Artes Mundi 4
11 Mawrth
- 6 Mehefin 2010
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
O ffresco ac arlunio i ffotograffiaeth a ffilm, bu Artes Mundi 4 yn 2010 yn edrych ar wahanol fydoedd a phrofiadau drwy gelf gyfoes. Derbyniwyd dros 500 o enwebiadau gan dros 80 o wledydd, gyda’r 8 artist ar y rhestr fer yn cael eu dewis o’u plith.
Credit:
Credit:
Credit:
Enillydd Gwobr Artes Mundi 4 oedd Yael Bartana, artist o Israel.
Viktor Misiano, curadur ac awdur llawrydd
Levent Calikoğlu, Prif Guradur yn Amgueddfa Celf Fodern Istanbwl
Eugenio Dittborn, artist â’i gartref yn Chile
Hannah Firth, Curadur a Phennaeth Celfyddydau Gweledol, Chapter, Caerdydd
Sarat Maharaj, Athro Celf Weledol a Systemau Gwybodaeth, Prifysgol Lund ac Academïau Celf Malmo, Sweden.
Adam Szymczyk, Cyfarwyddwr Kunsthalle Basel
Octavio Zaya, curadur ac awdur celf annibynnol
Gwobrau
Yael Bartana
Yael Bartana oedd enillydd Gwobr Artes Mundi 4.
Credit: Prize 4, artist portraits
Mae Bartana yn defnyddio ffotograffiaeth, delweddau symudol, sain a gosodiadau i greu delweddau cymhleth sy’n cwmpasu technegau dogfennu, efelychu ac ail-greu i archwilio perthynas yr unigolyn â strwythurau cymdeithasol.