GWYLIO: Wrth y bwrdd gyda Prabhakar Pachpute
Mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Artes Mundi yn cyflwyno sgwrs olaf Wrth y bwrdd gyda’r artist Prabhakar Pachpute.
Mae Wrth y bwrdd yn dwyn ynghyd leisiau’r chwe artist ar restr fer Artes Mundi 9 ochr yn ochr â lleisiau curaduron, artistiaid, haneswyr, meddylwyr ac awduron rhyngwladol mewn cyfres o drafodaethau bord gron sy’n canolbwyntio ar themâu a syniadau sy’n bresennol yn eu gwaith a’r berthynas gydblethedig rhwng hanesion ac arferion, o’r lleol i’r rhyngwladol. Mae’r olaf o chwe digwyddiad yn y gyfres Wrth y bwrdd yn cyflwyno’r artist Prabhakar Pachpute mewn sgwrs gyda’r curadur a’r darlithydd Zasha Colah; Siân Williams, Pennaeth Casgliadau Arbennig a Llyfrgellydd Llyfrgell Glowyr De Cymru ym Mhrifysgol Abertawe; Dr Radhika Mohanram, Athro Saesneg yn y Ganolfan Theori Beirniadol a Diwylliannol ym Mhrifysgol Caerdydd. Gan ddychmygu ein bod yn eistedd o amgylch bwrdd yn rhannu pryd o fwyd ac yn cyfnewid syniadau, mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i glywed gwahanol bryderon a safbwyntiau wrth ddod i adnabod yr artist a’i waith.
Mae Prabhakar Pachpute yn byw ac yn gweithio yn Pune, India. Mae Pachpute yn gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau a deunyddiau gan gynnwys lluniadu, golau, animeiddiadau stop-symud, sain a ffurfiau cerfluniol. Mae gan ei ddefnydd o siarcol gysylltiad uniongyrchol â’i bwnc a’i wreiddiau teuluol, pyllau glo a glowyr. Yn aml, mae Pachpute yn creu amgylcheddau ymgollol a dramatig yn ei waith sy’n benodol i safle, gan ddefnyddio portreadaeth a thirwedd gyda throsiadau swrrealaidd i fynd i’r afael yn feirniadol â materion llafur mwyngloddio ac effeithiau mwyngloddio ar y dirwedd naturiol a dynol. Derbyniodd Pachpute ei radd baglor mewn celfyddydau cain ym maes cerflunio o Brifysgol Indira Kala Sangit, Khairagarh (Chhattisgarh, 2009) a’i MFA o Brifysgol Maharaja Sayajirao of Baroda (Gujrat, 2011). Mae wedi arddangos yn helaeth gyda sioeau unigol yn y Clark House Initiative, Mumbai (2012); Experimenter, Kolkata (2013&2017); National Gallery of Modern Art, Mumbai (2016); AsiloVia Porpora, Milan (2018); a’r Glasgow School of Art (2019). Mae wedi cymryd rhan mewn arddangosfeydd grŵp hefyd yn Van Abbemuseum, Eindhoven (2013); Kadist Art Foundation, Paris (2013); IFA, Stuttgart a Berlin (2013); DRAF, Llundain(2014); MACBA, Barcelona (2015); Parasite, Hong Kong (2017); Asia Cultural Centre, Gwangju(2017); STUK, Leuven(2018); AV Festival, Newcastle (2018); ac roedd yn rhan o’r 31ain São Paulo Biennial (2014); y 5ed Fukuoka Asian Art Triennial (2014); y 14eg Istanbul Biennial (2015); yr 8fed Asia Pacific Triennial, Brisbane(2015); a’r Dhaka Art Summit (2018); yr 2il Yinchuan Biennale (2018) a’r 4ydd Kochi-Muziris Biennale (2018). Cynrychiolir Prabhakar Pachpute gan Experimenter, Kolkata.