Gwobrau

Adeg ei sefydlu yn 2002, datblygwyd Gwobr Artes Mundi gyda’r bwriad y byddai’n rhoi rhyddid i artistiaid sydd wedi ennill eu plwyf ac sydd ar gam pwysig o’u gyrfa ddatblygu corff sylweddol o waith newydd neu roi’r amser iddynt ystyried a myfyrio ar syniadau newydd . O ganlyniad, dyma rai o’r ffyrdd niferus y mae unigolion yn defnyddio cefnogaeth y wobr i ddatblygu eu hymarfer.

 

Caiff enillydd Gwobr Artes Mundi ei ddewis o blith yr artistiaid sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer yr arddangosfa a gynhelir bob dwy flynedd gan banel o feirniaid sy’n cynnwys curaduron, artistiaid ac awduron rhyngwladol, a byddant yn ymweld â’r arddangosfa ac yn adolygu arferion pob artist dros y pum i wyth mlynedd blaenorol. Yn hanes y wobr hyd yn hyn, mae wedi’i dyfarnu i un artist yr ystyrir ei fod wedi gwneud gwaith sy’n ysgogi’r meddwl yn gyson ac sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at gelf sy’n uniaethu â’n cyfnod ni. Fodd bynnag, yn 2015, wrth dderbyn y wobr, penderfynodd enillydd Artes Mundi 6, Theaster Gates, rannu’r wobr gyda phawb oedd ar y rhestr fer.

Gwobrau

Gwobr Artes Mundi

Adeg ei sefydlu yn 2002, datblygwyd Gwobr Artes Mundi gyda’r bwriad y byddai’n rhoi rhyddid i artistiaid sydd wedi ennill eu plwyf ac sydd ar gam pwysig o’u gyrfa ddatblygu corff sylweddol o waith newydd neu roi’r amser iddynt ystyried a myfyrio ar syniadau newydd.

Gwobrau

Gwobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams

Edefyn arall o’n gweithgarwch sy’n gysylltiedig â’n harddangosfa eilflwydd yw Gwobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams.