Antonio Paucar

Mae Antonio Paucar (g. 1973) yn creu iaith artistig farddonol ac unigryw trwy berfformiadau, cerfluniau a gweithiau fideo. Gan dynnu ar ei wreiddiau yn niwylliant yr Andes trwy ddefodau ac ymyriadau, mae ei gelf yn mynd i’r afael â gwrthdaro cyfoes, llofruddiaethau arweinwyr brodorol, bygythiadau amgylcheddol, a thechnoleg gwyliadwriaeth. Mae gwaith Paucar yn sefydlu deialogau gyda dealltwriaeth Andeaidd a brodorol, yn aml mewn tensiwn beirniadol â diwylliant y Gorllewin, gan gynnig persbectif amlochrog.

Credit: B&W Portrait of Antonio Paucar, 2020. Photography - Jorge Jaime Valdez

Mae ei waith wedi cael ei arddangos ledled y byd, ac mae ei weithiau’n rhan o gasgliadau rhyngwladol pwysig gan gynnwys MoMA yn Efrog Newydd, yr Institut für Auslandsbeziehungen yn Berlin, yr Amgueddfa Celf Gyfoes yn Sao Paulo, Amgueddfa Celfyddyd Gain Montreal, Museo de Arte de Lima, ac Amgueddfa Gyfoes Wrocław yng Ngwlad Pwyl. Mae’n byw ac yn gweithio rhwng Berlin, yr Almaen a Huancayo, Periw. 

 

Cynrychiolir Antonio Paucar gan Galerie Barbara Thumm ac Ginsberg + Tzu.


Please click images to enlarge