashfield. Ffilmio gan Gavin Porter.

 

Choreograffi: Kokoro Arts Ltd mewn cydweutgreduad â Phartneriaid CDCCymru
Sain a Cyfansoddiad: Tic Ashfield
Ffilm: Gavin Porter
Ysbrydoliaeth Artistig:  Prabhakar Pachpute (As part of Artes Mundi 9)
Curadur Rhaglenni Cyhhoeddus Artes Mundi 9: Letty Clarke
Cynhyrchydd: Guy O’Donnell
Dawbswyr: Milly Connor, Ellie Gale, Briony Harris, Claire-Isabella Irwin, Mollie Jenkins, Alice Land, Cerys Lewis, Megan Morgan, Celyn Powell, Carys Richards, Sian Roderick, Heidi Thomas, Harly Videan, Robyn Weldon.

GWRANDO: Wrth y bwrdd gyda Prabhakar Pachpute

GWRANDO: Wrth y bwrdd gyda Prabhakar Pachpute

Mae’r olaf o chwe phodlediad yn y gyfres ‘Wrth y bwrdd’ yn cyflwyno’r artist Prabhakar Pachpute mewn sgwrs gyda’r curadur a’r darlithydd, Zasha Colah; Siân Williams, Pennaeth Casgliadau Arbennig a Llyfrgellydd Llyfrgell y Glowyr De Cymru ym Mhrifysgol Abertawe a Yr Athro Radhika Mohanram, Athro Saesneg yn y Ganolfan Theori Beirniadol a Diwylliannol ym Mhrifysgol Caerdydd. Recordiwyd y podlediad hwn yn ystod gweminar byw.

 

Cyflwynir mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

 

Wedi’i gyflwyno yn Saesneg.

GWRANDO: Wrth y bwrdd gyda Meiro Koizumi

GWRANDO: Wrth y bwrdd gyda Meiro Koizumi

Mae’r pumed o chwe digwyddiad yn y gyfres At the table yn cyflwyno’r artist Meiro Koizumi mewn sgwrs â Zoe Butt, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Celfyddydau Cyfoes y Ffatri, Dinas Ho Chi Minh; y cymdeithasegydd a’r hanesydd cymharol, Abu-Bakr Madden Al-Shabazz; ac Evie Manning, Cyfarwyddwr Cyd-Artistig y cwmni theatr Common Wealth.

 

Rhybudd Cynnwys: Mae’r podlediad hwn yn cynnwys disgrifiadau o brofiadau troseddau rhyfel.

 

Mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

 

Wedi’i gyflwyno yn Saesneg.

GWRANDO: Wrth y bwrdd gyda Carrie Mae Weems

GWRANDO: Wrth y bwrdd gyda Carrie Mae Weems

Mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Artes Mundi yn lansio ein sgwrs am ddim gyntaf yn yr fwrdd gyda’r artist Carrie Mae Weems. Mae’r olaf ond un o chwe digwyddiad Wrth y bwrdd yn cyflwyno’r artist Carrie Mae Weems mewn sgwrs gyda’r artist a’r athro Sonia Boyce, OBE; Thomas J. Lax, Curadur y Cyfryngau a Pherfformiad yn MoMA (Efrog Newydd); yr artist, awdur a’r curadur Umulkhayr Mohamed; a’r artist, steilydd a Sylfaenydd DOCKS Magazine, Nicole Ready. Gan ddychmygu ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu pryd o fwyd ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’i waith. Wedi’i gyflwyno yn Saesneg.

 

GWRANDO: Wrth y bwrdd gyda Beatriz Santiago Muñoz

GWRANDO: Wrth y bwrdd gyda Beatriz Santiago Muñoz

Mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Artes Mundi yn lansio ein sgwrs am ddim gyntaf yn yr fwrdd gyda’r artist Beatriz Santiago Muñoz. Mae’r trydydd o chwe digwyddiad yng Wrth y bwrdd yn cyflwyno’r artist Beatriz Santiago Muñoz mewn sgwrs â’r anthropolegydd, bardd ac artist perfformio ffeministaidd, Dr Gina Athena Ulysse; Francis McKee, Cyfarwyddwr Canolfan Celfyddyd Gyfoes, Glasgow; a churadur, gwneuthurwr ffilmiau, a Sylfaenydd Black Film Festival Wales, Yvonne Connikie. Gan ddychmygu ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu pryd o fwyd ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau.

GWRANDO: Wrth y bwrdd gyda Dineo Seshee Bopape

GWRANDO: Wrth y bwrdd gyda Dineo Seshee Bopape

Mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Artes Mundi yn lansio ein sgwrs am ddim gyntaf yn yr fwrdd gyda’r artist Dineo Seshee Bopape. Mae’r ail o chwe digwyddiad yn y gyfres Wrth y bwrdd yn cyflwyno’r artist Dineo Seshee Bopape mewn sgwrs gyda Marie Hélène Pereira, Curadur a Chyfarwyddwr Rhaglenni yn Raw Material Company, Senegal; Elvira Dyangani Ose, Cyfarwyddwr Oriel y Showroom Gallery, Llundain; yr artist a’r gweithiwr ynni, Evan Ifekoya; a’r artist a’r gwneuthurwr ffilmiau, Tina Pasotra. Gan ddychmygu ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu pryd o fwyd ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’i waith.

GWRANDO: Wrth y bwrdd gyda Firelei Báez 

GWRANDO: Wrth y bwrdd gyda Firelei Báez 

Mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Artes Mundi yn lansio Wrth y bwrdd gyda’r artist Firelei Báez mewn sgwrs â Rachel Kent, Prif Guradur Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes Awstralia; Dr. Francesca Sobande, darlithydd Astudiaethau Cyfryngau Digidol ym Mhrifysgol Caerdydd; a’r artist gweledol, ymchwilydd a chyflwynydd Dr. Adéọlá Dewis. Wedi’i gyflwyno yn Saesneg.