Dreaming Bodies gydag Omikemi

Dreaming Bodies gydag Omikemi

23, 24, 25 Mawrth 2021
14:00-17:00 GMT

Gweithdy ar-lein am ddim

Cliciwch yma i e-bostio am gymryd rhan

Yn y cyfnod cyn LATES: Pitch Black, bydd Omikemi a Nila Gupta yn cynnal cyfres o weithdai Dreaming Bodies. Mae’r profiad yn canolbwyntio ar Bobl Ddu, LGBTQIA+ a phobl anabl, tra’n croesawu Pobl Groenliw o bob oed i archwilio’r corff gwaith dros ryddid.

 

Bydd y sesiynau’n cynnwys syniadau am ymgyrchu cyfriniol, awtoimiwnedd a goruchafiaeth y corff er mwyn gofyn: beth fyddai’r corff hwn pe bai’n gallu breuddwydio? Y bwriad yw archwilio posibiliadau ar gyfer galluedd, gofal a chymunedau.

Credit: Caption: Omikemi

Credit: Caption: Nila Gupta

Bydd cydweithredwyr yn cymryd rhan mewn bywluniadau, cerddi corff, a myfyrdod symud – arferion sy’n tynnu ar elfennau o Qi Gong a Capoeira Angola fel rhan o ymchwiliad somatig.

 

Drwy gymryd rhan, cewch gyfle i ddatblygu a chryfhau sgiliau gorffwys, ail-gyrchu, hunan-dylino a gwrando somatig (gwrando ar eich corff eich hun). Gyda’n gilydd, byddwn yn treulio amser yn meithrin cydberthnasau wrth archwilio a phrofi undod corfforol. Gwahoddir cydweithredwyr i gymryd rhan mewn tair sesiwn i gyd, gyda phob sesiwn yn deirawr.

 

Yn dilyn y gweithdy, bydd gwaith clyweledol newydd yn cael ei ddatblygu a’i gyflwyno fel rhan o LATES: Pitch Black, sy’n cael ei gyflwyno mewn partneriaeth rhwng Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Artes Mundi. Byddwn yn gofyn am gydsyniad clir gan gyfranwyr ar gyfer unrhyw fewnbwn a phob mewnbwn i’r gwaith sain terfynol.

 

Os hoffech gymryd rhan yn y sesiynau a chyfrannu at y sgwrs, anfonwch e-bost at umulkhayr.mohamed@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch a gadewch neges ar 0300 7777 300.

 

Yn eich e-bost neu neges, bydd angen i chi nodi eich enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn a rhoi gwybod i ni yr hoffech chi fod yn rhan o Dreaming Bodies. Bydd Omikemi neu bartner prosiect wedyn yn cysylltu â chi i drafod y prosiect.

 

 

Mae Omikemi yn awdur, yn ymarferydd celfyddydol ac yn drefnydd cymunedol. Mae eu gwaith yn canolbwyntio ar greadigrwydd ar gyfer iechyd ac iachâd ac mae ganddynt ddiddordeb cynyddol mewn ymgyrchu cyfriniol. Mae eu cydweithrediadau diweddar yn cynnwys gwaith gyda Vital Xposure, Disability Arts Online ac Autograph Gallery Llundain. Mae Omikemi hefyd yn trefnu Way-Making, gofod celfyddydol creadigol ac iachau ar-lein sy’n canolbwyntio ar bobl dduon.

 

Mae Nila Gupta yn artist, awdur, hwylusydd, gweithiwr cymunedol a threfnydd. Maen nhw’n genderf*cker dosbarth gweithiol o dras Bengali Brydeinig, yn berson croenliw deurywiol a thraws, gydag anableddau cymhleth lluosog. Mae ganddynt ddiddordeb arbennig mewn creadigrwydd fel gweithred o oroesi a gwrthsafiad, a sut mae goroesi yn sbardun i fathau o greadigrwydd sy’n aml yn cael eu dileu a’u hanwybyddu gan strwythurau grym prif ffrwd. Maent yn dychwelyd i greu celf ar ôl amser hir i ffwrdd o’r maes, ac yn mwynhau herio eu hunain ac eraill drwy hwyluso mannau creu celf.