Mircea Cantor
Bywgraffiad
Enillodd Mircea Cantor Wobr Brynu Artes Mundi Ymddiriedolaeth Derek Williams yn 2011 a chafodd ei gerflun Ŷd Diemwnt/Diamond Corn (2005), a oedd wedi’i wneud o risial, ei brynu ar gyfer y casgliad.
Credit:
Mae Cantor yn gweithio mewn amrywiaeth eang o gyfryngau, yn enwedig fideo a ffotograffiaeth, er mwyn archwilio’r arferion sydd ynghlwm wrth greu delweddau a gwrthrychau. Yn aml, mae’n ein hysgogi i gofio bod mewnfudo, hunaniaeth genedlaethol a chyfoeth yn faterion o bwys ledled y byd, a bod profiadau unigolion yn wahanol iawn i’w gilydd. Mae gwaith Cantor yn aml yn cyfuno cwestiynau ac ystyron haenog, ac mae’n defnyddio technegau amlsynnwyr sy’n dwysáu effaith emosiynol y gwaith.
Ganed Cantor yn Romania ym 1977 ac aeth ati i astudio ffilm a fideo. Mae’n byw yn Romania ac ym Mharis. Mae ei arddangosfeydd solo yn 2007 yn cynnwys A free smile, Oriel Yvon Lambert, Efrog Newydd; Museo Tamayo Arte Contemporáneo, Panorámica, Mecsico, D.F. a Ciel Variable, FRAC Champagne Ardennes, Ffrainc; yn 2006, The title is the last thing, Amgueddfa Gelf Philadelphia; Burn to be Burnt, Galleria d’Arte Moderna e Contemporanea di Bergamo, Yr Eidal, ac The landscape is changing, Amgueddfa Gelf Tel Aviv, Israel.
Oriel
Please click images to enlarge