Rydym Am Benodi: Rheolwr Datblygu
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw:
Dydd Llun 24 Chwefror 2025
Cynhelir y cyfweliadau (i’w gadarnhau):
yng Nghaerdydd, yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun
10 Mawrth 2025
Y dyddiad dechrau delfrydol:
Cyn gynted â phosibl (er y bydd modd trafod hyn yn y cyfweliad)
Yn 2025, bydd Artes Mundi yn lansio AM11, ein unfed ar ddeg arddangosfa a gwobr bob dwy flynedd, gan ddathlu 21 mlynedd o gyflwyno celf gyfoes ryngwladol arloesol yng Nghymru. Fel ail fersiwn y prosiect ar draws Cymru, bydd AM11 yn cael ei gynnal ar draws pedair trefi a dinasoedd gyda phum partner lleoliad. Er mwyn gwireddu’r prosiect uchelgeisiol hwn, ynghyd â’r rhaglen gyffredinol, mae angen codi llawer iawn o arian.
Gan weithio ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwr, mae’r Rheolwr Datblygu yn gyfrifol am y swydd allweddol o gyflawni a gweinyddu anghenion datblygu Artes Mundi, gan gynnwys aelodaeth, rhoddwyr, ymgyrchoedd rhoi arian blynyddol a gwaith gydag ymddiriedolaethau, sefydliadau, cefnogwyr o’r llywodraeth, cyrff corfforaethol ac unigolion yng nghyd-destun cynllun codi arian amrywiol sy’n cyfrannu’n strategol at Genhadaeth Artes Mundi. Bydd y Rheolwr Datblygu yn gweithio gyda’r Cyfarwyddwr i ysgrifennu grantiau a gweithredu ymgyrchoedd, digwyddiadau a chynigion ar gyfer sefydliadau ac ymddiriedolaethau i gael cyfleoedd am nawdd, digwyddiadau rhoi corfforaethol, llywodraethol ac unigol blynyddol/wedi’u cynllunio, rhoddion unigol a meithrin/stiwardiaeth. Bydd yn gwneud hyn drwy ddefnyddio ymddiriedolaethau, sefydliadau a rhoddwyr presennol a newydd, ynghyd â chronfeydd data, cysylltiadau ac opsiynau eraill. Bydd angen gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau o bryd i’w gilydd. Gan weithio gyda Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ac aelodau o’r tîm ehangach, bydd y Rheolwr Datblygu yn sicrhau ac yn rheoli’r cymorth a geir gan ffynonellau yn y sector cyhoeddus a phreifat a bydd yn creu cysylltiadau tymor hir i sicrhau cynaliadwyedd y sefydliad.
Manylion am y rôl
- Mae hon yn swydd lawn amser, barhaol.
- Bydd cyflog dangosol rhwng £30,000 a £37,000 yn cael ei gynnig, ond bydd yn cael ei bennu ar sail yr ymgeisydd llwyddiannus a’i brofiad a’i gefndir cymharol. Bydd pecyn adleoli cymedrol ar gael hefyd.
- Yr oriau gwaith arferol yw 9.30am-5.30pm
Sut i wneud cais
Dylai ymgeiswyr wneud cais am y rôl yma drwy ddefnyddio’r Ffurflen Gais a’r Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal, a’u cyflwyno drwy e-bost at opportunities@artesmundi.org gan nodi Rheolwr Datblygu yn y llinell bwnc.
Cynhyrchydd Ymgysylltu Pecyn Gwybodaeth PDF
Cynhyrchydd Ymgysylltu Pecyn Gwybodaeth Word
Cynhyrchudd Ymgyslltu Pecyn Gwybodaeth Print Bras PDF
Cynhyrchudd Ymgyslltu Pecyn Gwybodaeth Print Bras Word
Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu’r broses ymgeisio, mae croeso i chi gysylltu â yn opporunities@artesmundi.org.