Steffan Gwynn

Penillion Rhyddid

For the fifth commission in our series of texts developed as responses to some of Artes Mundi 10’s thematic throughlines, we present a fragment from a developing body of memoiristic fiction by Steffan Gwynn, which has been informed by Naomi Rincón Gallardo’s film trilogy at Chapter. Like previous texts in this series, ‘Penillion Rhyddid’ combines the mining of memory and personal experience with an emphasis on the political histories embedded in specific landscapes, in what is also a trance-like narrative of queer nightlife, protest and grief. (For more of Steffan’s geopoetic fiction, listen to his episode of the PenRhydd podcast with Marged Tudur and Grug Muse.)

Mae’r diweddaraf yn ein cyfres o gomisiynau sgwennu, sydd wedi’u datblygu fel ymatebion i themâu rhaglen Artes Mundi 10, yn ddarn o awtoffuglen arbrofol gan Steffan Gwynn dan ddylanwad trioleg o ffilmiau gan Naomi Rincón Gallardo yn Chapter. Fel ambell destun arall yn y gyfres, mae ‘Penillion Rhyddid’ yn cyfuno ymdeimlad o gloddio i gof a phrofiad personol a phwyslais ar sut caiff hanesion gwleidyddol eu hymgorffori gan dirweddau. Mae hefyd yn naratif hypnotaidd o fywyd nos, protest a galar cwiar. (I glywed mwy o ffuglen geopoetig Steffan, gwrandwch ar ei bennod o bodlediad PenRhydd gyda Marged Tudur a Grug Muse.)

 

 

 

dwi’n dyheu am gael camu o’r llwyfan am y tro a diflannu yng ngwres y cyrff sy’n symud fel un ton, yn gerrynt byw o fy mlaen, yn dyheu am gael suddo i ganol y cyfan fel na fydda i’n gweld y byd hwn, na gwrando na sylweddoli, dim ond teimlo fy ffordd i dir breuddwydion, at rhyw fan sydd y tu hwnt i ni’n dau, yn rhywle a alwn weithiau yn ryddid, ond mynnu hoelio fy sylw a wna rhuthr y rhythmau wrth iddyn nhw dreiglo’r oriau ar hyd hen wynebau’r chwarel–

 

Read the full text here | darllennwch y gweddill fan hyn

Steffan Gwynn is a landscape architect who frequently writes on related topics. Recent work has been published in O’r Pedwar Gwynt and The Ethnobotanical Assembly. He is originally from Uwch Gwyrfai, and will this year be running a deep mapping creative-engagement project with Yr Orsaf in Dyffryn Nantlle, which will explore that community’s relationship to its natural environment.

Pensaer tirwedd yw Steffan Gwynn ac mae’n ysgrifennu ar faterion cysylltiedig. Cyhoeddwyd ei waith yn fwyaf diweddar yn O’r Pedwar Gwynt a The Ethnobotanical Assembly. Yn frodor o Uwch Gwyrfai, eleni mi fydd yn gyfrifol am redeg prosiect mapio dwfn gyda chanolfan Yr Orsaf yn Nyffryn Nantlle, a fydd yn archwilio’r berthynas rhwng y gymuned a’i hamgylchfyd leol trwy ddulliau ymgysylltu creadigol.