Amdanom Ni
Cysylltu
Artes Mundi
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd,
Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP
+44 (0) 300 7777 300
info@artesmundi.org
Oriau’r swyddfa yw 9.30am - 5.30pm
O’r Lladin am ‘gelfyddydau’r byd’ i adlewyrchu’n ffocws ar wirioneddau cymdeithasol, cenhadaeth Artes Mundi yw dod â chelfyddyd ryngwladol eithriadol i Gymru a chreu cyfleoedd unigryw i unigolion a chymunedau lleol ymgysylltu’n greadigol â phynciau llosg ein hoes mewn ffyrdd sy’n taro tant gyda phob un ohonom. Rydym wedi ymrwymo i ysgogi deialogau a dadleuon, yn rhyngwladol ac yn lleol, sy’n datblygu gwell dealltwriaeth o’n hunain, o eraill, ac o’r berthynas rhwng diwylliannau cyfarwydd a phellennig.

Credit: John Akomfrah, Auto Da Fé, 2016. Artes Mundi 7 installation view, National Museum Cardiff, 2016. ©Smoking Dogs Films. Courtesy the artist and Lisson Gallery, London. Photo: James Woodley.

Credit: N.S. Harsha at Glynn Vivian, Swansea

Credit:
Gan weithredu o gyd-destun gwleidyddol datganoledig Cymru, mae Artes Mundi yn dathlu amrywiaeth ac yn chwarae rhan hanfodol o ran ehangu profiad diwylliannol. Nod pob agwedd ar ein gweithgarwch yw cynnal perthynas rhwng artistiaid, cynulleidfaoedd a chymunedau a dangos gallu’r celfyddydau gweledol i gyfathrebu ar draws ffiniau.
Wrth wraidd Artes Mundi mae’r Arddangosfa a’r Wobr a gynhelir bob yn ail flwyddyn, sy’n ddigwyddiadau â phroffil rhyngwladol helaeth ac enw da ymhlith y beirniaid. Drwy gyfrwng y rhain, rydym yn parhau i greu’r rhwydweithiau a’r enw da angenrheidiol, yn lleol ac o fewn y gymuned celfyddydau rhyngwladol, sy’n sylfaen hanfodol i raglen lawer ehangach o weithgarwch, rhaglen sy’n cael ei meithrin yn gyfannol er mwyn parhau i hyrwyddo a sicrhau manteision i, ac er mwyn, Cymru a’i chymunedau.
Ochr yn ochr â Gwobr Artes Mundi a chyda’n partneriaid yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, rydym yn gweinyddu Gwobr Brynu Derek Williams i gaffael gweithiau celf gyfoes sy’n rhan o Gasgliad Cenedlaethol Cymru sydd wrthi’n cael ei ddatblygu.
Mae Artes Mundi hefyd yn datblygu cydweithrediadau gydag amrywiaeth o leoliadau a phartneriaid trawsddisgyblaethol o Gaerdydd, y DU a thu hwnt, gan arwain at arddangosfeydd a chomisiynau gydag artistiaid, sy’n aml yn gysylltiedig â ni fel cyfranogwyr blaenorol yn y Wobr.
Mae addysg yn allweddol i’n gweithgareddau, gan hyrwyddo gwybodaeth, dealltwriaeth a thrafodaeth ar gyfer y cynulleidfaoedd ehangaf rydym yn cydweithio â nhw. Mae ein rhaglenni dysgu a’n rhaglenni cyhoeddus yn cynnwys sgyrsiau, teithiau, prosiectau allgymorth cymunedol hirsefydlog a gweithdai ar gyfer ysgolion, pobl ifanc a theuluoedd, pob un yn pwysleisio pwysigrwydd profiad personol o greu ystyr drwy ymgysylltu ac ymwneud â chelfyddyd weledol gyfoes.
Cwrdd â'r tîm
Diolch arbennig
I Artes Mundi 9, diolch arbennig i Heledd Evans, Sammy Jones, Gabin Kongolo, Gweni Llwyd, Nicole Ready ac Amy Treharne am eu gwaith fel Cynhyrchwyr Ymgysylltu ym maes datblygu a chyflwyno’r rhaglen gyhoeddus.
Hanes
Cyn-Gyfarwyddwyr
2002-11 Tessa Jackson
2011-12 Ben Borthwick
2012-19 Karen MacKinnon
Sefydlwyd Artes Mundi yn 2002 fel menter gan yr artist a’r entrepreneur diwylliannol, William Wilkins CBE, i fynd i’r afael â diffyg ymwybyddiaeth canfyddedig o gelf weledol gyfoes yng Nghymru a’r amharodrwydd i fentro mewn amgueddfeydd ac orielau a arweiniodd at ei chynrychiolaeth gyfyngedig yn eu rhaglenni. Ein partneriaid sefydlu oedd Cyngor Celfyddydau Cymru, BBC Cymru, Cyngor Caerdydd, Amgueddfa Cymru, Bwrdd Croeso Cymru ac Awdurdod Datblygu Cymru, a rannodd ein nod o ddod â rhai o artistiaid cyfoes mwyaf cyffrous y byd i Gymru. Rydym yn fwyaf adnabyddus am ein Harddangosfa a’n Gwobr ryngwladol sy’n cael eu cynnal yng Nghaerdydd bob dwy flynedd, a dyma un o sioeau celf gweledol cyfoes mwyaf a mwyaf cyffrous Cymru. Fel arfer, mae nifer yr artistiaid a ddewisir i’w harddangos yn amrywio bob tro, a dyfernir y wobr o £40,000, sef y wobr gelf fwyaf ym Mhrydain ac un o wobrau mwyaf arwyddocaol y byd, i un o’r artistiaid ar y rhestr fer.
Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Ymddiriedolwyr
Yr Athro Michael Tooby, Cadeirydd
Osei Bonsu
Dr Sabrina Cohen-Hatton
Derek Howell
Chelsea Pettitt
Adam Salkeld
Dr Francesca Sobande
Mae Artes Mundi Prize Ltd yn elusen gofrestredig. Fe’i rheolir gan Fwrdd Ymddiriedolwyr sy’n cynnwys unigolion uchel eu parch o fyd busnes, y gymuned celfyddydau gweledol a’r sector diwylliannol a phroffesiynol ehangach. Mae pob aelod o’r Bwrdd yn gwasanaethu, ynghyd â gwirfoddolwyr eraill, ar un neu fwy o bwyllgorau bwrdd sy’n mynd i’r afael â rolau penodol, i gefnogi gwaith Artes Mundi ar lefel gynllunio a lefel weithredol.
Cyllid
“Un o sefydliadau celfyddydol mwyaf gwefreiddiol Cymru”
Nick Capaldi, Prif Weithredwr,
Cyngor Celfyddydau Cymru
Mae Artes Mundi Prize Ltd yn elusen nid-er-elw gofrestredig sy’n dibynnu’n flynyddol ar gymorth gan unigolion, corfforaethau, noddwyr, ymddiriedolaethau a sefydliadau i ariannu costau ein holl raglenni, ochr yn ochr â’n refeniw cyhoeddus craidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd. Mae’r buddsoddiad hael hwn gan y sector cyhoeddus yn ei dro yn darparu’r potensial am ddylanwad pwysig er mwyn denu ystod amrywiol o ffynonellau preifat, gydag Artes Mundi yn codi’n agos at dair gwaith y lefel graidd hon o gefnogaeth bob blwyddyn yn gyson.

Credit: N.S. Harsha at Glynn Vivian, Swansea Photo © Polly Thomas
Rydym yn blaenoriaethu arloesedd, uchelgais a rhagoriaeth yn gyson yn y rhai rydym yn gweithio gyda nhw, ein partneriaid ac yn yr hyn a ddarparwn. Yn ein perthnasedd i fywyd cyfoes, mae arddangosfeydd Artes Mundi, ymgysylltu â’r cyhoedd a gwaith allgymorth cymunedol yn dangos yn glir botensial ac ansawdd yr hyn a wnawn wrth gyrraedd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd sy’n ehangu’n gynyddol ac â’n cyfranogwyr brwd.
Mae popeth a wnawn – arddangosfeydd, digwyddiadau, dysgu, allgymorth a rhaglenni ymgysylltu â’r gymuned – yn rhad ac am ddim. Mae’r holl waith codi arian yn cefnogi ein gweithgareddau, gan ein galluogi i ddarparu mynediad am ddim, mwynhad ac ymgysylltiad ag amrywiaeth o raglenni ac addysg sy’n hygyrch ac yn agored i bawb.
Os hoffech ein cefnogi drwy gyfrannu, noddi rhaglen, dod yn aelod neu ddatblygu gwaddol drwy roi wedi’i gynllunio, ewch i’n hadran Cefnogi neu cysylltwch â’n tîm Datblygu i gael rhagor o wybodaeth.
Diolch
Cefnogir Artes Mundi yn hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd ac mae’n diolch yn ddiffuant i’n holl gefnogwyr a’n partneriaid hirsefydlog.
Rydym hefyd yn mynegi ein diolch o galon i’n llu o gefnogwyr cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys Ymddiriedolaethau, Sefydliadau, Asiantaethau Diwylliannol, cyfranwyr, noddwyr a gwirfoddolwyr sy’n darparu cyllid hanfodol tuag at ein rhaglenni.
Artes Mundi Prize Ltd masnachu fel Artes Mundi. Wedi’i gofrestru yn y DU, rhif cwmni 1097377, rhif elusen 04239932. Cyfeiriad swyddfa gofrestredig, Ystafell S01: 13, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP.
Cefnogwyr
Cyllidwr craidd


Partneriaid cyflwyno

Partneriaid ariannu










Partneriaid celfyddydol





Partneriaid lleoliad






Partneriaid Orielau








Partneriaid y Cyfryngau
