Galwad agored am enwebiadau

Galwad agored am enwebiadau ar gyfer Arddangosfa a Gwobr Artes Mundi 10

 

Y Dyddiad Cau: 14 Chwefror 2022 *Mae enwebiadau bellach wedi cau*

 

Wrth ddathlu dechrau ei ben-blwydd yn 20 oed, mae Artes Mundi’n cyhoeddi’r alwad i enwebu artistiaid ar gyfer AM10 o 2 Rhagfyr 2021 tan 14 Chwefror 2022.

 

Artes Mundi sydd â’i gartref yng Nghaerdydd yw prif sefydliad rhyngwladol Cymru i’r celfyddydau gweledol. Wedi’i sefydlu yn 2002, mae gwobr ac arddangosfa enwog Artes Mundi’n cael eu cynnal  ochr yn ochr â rhaglen gyhoeddus uchelgeisiol ynghyd â phartneriaethau, comisiynau a phrosiectau cymunedol cydgreadigol sy’n dangos ein hymrwymiad i gydweithio ag artistiaid gweledol cyfoes, yn rhyngwladol ac yn lleol, y mae eu gwaith yn ymgysylltu â realiti gymdeithasol a phrofiad personol.

 

Gall unrhyw un sydd â diddordeb yn y celfyddydau gweledol neu sy’n ymwneud â nhw gyflwyno enwebiadau ar gyfer AM10. Rhaid cyflwyno enwebiadau drwy ddefnyddio’r ffurflen a geir drwy’r ddolen isod.

 CLICIWCH YMA I ENWEBU

Cwestiynau ac atebion i’ch helpu gyda’r broses

 

 

Mae artistiaid o unrhyw oedran ac o unrhyw le yn y byd yn gymwys. Er y disgwylir y bydd artistiaid yn adnabyddus yn eu gwledydd neu ranbarthau eu hunain, rhagwelir y bydd ganddynt rywfaint o brofiad o arddangos yn rhyngwladol, p’un a ydynt yn cael eu hystyried yn artistiaid sefydledig neu newydd.

 

Bydd pob enwebiad a dderbynnir yn cael ei adolygu gan reithgor annibynnol i’w gyhoeddi ym mis Ionawr. Byddant yn cydweithio ag Artes Mundi i ddethol artistiaid ar gyfer yr arddangosfa eilflwydd a fydd hefyd yn ffurfio rhestr fer ar gyfer Gwobr AM10. Bydd yr artist buddugol yn derbyn £40,000.

 

Ar gyfer y ddegfed arddangosfa sydd i’w lansio yng ngwanwyn/ haf 2023, pleser o’r mwyaf i Artes Mundi yw cyhoeddi Sefydliad Bagri fel y Partner Cyflwyno. Y cydweithrediad yma fydd partneriaeth gyntaf o bwys Sefydliad Bagri yn y DU y tu allan i Lundain ac mae’n dynodi carreg filltir arwyddocaol i’r ddau sefydliad.

 

Mae Artes Mundi a Sefydliad Bagri yn rhannu ymrwymiad i gefnogi gwaith rhyngwladol ym maes y celfyddydau gweledol cyfoes gan godi deialog ynghylch y cysylltiadau rhwng materion lleol a byd-eang.

 

Gan ganolbwyntio ar yr ymchwiliad parhaus i’r ‘Cyflwr Dynol’, bydd rhifyn ugeinmlwyddiant AM10 yn parhau’r gynhysgaeth o gyflwyno gwaith neilltuol yng Nghymru i greu cyfleoedd unigryw i unigolion a chymunedau ymgysylltu’n greadigol â materion brys yr oes a hynny mewn ffyrdd sy’n taro deuddeg â phob un ohonon ni.

 

Mae enillwyr blaenorol Artes Mundi yn cynnwys Firelei Báez, Dineo Seshee Bopape, Meiro Koizumi, Beatriz Santiago Muñoz, Prabhakar Pachpute a Carrie Mae Weems (2021); Apichatpong Weerasethakul (2019); John Akomfrah (2017);

Theaster Gates (2015); Teresa Margolles (2012); Yael Bartana (2010); N S Harsha (2008); Eija-Liisa Ahtila (2006) a Xu Bing (2004).

 

Mae Artes Mundi hefyd yn partneru ag Amgueddfa Cymru i gaffael gwaith i gasgliad cenedlaethol Cymru o gelfyddyd gyfoes o bob rhifyn o’r arddangosfa eilflwydd.

 

Ymhlith y rhai sydd wedi derbyn Gwobr Brynu Ymddiriedolaeth Derek Williams Artes Mundi mae Prabhakar Pachpute (2021); Anna Boghiguian (2019); Bedwyr Williams (2017); Ragnar Kjartansson (2015); Tania Bruguera (2012); Olga Chernysheva (2010); Lisa Abdul a Mircea Cantor (2008); Eija Liisa Ahtila a Mauricio Dias a Walter Riedweg (2006); Berni Searle (2004).

 

Ar gyfer pob ymholiad gan y wasg, cysylltwch â:

Elena Huntley: marketing@artesmundi.org | T +44 (0)300 7777 300

 

Partner Cyflwyno