Yn llygaid y Ciguapa

gan Dylan Huw

It was a season of communal malaise. Of narrative struggle. People looked how the seasick look at maps and dream of land. 

Helen Marten, The Boiled in Between

1

 

Ynghanol y llun, creadur. Er ei bod wedi’i chuddio’n rhannol gan blu sy’n tasgu dros y canfas mewn trawiadau trwchus o liw, mae gymaint a hyn yn glir. Mae’n glir hefyd ei bod hi naill ai’n camu mewn neu’n hedfan dros gorff o donnau cefnfor. Mae rhywbeth bron yn camp amdani, rhywbeth ecstra ond swil hefyd, fel petai’n ein meiddio i beidio ag edrych arni, i’w gadael i fod ar ei thaith, i anadlu.

 

Ciguapa yw’r creadur: ffigwr benywaidd blaenllaw yn llên gwerin y Weriniaeth Ddominicaidd sy’n llechu’n wyllt ym mynyddoedd a choedwigoedd y wlad honno. Dywedir ei bod yn ymddangos i’r rheiny sy’n ddigon an/lwcus i ddod ar ei thraws fel naill ai’r creadur harddaf neu fwyaf brawychus mae posib gweld; ei bod hi’n bwydo oddi ar gnawd ac eneidiau dynion, gan ddifa unrhyw ffermwyr neu deithwyr sy’n ddigon beiddgar i groesi ei thir; bod ei thraed yn pwyntio am yn ôl — fel y dangosir yn y paentiad a ddisgrifir uchod — fel eich bod yn awtomatig ar y llwybr anghywir os ydych yn ceisio dilyn olion ei thraed.

 

Ac mae dyna i gyd sydd angen i hi wneud i gaethiwo rhywun, i’w melltithio am byth, yw dal eu llygaid.

 

Dwi’n caru hynna amdani.

 

(Yn y paentiad, nid ydym yn gweld ei llygaid.)

 

Fel y rhan fwyaf o straeon werth eu clywed, caiff manylion stori’r ciguapa eu hail-ffurfio o gyfnewid i gyfnewid, gan dyfu i wahanol gyfeiriadau gyda phob canrif a phob cam-gyfieithiad, cam-gyfathrebiad, cam-gofio. Âf lawr twll-cwningen y ciguapa gan gymryd i mewn pob fersiwn o’i stori a phob delwedd artistig ohoni gallaf eu darganfod arlein, ar yr un sgrin yn yr un ystafell ag ydw i wedi bod yn gwneud fy holl waith, bwyta, sgwennu ac edrych ers misoedd. A dwi’n cychwyn sylweddoli mod i, yn araf bach, yn cael fy nghymryd mewn ganddi.

 

2

 

Mae amser wedi mynd yn fflat, dyma maen nhw’n ddweud, ein synnwyr o funudau, wythnosau, tymhorau wedi’i lygreddu gan ddimbydedd anniben oes y pla. O’r ystafell hon, dwi’n meddwl tybed ydy’r weithred o edrych wedi profi chwalfa, rhwyg, bydd yn para am byth.

 

Â’n hymwybyddiaeth wedi’i aflonyddu i’r fath raddau, efallai bod meddwl am edrych a hel atgofion o edrych wedi cymryd lle edrych ei hunan. Efallai bod gweithiau celf ‘nawr yn chwarae’r rôl o conduit rhwng amser pan oedd edrych yn bosib a phresennol lle mae braidd yn bodoli, dim ond fel cysgod o’r edrych a fu. 

 

3

 

Enw’r paentiad o ciguapa a ddigrifiwyd uchod yw A Map of the British Empire In America with the French and Spanish Settlements adjacent thereto. ond gall fod yn un o nifer gan Firelei Báez, artist a dyfodd fyny ar ffin y Weriniaeth Ddominicaidd a Haiti gyda’r ciguapas yn hollbresennol yn straeon ei phlentyndod; maent wedi dod yn bresenoldeb cyson yn ei gwaith celf hefyd. 

 

(Syniad sy’n gwefreiddio, i artist greu ffigwr awen o greadur sy’n eich melltithio i/beidio edrych arni.)

 

Yn aml, mae presenoldeb y creadur ym mhaentiadau Báez yn pryfocio’i hedrychwr i gwestiynu eu rhagdybion am gyrff menywod a sut maen nhw’n cael eu troi mewn i naratifs, a gan pwy. Er bod straeon y ciguapas yn cael eu hadrodd i blant (fel Báez) fel rhybudd i fod yn wyliadwrus o bethau gwyllt, abject ac annibynnol — fel pob math o straeon a adroddir i blant i’w cyfarwyddo i ofni ac arallu’r anghyfarwydd —  mae’r rôl maent yn chwarae yng ngwaith Báez yn amlygu sut mae modd gweld yr elfennau rhain fel potensial, i ymgorffori rhyddid, gwaredigaeth, posibilrwydd. (Y gwyllt, yr abject, yr annibynnol.)

 

Ymddangosir mapiau yn gyson yng ngwaith Báez, ac yn y paentiad a ddisgrifiwyd uchod, mae presenoldeb cyfuchluniau map ac ynysoedd pell-i-ffwrdd yn rhoi gyrriad hanesyddol-wleidyddol i’r creadur, gwahoddiad — rheidrwydd — i edrych yn agosach. Yn ei hosgo mae tensiwn ‘nol-a-mlaen rhwng symud-ymlaen a myfyfrio ôl-weithredol. Efallai mae’r rheswm tarodd y ciguapa fi fel ffigwr camp i ddechrau — sut mae hi’n tasgu ei phlu dros y canfas, sydd hefyd yn fap ac felly totem i ddominyddu trefedigaethol — oedd am ei bod hi’n gwthio’r naturiol a’r real i’w terfyn, er mwyn canfod rhyddid tu hwnt i unrhyw ddisgwyliadau: am pwy yw hi, pwy sy’n cal adrodd ei stori, lle mae hi wedi bod a lle gall hi fod yn mynd.

 

Hanner ffordd lawr dwll-cwningen y ciguapa dwi’n darganfod manylyn newydd: mae’n udo. Mae hyn yn nodwedd sydd fwy neu lai’n gyson dim ots pwy sy’n adrodd ei stori. Mae ei gwaedd hiraethus gyson, gyda’i thraed tu-chwith a’i hedrychiad am-yn-ôl, yn awgrymu melancoli dwys, dyhead o ryw faeth.

 

Mae wedi digwydd, heb os: dwi dan swyn y ciguapa.

 

4

 

Rhyw ddau-ddeg-saith mis yn ôl, sgwennais adolygiad o arddangosfa Artes Mundi 8 ar gyfer gwefan O’r Pedwar Gwynt, cyfnodolyn llenyddol Cymraeg-Ewropeaidd, gan deitlo’r testun Rhyfedd o fyd. Yn y darn, hoeliais i mewn ar y ffyrdd defnyddiodd sawl artist yn yr arddangosfa honno eu gofod i archwilio swyddogaethau lluosog y dogfen, fel ffurf a strategaeth, yn yr oes oedd ohoni. Roedd ad-daliadau ac adfywiadau yn teimlo’n hollbresennol, o adleoliad cyhyrol Bouchra Khalili o ôl-fywydau trefnu milwriaethus, i ddelweddau ysbrydol Trevor Paglen o dirweddau gwyliadwraeth, i drawsnewidiad Otobong Nkanga o un o orielau cefn yr Amgueddfa Genedlaethol yn amgylchedd byw trawsddiwylliannol cyfoethog. Wrth sgwennu’r darn, treuliais lawer o amser tu mewn i’w syniadau, (roeddwn yn gwneud llawer o edrych bryd hynny,) gan bopio ‘nôl i’r amgueddfa bob hyn a hyn i weld beth fyddai’r delweddau’n ei ddweud wrthyf yr amser hwnnw.

 

Mae darllen y darn ‘nol heddiw yn brofiad rhyfedd. Fel fy mod wedi gwybod mod i’n gwybod mod i’n gwybod bod y byd yn troi oddi ar ei echel ond, am rhyw reswm, roeddwn i’n dal i edrych fel bod gwerth gwneud.

 

Sgwennais am gwymp ac ansefydlogrwydd fel fy mod i’n gwybod beth oedden nhw ddau-ddeg-saith mis ‘nol.

 

(Fel fy mod i’n gwybod beth maen nhw’n meddwl nawr, o fy un sgrin yn fy un ystafell.)

 

Fel bod edrych erioed wedi bod yn beth sefydlog.

 

Sgwennais am gelf fel ei fod yn rywbeth posib.

 

5

 

Wedi fy swyno gan fwystfil synhwyrus y mynyddoedd Dominicaidd — sydd wedi cymryd y rôl yn fy mhen o rhyw fath o Angelus Novus, yn cael ei chwythu gan wyntoedd amser — mae fy nychymyg yn dychwelyd, fel mae’n gwneud yn aml, at Ysgolan.

 

Mae Ysgolan yn ffigwr sydd yr un mor hyblyg â’r ciguapa, a sy’n ymddangos yn Llyfr Du Caerfyrddin fel asiant o anrhefn a dinistr, ac ar draws gwahanol fytholegau Celtaidd, bob amser mewn ffigwr ychydig yn wahanol: ysgolhaig fan hyn, clerig fan draw. Yn y ddwy gerdd sy’n adrodd ei stori yn y Llyfr Du, dywedir bod Ysgolan wedi cyflawni gweithredoedd o ddifetha disynnwyr — cynnau eglwys ar dân, lladd buwch, boddi llyfr sanctaidd, y math yna o beth — cyn gwynebu pwrgatori di-ddiwedd yn erfyn am faddeuant. Yn ôl rhai o ysgolheigion y Dadeni Cymreig, mae ffigwr gyda’r un enw y credir iddo losgi’r holl lyfrau Cymreig a drysorwyd yn Nhŵr Llundain gan garcharorion o Gymru ar ôl cwymp Llywelyn ein Llyw Olaf yn 1282.

 

Does dim llawer mwy na hyn “allan yna” am Ysgolan, llawer llai na sydd yna am ciguapas yn gyffredinol. Nid yw ei stori’n cael ei adrodd i ni fel plant, nid oes portreadau ohono’n ymddangos yn aml mewn arddangosfeydd rhyngwladol o gelf gyfoes. Dwi’n meddwl mai achos yr anweledigrwydd hwn, a’r hyblygrwydd mae’n rhoi i’r ffigwr fel un y gallwn ei ddefnyddio fel testun dychmygu ac ail-greu, yn enwedig wrth feddwl am y berthynas rhwng hanes, dinistr a dyfodolaeth, yr ydw i wedi fy swyno mor gyson gan Ysgolan.

 

Cyrhaeddais Ysgolan fel sgwennwr ar waith datblygol ar gyfer perfformio, wnaeth byth gael ei wireddu. Dros bythefnos o ddatblygu, teithion nol a mlaen rhwng y gwerinol a’r dyfodolaidd, yr hynafol a’r cyfoes, gan geisio canfod synnwyr yn yr anesboniadwy, y dychmygol, yr amhosib. Efallai mai’r rheswm digwyddodd y prosiect ddim yw achos bod amhosibilrwydd Ysgolan yn ormod i’w oresgyn.

 

Ond wedyn, efallai mai dyma yw pwrpas edrych. 

 

Efallai nad ydym yn clodfori’r amhosib ddigon.

 

6

 

Tua’r un pryd ag oeddwn i’n gweithio ar y perfformiad Ysgolan, roeddwn yn sgwennu ysgrif am “algorithmic memory” a “mnemonic images across media,” a gododd o’r hyn byddwn i’n teimlo yn fy nghorff wrth sgrolio trwy luniau ar fy ffôn o berthynas a orffennodd ddim yn hir cynt.

 

Fy nod gyda’r traethawd oedd “amlinellu” rhai strategaethau o feddwl am y berthynas rhwng delweddau ffotograffig, cof hunangofiannol a chyfunol, a regimes algorithmig diwylliant digidol cyfoes. Roedd gen i ddiddordeb mewn treiddio mewn i’r dad-sefydlogi roeddwn i’n teimlo’n digwydd o’m cwmpas yn y berthynas rhwng edrych a chofio — yn y ffordd roeddwn i’n ymwneud â’r lluniau ar fy ffôn, gydag online viewing rooms, gyda straeon instagram a hen ffilmiau ar y wê. Sut, gofynnais, gall y fath beth â chofio y tu hwnt i’r digidol fod yn bosib, mewn tirwedd lle mae hyd yn oed ein meddyliau a’n hatgofion mwyaf personol yn cael eu cyfryngu a’u hail-gyfryngu yn ôl atom gan algorithmau a phwerau anweledig eraill.

 

Dwi ddim yn meddwl mod i wedi mynd yn bell iawn i “amlinellu” hynna, ond mae’r amser treuliais yn meddwl trwy’r syniad hwn o argyfwng edrych wedi parhau i gylchu, yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r ymdeimlad bod ein ffyrdd o edrych yn cael eu rheoli gan we gymhleth o rymoedd annealladwy wedi dwysáu, wrth i ni dicio pethau oddi ar ein watchlists a to-do-lists yn ddi-ddiwedd, fwy allan o arfer nag o awch. Yng nghyfnod y pla, nid yn unig cofio y tu allan i’r digidol sy’n teimlo’n amhosib, ond y weithred o edrych gweithgar, byw hefyd.

 

(Tua’r un pryd ag y sgwennais yr ysgrif hwnnw, symudais i Gaerdydd ar ôl pedair mlynedd i ffwrdd o Gymru. Tua’r un amser, dechreuais alw fy hun yn sgwennwr.)

 

7

“If it were up to me,” meddai Firelei Báez mewn fideo diweddar, “I would be a hermit in some mountain seascape.”

 

Mae paentiadau Firelei Báez yn priodi ffantasi a naratif ag egni sosiowleidyddol trwyadl, gyda chymorth dulliau archifol. O safbwynt ein tymor cyfredol o anobaith ac unigedd, maen nhw’n edrych fel dathliadau cymhleth o’r cysyniad o fywyd ei hunan.

 

Fel rhan o gasgliad epig yr artist o weithiau bychain sy’n rhan o’i chyflwyniad ar gyfer Artes Mundi 9, mae hi’n gosod delwedd y daethpwyd o hyd iddi o long yn dod i mewn i Ddociau Bute yng Nghaerdydd, ar dân. Gan bwysleisio hanes Caerdydd fel dinas gynhenid luosog, ddiasporig, ac, fel rhan o rwydwaith o ddinasoedd porthladd rhyngwladol ac un o brif ganolfannau’r Ymerodraeth, mae’r ddelwedd yn awgrymu gallu diddiwedd delweddau archifol i gael eu cymhlethu a’u hail-actifadu. Mae’n dibynnu ar bwy sy’n edrych.

 

Mewn deialog ag edrychiad y ciguapa allan at y cefnfor, mae’r ddelwedd hon o dân a dinistr yn ein hatgoffa hefyd o awch Ysgolan am drychineb.

 

Yr holl gloddio hwn o’r holl hanesion rhain, i gyd i’n gwneud ni i edrych.

 

Fel mae’r ciguapa’n ein herio i beidio ei charu.

 

Fel petai’n dweud: Dwi wedi bod yn edrych a bwydo oddi ar catstroffi ers cyn eich bod chi’n bodoli.

 

8

 

Fel petai’n dweud: Edrycha i fy llygaid. 

 

9

 

Edrychwch: falle bydd edrych ‘nol un dydd. Un dydd yn y dyfodol falle gai hyd yn oed gyfle i weld arddangosfa Artes Mundi 9, yr ydw i wedi profi mor belled fel rhagolwg o ragolwg o rywbeth sydd — rhywsut — yn bodoli yn y byd go iawn, rhan ohono ond hanner milltir o fy nhŷ.

 

Yn yr un fideo dwi’n dyfynnu ohono uchod, mae Firelei Báez yn dweud y canlynol: “It is always within your grasp to make something new. It’s exhausting. But limitless.”

 

Dwi’n siwr mai atyniad y ciguapa ydy ei bod hi’n awgrymu — gyda phenderfyniad aflonydd — yr ymdeimlad hwn o’r limitless. Udo marwnadaidd y ciguapa ydy’r unig sain sy’n gwneud synnwyr nawr, er mod i heb ei glywed.

 

A dwi’n meddwl mai atyniad paentiadau Firelei Báez ydy’r gofod maen nhw’n creu am fywyd, stori, lawnder, lliw, dirgel, a’r ffaith fy mod i, ein bod ni i gyd, yn awchu am y pethau rhain i gyd. Am fywyd yn enwedig.

 

How the seasick look at maps and dream of land.

 

Fel petai’n dweud: Beth os, ar ôl hyn i gyd, byddwn ni’n cofleidio’r gwyllt; yr abject; annibyniaeth.

 

 

Cafodd fersiynau Cymraeg a Saesneg y testun hwn eu cyfansoddi law-yn-llaw gyda’i gilydd.

 

Mae Dylan Huw yn sgwennwr a gweithiwr celfyddydol sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae’n un o gyd-grewyr mwnwgl, cyhoeddiad o gelf a sgwennu, ac ef yw golygydd gwadd rhifyn nesaf Cynfas, cylchgrawn digidol Amgueddfa Cymru, ar y thema golwg queer. Mae ganddo M.A. mewn Diwylliannau Gweledol o Goldsmiths, Prifysgol Llundain.