Tim Davies
Ganwyd Tim Davies yng nghymru ym 1960.
Credit: Tim Davies, Tatters. Courtesy of the artist. Photo: Jeff Morgan
Symudodd i Lundain ym 1978, ac ar ôl gweithio ac astudio yno ac yn Norwich, dychwelodd i Gymru ym 1994. Artist gosodwaith ydyw yn bennaf, ac mae ei waith yn aml yn tarddu o bryderon amgylcheddol neu wleidyddol. Yn enillydd Gwobr Agored Mostyn ym 1997 a Medal Aur yr Eisteddfod Genedlaethol am Gelfyddyd Gain yn 2003, mae wedi arddangos yn helaeth yng ngwledydd Prydain, Iwerddon, Dwyrain Ewrop, Hong Kong, Awstralia a chanol America. Mae’n byw ac yn gweithio yn Abertawe.