Gwobr Artes Mundi 4

Yael Bartana oedd enillydd Gwobr Artes Mundi 4.

Credit: Artes Mundi preview. National Museum Wales. PIC Darren Britton © WALES NEWS SERVICE

Mae Bartana yn defnyddio ffotograffiaeth, delweddau symudol, sain a gosodiadau i greu delweddau cymhleth sy’n cwmpasu technegau dogfennu, efelychu ac ail-greu i archwilio perthynas yr unigolyn â strwythurau cymdeithasol.

 

Gan ganolbwyntio’n aml ar draddodiadau a hanes Israel neu gymunedau eraill a chanddynt gysylltiadau cryf â hanes Iddewig-Israelaidd, mae gwaith Bartana yn ymdrin â materion yn ymwneud â chenedlaetholdeb a hunaniaeth. Mae ei gwaith yn archwilio manylion ac arferion bywyd bob dydd, gan eu cysylltu â gweithredoedd y wladwriaeth a chysgod parhaus rhyfel ac ansicrwydd yn ei gwlad. Yn ddiweddar, galwodd ei hun yn ‘anthropolegydd amatur’, gan gydnabod ei bod yn adlewyrchu ac yn herio’r cysylltiadau gwleidyddol a diwylliannol y mae ei gwlad yn enwog amdanynt.

 

Yn 2006 cafodd Bartana wahoddiad i weithio yn Warsaw, Gwlad Pwyl, sef gwlad a arferai fod yn gartref i ryw 3 miliwn o Iddewon cyn i’r Natsïaid ei goresgyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Daeth Geto Warsaw yn gymuned ynddi ei hun, ac mae’r marwolaethau a ddigwyddodd yno yn sgil clefydau neu gludo pobl i wersylloedd crynhoi bellach yn rhan barhaol o hanes. Ar y safle, fe wnaeth Bartana adeiladu cibwts allan o bren, gan ffilmio’r gwaith adeiladu. Fel rhan o’r fenter, aeth ati i sefydlu’r Jewish Renaissance Movement in Poland (JRMiP).

 

Ganed Bartana ym 1970. Mae ei gweithiau wedi’u harddangos o amgylch y byd ac maent yn rhan o gasgliadau amgueddfeydd fel yr Amgueddfa Celfyddydau Modern yn Efrog Newydd, y Tate Modern yn Llundain a Chanolfan Pompidou ym Mharis. Cafodd ei thriawd o ffilmiau And Europe Will Be Stunned, lle trafodir y berthynas rhwng Iddewiaeth a hunaniaeth Bwyleg, ei arddangos yn y pafiliwn Pwyleg yn ystod Biennale Fenis 2011. Mae Bartana wedi’i lleoli yn Amsterdam, yn Berlin ac yn Tel Aviv.


Please click images to enlarge