Yn gartre i ni, pa bryd?
gan Talk to Coco
Meddai tad-cu unwaith,
fe fyddi’n deall beth dw i’n ei olygu.
Bod yn ddu, meddai, yw bod yn wych,
peidio byth â chywilyddio at fy nghroen,
nac at bwy ydw i.
Ond bob dydd bydd pobl eraill
yn ffromi at ein durags,
yn casáu
ein cryfder a’n hanes du.
Mae ’ngwallt affro’n rhy amlwg,
yn rhy amhroffesiynol,
gan fod pob blewyn yn sefyll mewn undod,
yn llenwi pob modfedd o ofod yn falch.
Pryd yn y byd ga’ i fod yn fi fy hun,
a chofleidio’r gwychder yma
y soniodd fy nhad-cu amdano?
Yn gwiar a du, y cyfan ddymunais i erioed
oedd i bobl weld pwy ydw i,
gweld ein cymunedau fel rydan ni,
cael cerdded y ddaear heb i neb ein barnu.
Cael teimlo’r glaswellt rhwng bodiau’n traed,
cael bod yn ni, yn rhydd, heb ymddiheuro.
Yn union fel ein hynafiaid,
y dydd y datodwyd eu gefynnau caeth.
Byddai’n dda holi fy nhad-cu am bopeth na ddywedodd.
Os soniodd am wychder ein bywydau,
mae hwnnw bellach, fel yntau, wedi’i gladdu’n ddwfn.
A rhyw ddydd, gobeithio y caiff fy mhlant
chwarae ar draethau’r byd,
eu hwynebau’n hufen iâ, eu dwylo’n dywodlyd. Hwythau’n rhydd,
wedi’u gollwng o gadwyni cymdeithas.
Credit: Talk to Coco
Bardd ac awdur du, cwiar ac anneuaidd yw Talk to Coco ac yn actifydd-greadigwr iechyd meddwl. Mae Coco wedi creu gofod diogel i filoedd o bobl o bedwar ban byd i gael rhywun i siarad â nhw a rhannu eu profiadau, teimladau a meddyliau a theimlo eu bod yn cael eu deall a’u derbyn. Daeth Talk to Coco i fodolaeth oherwydd eu bod am chwalu pob stigma negyddol sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a dechrau siarad yn agored gan ddangos i gymaint o bobl debyg iddi hi nad ydynt ar eu pennau eu hunain ac er mwyn i bobl weld person go iawn, yn y cnawd, yn siarad am faterion bywyd go iawn ac yn eu cyflwyno gerbron.
Dechreuodd Coco eu llwyfan i ddatgymalu ystrydebau’r ‘awdur’, ‘bardd’, ‘gwallgo neu hanner pan’ a ‘bod lhdtc+ ddim yn normal’ ac i newid beth yw ‘normal’. Gan ddefnyddio eu barddoniaeth bob amser fel lens i onestrwydd a thryloywder gan fynegi hyn drwy siarad ac ysgrifennu mor onest ac agored ac yn chwalu pob stigma sydd ynghlwm gan achub bywydau ar yr un pryd. Oherwydd ei bod yn hanfodol gweld pobl fel Coco ledled y byd yn ffynnu ac yn teimlo’n rhan o bethau a heb fod ar wahân.
Trwy’r prosiect From Now On, derbyniodd Talk to Coco gefnogaeth fentora ac adborth beirniadol gan Taylor Edmonds, Cyd-sylfaenydd Where I’m Coming From.