Taith Disgrifio Sain: Dineo Seshee Bopape

Taith Disgrifio Sain: Dineo Seshee Bopape

Ymunwch ag Artes Mundi a’r disgrifydd sain Anne Hornsby ar gyfer cyfres o deithiau o amgylch Artes Mundi 9. Wedi’i gynllunio ar gyfer pobl Ddall a Rhannol Ddall, bydd pob sesiwn yn archwilio detholiad o weithiau celf neu eiliadau gan artistiaid sydd wedi ennill gwobrau Artes Mundi 9. Mae’r daith hon yn Saesneg.

 

 

Mae Anne Hornsby yn arloeswr ym maes sain-ddisgrifio yn y DU, ac roedd yn gyfrifol am gyflwyno’r ail wasanaeth sain-ddisgrifio yn Lloegr yn Theatr Octagon, Bolton, ym 1989. Lansiodd Mind’s Eye ym 1992 i gynnig sain-ddisgrifiad ar gyfer theatrau, orielau, amgueddfeydd, dawns, gwyliau ffilm a chynnwys ar-lein. Mae hi wedi ennill dwy wobr am ei gwaith ac mae’n hyfforddwr achrededig. Cyn y cyfyngiadau symud, roedd hi’n sain-ddisgrifio dros 100 o ddigwyddiadau’r flwyddyn yn ogystal â chynnig hyfforddiant yn rheolaidd. Mae hi’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Gymru, er yn rhithwir, ac ehangu mynediad i’r arddangosfa.

 

 

Mae gwaith cynhwysfawr Dineo Seshee Bopape yn ymdrin â syniadau cymdeithasol-wleidyddol ynglŷn â’r cof (o’r personol i’r torfol, yr hysbys a’r anhysbys), adrodd straeon a chynrychiolaeth fel ffurfiau cydgysylltiedig. Mae ei gwaith yn aml yn defnyddio ystod eang o ddeunyddiau cyffredin ac elfennol megis pridd, brics a choed, gyda gwrthrychau hapgael a delweddau archifol, fideo a sain i ddatblygu gosodweithiau swmpus a grymus. Mae’r rhain yn dwyn at ei gilydd y nefolaidd a’r daearol, y corfforol a’r metaffisegol, y personol a’r torfol. Er enghraifft, yn ei gwaith i Fiennale Berlin yn 2018, roedd golau oren yn trochi ystafell islawr llawn gwrthrychau ar chwâl fel malurion, ochr yn ochr â fideos gan gynnwys rhai’n dangos trais rhywiol yn erbyn gwragedd duon a ffilmiau o chwalfa feddyliol Nina Simone ar lwyfan. Fe greodd awyrgylch pwerus, llawn tyndra a rhithbair bron o anghysur ac anesmwythyd.