Cefnogwch ni

Fy hoff Olygydd Celfyddydau o fri
Arts Editor Will Gompertz
on BBC News


Mae Artes Mundi yn dathlu'r
gorau mewn celfyddyd
gyfoes ryngwladol

BBC World Service

Y wobr gelf gyfoes fwyaf
gwerthfawr yn y Deyrnas Unedig

Art Asia Pacific

Mae'n teimlo'n wych i fod yn
rhan o arddangosfa ryngwladol
fel Artes Mundi gydag artistiaid
gwych ac mae gwneud
hynny yng Nghymru yn
ei wneud yn well fyth

Bedwyr Williams,
enillydd Gwobr Brynu
Derek Williams,
Artes Mundi 7


Dros y blynyddoedd,
mae Artes Mundi wedi
dewis artistiaid dawnus
tu hwnt ar gyfer y wobr
hon: roedd pob un ohonynt
yn artistiaid pwysig oedd yn
gwneud gwaith heriol a difyr,
ac mae ymuno â'r grŵp
hwnnw yn anrhydedd a
chyfrifoldeb enfawr.

John Akomfrah, enillydd,
Artes Mundi 7

Fel elusen gofrestredig, mae Artes Mundi yn dibynnu ar haelioni cefnogwyr a noddwyr ac mae eich ymgysylltiad hanfodol â’r hyn a wnawn yn sicrhau y gallwn barhau â’n gwaith gydag artistiaid a chymunedau.

 

Mae gan Artes Mundi enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth, gan feithrin partneriaethau gwaith newydd gyda sefydliadau celfyddydol cenedlaethol a rhyngwladol a chydweithio ag eraill ledled y DU a thramor, tra bod rhaglenni dysgu ac allgymorth yn creu cyfres amrywiol ac eang o gyfleoedd i’r cyhoedd a chymunedau ar draws Caerdydd a Chymru benbaladr.

 

Rydym yn gweithio’n galed er mwyn codi bron i £3 am bob £1 a gawn o arian cyhoeddus.

 

Os ydych yn unfryd â ni ynghylch y rhan hanfodol y gall ac y mae celf yn ei chwarae yn ein bywydau, yna beth am ystyried cefnogi ein gwaith.

 

Mae nifer o ffyrdd y gall eich haelioni wneud gwahaniaeth. Mae cymryd rhan yn sicrhau bod Artes Mundi yn parhau i gael effaith barhaol. Mae eich cefnogaeth a’ch anogaeth yn ein galluogi i barhau i ddarparu mynediad i’r gelfyddyd weledol gyfoes ryngwladol orau i bawb, tra’n cynnwys cymunedau ym mhopeth a wnawn yn rhad ac am ddim.

Credit: ARTES MUNDI Trebanog September 2016


Gwneud cyfraniad

Credit: Artes Mundi

Gall eich rhodd hael ein helpu i barhau i gynnig ein rhaglenni arddangos, dysgu ac ymgysylltu â’r gymuned yn rhad ac am ddim ac mewn modd sy’n hygyrch i bawb.

Os hoffech wybod mwy am sut gallwch chi neu’ch sefydliad ein cefnogi, cysylltwch â Lianne Toye drwy e-bost:

neu ffoniwch: 0300 7777 300


Cefnogwch ni

Partneriaid corfforaethol

Fel elusen nid-er-elw, rydyn ni’n mynd ati i geisio adeiladu partneriaethau drwy ymgysylltiad a chefnogaeth gorfforaethol

Cefnogwch ni

Unigolyn sy'n rhoi

Ein nod yw parhau i hyrwyddo, cynnal, gwella a datblygu'r angen i ymgysylltu â'r gymuned a'r cyhoedd gyda'r celfyddydau er budd pawb