Safbwynt(iau)
Mae Safbwynt(iau), yn rhaglen gelfyddydol uchelgeisiol yng Nghymru, sy’n dod â saith artist ethnig a diwylliannol amrywiol ynghyd sydd â chysylltiad â Chymru, gan weithio ar y cyd â saith Amgueddfa Cymru, yn ogystal â sefydliadau celfyddydau gweledol ar hyd a lled y wlad.
Mae Safbwynt(iau) yn datgelu hanesion cudd y casgliadau cenedlaethol, o ‘webs’, sef brethyn Cymreig a ddefnyddiwyd i greu dillad i bobl o Affrica gafodd eu cipio a’u caethiwo, i soffa goch foethus Robert Clive, ffigwr allweddol yn hanes trefedigaeth Prydain yn India. Mae’r rhaglen yn mynd i’r afael â gwaddol cymhleth a phoenus, yn taflu goleuni newydd ar y gorffennol ac yn gosod sylfeini ar gyfer dyfodol mwy cynhwysol sy’n cydnabod y cyfraniadau a’r profiadau amrywiol sydd wedi siapio Cymru a’r byd.
Credit: Portrait of Hannan Jones. Photography - Hicham Gardaf
Credit: Slip testing with River Folk Pottery as part of the Perspective(s) programme with Hannan Jones.
Mewn partneriaeth ag Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, rydyn ni’n gweithio gyda’r artist Hannan Jones. Mae ‘A Frontier in Depth’ yn ymchwilio i sut mae ffiniau newidiol yn dylanwadu ar ein dealltwriaeth o hunaniaeth a lle drwy gyfres o gyflwyniadau.
Mae trioleg o ffilmiau 16mm byr yn dechrau yn archif danddaearol Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ac yn dangos arteffactau sy’n ymgorffori sawl naratif, gan godi cwestiynau ynghylch sut mae’r eitemau hyn yn llywio’r cof cyfunol drwy hanesion darniog. Gan ehangu tuag allan, mae’r ail ffilm yn cael ei gyrru gan seinweddau sydd o’n cwmpas, tra mae’r drydedd yn canolbwyntio ar yr elfen nefolaidd.
Ar ôl cydweithio â phobl ifanc o Academi Ieuenctid Casnewydd, aelodau o Gwreiddiau Casnewydd a Crochenwaith Gwerin Afon, crëwyd cyfres o lestri clai newydd a oedd yn ymgorffori myfyrdodau ar y presennol a’r dyfodol.
Bydd y prosiect hefyd yn arwain at seinwedd newydd sy’n benodol i gyd-destun, gan uno’r gorffennol a’r presennol i bwysleisio’r potensial dychmygol a allai fod o’n blaenau.
Cadwch lygad am newyddion am ddigwyddiadau, dangosiadau ffilm a gosodiadau sain yn ystod gwanwyn 2025.
Mae Hannan Jones yn ymchwilio i syniadau sy’n ymwneud â hybridedd, iaith, rhythmau diwylliannol a chymdeithasol sy’n gysylltiedig â mudo, a seico-ddaearyddiaeth. Trwy sain, cerfluniau, gosodiadau, a delweddau symudol, mae’n ceisio meithrin ‘teimlad o undod’ gan greu gofodau i ehangu gorwelion. Enillodd Wobr Oram yn 2023 ac mae wedi graddio o Ysgol Gelf Glasgow, ac ymhlith ei phrojectau rhyngwladol blaenorol mae olrhain mudiadau rhyddid barn; taflu goleuni ar dactegau goroesi ac edrych ar ffyrdd o ddefnyddio a meddiannu mannau cyhoeddus er mwyn gwyrdroi ansicrwydd economaidd ac amgylcheddol. O ran sain, mae’n defnyddio dulliau byrfyfyr, offer electronig, musique concrète a recordiadau analog, gan ddefnyddio samplau a haenu seiniau i greu naratifau amgen ac adennill hanesion paralel.
Hannan Jones, “Roedd Safbwynt(iau) yn taro tant â fy nghefndir diasporaidd innau, ac yn caniatáu i mi blethu hanesion mudo ac Ymerodraeth. Gan fy mod yn Gymreig a Gogledd Affricanaidd ond wedi fy magu yn Awstralia, mae gen i gyswllt dwfn â mudo cymdeithasol a diwylliannol, creu cymuned ac adrodd straeon.”
Please click images to enlarge
Mae Safbwynt(iau), sy’n broject ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, yn rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.