Cof yw Mwd
gan Hanan Issa a Yousuf Lleu Shah
Credit: Efa Blosse-Mason
Mae Hanan Issa ac Yousuf Lleu Shah wedi cydweithio ar ddarn o waith gwreiddiol sy’n archwilio gweithiau’r artistiaid ar y rhestr fer ac yn creu darnau newydd er mwyn i deuluoedd eu harchwilio gyda’i gilydd. Daeth y cydweithrediad â’r ddau ynghyd – dau awdur sy’n archwilio rhai o faterion mwyaf brys ein hamser yn eofn yn eu gwaith. Mae safbwyntiau Issa a Lleu Shah yn ategu at ei gilydd. Fel mam a mab, byddant yn creu profiad sy’n plethu taith trwy’r arddangosfa er mwyn i bobl o bob oed allu ei mwynhau.
Bydd copïau o ‘Mud is Memory’ yn cael eu hanfon i bob Ysgol Gynradd a llyfrgell gyhoeddus yng Nghaerdydd a bydd nifer cyfyngedig o gopïau wedi’u llofnodi ar gael i’w prynu yn ein siop ar-lein yn fuan. Os hoffech ofyn am gopi am ddim i’ch teulu, ysgol, llyfrgell neu grŵp cymunedol, e-bostiwch letty.clarke@artesmundi.org
Please click images to enlarge
Credit:
Credit:
Bardd ac awdur Cymreig-Iracaidd yw Hanan Issa. Hi yw cyd-sylfaenydd cyfres meic agored BAME gyntaf Cymru ‘Where I’m Coming From’. Roedd hi’n un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2018-2019. Cyhoeddwyd ei phamffled barddoniaeth cyntaf My Body Can House Two Hearts gan BurningEye Books ym mis Hydref 2019. Mae hi wedi cael sylw ar ITV Cymru a BBC Radio Wales ac wedi gweithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Artes Mundi, Prifysgol Warwick, Fringe Abertawe, Gŵyl StAnza, Wales Arts International a Seren Books. Cyhoeddwyd ei gwaith yn Banat Collective, Hedgehog Press, Wales Arts Review, Sukoon mag, 4 Journal, Poetry Wales, Parthian, Y Stamp, cylchgrawn sister-hood a MuslimGirl.com. Cafodd ei monolog buddugol sylw yn Bush Theatre’s Hijabi Monologues.
Mae Yousuf Lleu Shah yn 8 oed ac ym Mlwyddyn 4 yr ysgol gynradd ar hyn o bryd. Ei hoff bynciau yw Mathemateg, Gwyddoniaeth a Chelf. Mae wrth ei fodd yn ysgrifennu straeon ac yn chwilfrydig am bopeth. Mae’n credu bod celf yn gallu ein hysbrydoli ni i ddeall. Ei gyhoeddiad cyntaf oedd stori fer ym mhamffled Hammad Rind, ‘Hammari Kahani: Our Story’.