Rydym am Benodi: Curaduron Cynorthwyol
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw:
16 Mai 2025, 12pm
Cynhelir y cyfweliadau (i’w gadarnhau):
26 Mai 2025 amseroedd i’w cadanhau
Y dyddiad dechrau delfrydol:
Cyn gynted â phosib ar ôl y cyfweliad (gellir trafod hyn yn y cyfweliad)
Rydyn ni am benodi dau Guradur Cynorthwyol.
Bydd y Curaduron Cynorthwyol yn gweithio gyda thîm Artes Mundi i gynllunio a chyflwyno arddangosfa AM11, sydd ar y gweill ac sy’n cael ei chynnal bob dwy flynedd.
Yn benodol, byddant yn cynorthwyo’r Cyfarwyddwr ym mhob agwedd ar gyflwyno’r rhaglen, yn arbennig cydlynu a pharatoi arddangosfeydd, cynllunio gosodiadau, monitro cyllidebau a chyfrannu at ddigwyddiadau a mentrau rhaglennu cyhoeddus.
Bydd gan un swydd gyfrifoldeb penodol am artistiaid sy’n arddangos ym Mostyn, Llandudno a Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth; yr ail ar gyfer artistiaid sy’n arddangos yn Chapter, Caerdydd ac Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, a bydd y ddau yn cydlynu â thimau cyfredol o fewn y sefydliadau partner hyn.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i groesawu talent newydd i’n tîm curadurol ymroddedig ac i gefnogi artistiaid, curaduron, awduron, ac eraill sy’n gweithio ym maes y celfyddydau gweledol yng Nghymru.
Yn adrodd i’r Cyfarwyddwr, Nigel Prince, bydd y Curaduron Cynorthwyol yn chwarae rôl allweddol wrth gyflwyno AM11 yn llwyddiannus, ar draws Cymru, a’r Gwobrau cysylltiedig.
Manylion am y rôl
Cynigir y swyddi hyn fel rhai Talu wrth Ennill (PAYE).
Cynigir y swyddi hyn fel rhai rhan-amser: sef 2.5 diwrnod yr wythnos ar gyfartaledd/18.75 awr yr wythnos (0.5 FTE o 37.5 awr safonol) ond gyda dealltwriaeth y bydd angen hyblygrwydd sy’n berthnasol i’r llwyth gwaith a’r cam cyflawni o fewn yr amserlen gyffredinol ar gyfer cyflawni’r gwaith. Gofynnir i ddeiliaid y swydd gyflawni a gwneud gwaith ar rai nosweithiau a phenwythnosau. Rhoddir rhybudd priodol.
Ar gyfer pob swydd:
- Cytundeb cyfnod penodol o flwyddyn
- Y cyflog yw £15,000 ynghyd â chostau teithio
- Oriau gwaith arferol yw 9.30am – 5.00pm
- Mae’r swyddi wedi’u lleoli yng nghanolbarth i ogledd Cymru a de Cymru yn y drefn honno, gyda pheth amser yn ein swyddfeydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Sut i wneud cais
Dylai ymgeiswyr wneud cais am y rôl hon drwy ddefnyddio’r Ffurflen Gais a’r Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal a’i chyflwyno ar e-bost i opportunities@artesmundi.org gan ddyfynnu Curaduron Cynorthwyol yn y llinell destun. Manylir ar opsiynau eraill ar gyfer gwneud cais yn nodiadau canllaw y ddogfen hon.
Cynhyrchydd Ymgysylltu Pecyn Gwybodaeth PDF
Cynhyrchydd Ymgysylltu Pecyn Gwybodaeth Word
Cynhyrchudd Ymgyslltu Pecyn Gwybodaeth Print Bras PDF
Cynhyrchudd Ymgyslltu Pecyn Gwybodaeth Print Bras Word
Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl neu’r broses ymgeisio, mae croeso i chi gysylltu â yn opportunities@artesmundi.org.