Gwobr Artes Mundi 5
Dyfarnwyd Gwobr Artes Mundi 5 i Teresa Margolles yn 200X.
Credit:
Ers iddi raddio gyda diploma mewn meddygaeth fforensig yn niwedd yr 1990au, mae Margolles wedi archwilio economi marwolaeth, lle mae’r corffdy a’r ystafell ddyrannu yn arwydd o anfodlonrwydd cymdeithasol. Gan ganolbwyntio’n arbennig ar gydgythrwfl y profiad cymdeithasol yng ngogledd Mecsico, lle mae troseddau cyfundrefnol yn ymwneud â chyffuriau wedi arwain at lawer o drais a llofruddiaethau, caiff olion anhysbys o atgofion, claddedigaethau a bywydau’r gorffennol eu dwyn ynghyd.
I Margolles, mae perfformiadau a gosodweithiau cerfluniol yn amlygu realiti a materoliaeth marwolaeth. Gan ddeffro dallbwyntiau ein dychymyg, mae Margolles yn chwalu’r gwahaniaeth rhwng celfyddyd a realiti, fel yn ei gwaith ar gyfer Biennale Fenis 2009 pan gâi llawr yr ystafell arddangos ei fopio’n gyson â dŵr a oedd yn cynnwys gwaed o gorffdy ym Mecsico. Trwy gyfrwng ymyriadau artistig o’r fath, mae Margolles yn tynnu sylw manwl at ein dealltwriaeth a’n perthynas gyda marwolaeth.
Please click images to enlarge