Ein gwaith

  

Credit: Carrie Mae Weems. From RESIST COVID TAKE 6! 2020. Public art campaign. Courtesy the artist and Social Studies 101 in association with THE OFFICE performing arts + film. Photography: Polly Thomas

Er ei bod yn fwyaf adnabyddus am yr arddangosfa bob dwy flynedd a’i gwobrau cysylltiedig, fel sefydliad mae Artes Mundi yn cymryd rhan frwd mewn rhaglen ehangach o weithgareddau a digwyddiadau. Yn ogystal â’r rhain rydym hefyd yn cynhyrchu ac yn cyflwyno cyfres o gydweithrediadau, prosiectau eraill, comisiynau a gwaith cyd-greadigol, a ddatblygir yn aml mewn partneriaeth ag amgueddfeydd, orielau, cymunedau a sefydliadau diwylliannol eraill ledled Cymru a’r DU. Fel cyfres o edafedd rhyngddibynnol, mae’r rhain yn cydblethu i greu ystyr gyda a thrwy ein hystod eang o raglenni cyhoeddus ac allgymorth cymunedol parhaus, gyda phob un yn llywio’i gilydd. 


Ein gwaith

Arddangosfeydd

Mae ein harddangosfa bob dwy flynedd wrth wraidd yr hyn a wnawn, gydag artistiaid yn cael eu dewis trwy alwad enwebu fyd-eang

Ein gwaith

Gwobrau

Archwiliwch ein gwobrau, gan greu gwaddol i artistiaid ac i gasgliad cenedlaethol cymru.

Ein gwaith

Cydweithio

Prosiectau sy’n pontio rhwng ffurfiau, gan ddod â chelf, cynulleidfaoedd a chyfranogwyr ynghyd.