GWYLIO: Recordings for the Birds gan Amy Franceschini – FutureFarmers | Artes Mundi 7
Roedd y perfformiadau wythnosol Recordings for the Birds yn rhan o The Seed Journey (2016-17), a arddangoswyd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ystod Artes Mundi 7. Perfformiodd actorion lleol sesiynau gwrando yn seiliedig ar straeon a recordiwyd gan griw Seed Journey. Roedd aderyn bach pren, wedi’i gerfio o froc môr a ddarganfuwyd ar y daith, yn ganolbwynt i bob perfformiad. Yn Recordings for the Birds trosglwyddwyd straeon o’r criw, i’r actor, o’r actor i’r aderyn ac ymwelwyr. Mae adrodd straeon, ac ail-adrodd straeon yn weithred o gofio a throsglwyddo. Gwahoddodd Amy Franceschini a FutureFarmers gynulleidfaoedd i ddod yn rhan o’n cof ar y cyd.