'47

gan Durre Shahwar

 

 

 

rhybudd sbarduno: trais 

 

Mae tŷ fy mam-gu yn eistedd yn wag ar y ffin, llinell igam-ogam rhwng
dwy wlad a oedd unwaith yn gyfain, yr awyrgylch yn anesmwyth wrth ragweld
y tywallt gwaed sydd eto i gyrraedd yr ardal, rhybuddion sy’n cyrraedd fel mellt
cyn storm, a fydd i’r meistr fel dawns danbaid yn y llygad, a gaiff ei anghofio
fel un o lawer, i eraill bywyd, cyrff a changau chwilfriw wedi eu gwasgaru ar draws
y tir, bolltau croch o drydan yn celu esgidiau trwm y milwyr yn cicio’r
drws i dŷ gwag.

 

Mae tŷ fy mam-gu yn eistedd yn wag, blodau gwyllt yn tyfu’n eofn rhwng brics
a morter, gwres tawa a adawyd ar ôl yn parhau yn yr ystafelloedd llwm, arogl
oediog inc du, golosg toredig ar draws prennau llosg, caligraffi brysiog
plentyn, adlais o’r adhan yn galw i weddi.
 

 

Mae tŷ fy mam-gu yn eistedd yn wag, tra yn y wlad newydd mae hi’n tyfu
heulflodau Midas sy’n lledorwedd yn erbyn y mur dwyreiniol, llinellau o wydr drylliog
ar hyd ei arwyneb i rwystro adar rhag llenwi’u boliau ar yr hadau amrwd, heulwen beunyddiol yn treiddio trwy’r teilchion, yn gogwyddo i’r llygad wyliadwrus mae hi’n
daflu ar draws y caeau ŷd lle mae fy mam yn rhedeg fel plentyn, ar draws y tir creithiog
sy’n disgwyl cnewyll, dros y ffynnon sy’n llawn o law yr haf, i’r gorwel yn craffu am filwyr.

 

Yn y wlad newydd mae’n dysgu fy mam i gasglu wyau oddi wrth yr ieir, i fowldio gwenith
i’w lynu ar furiau clai uwchben y tân, i gloi pob clo ar y drws yn y nos. Rwy’n cario’r atgofion hyn, heb fedru gwahanu fy rhai i oddi wrth y rhai dychmygol neu etifeddol, maen nhw’n dweud wrtha i mai cyfuniad o brofiad yw trawma, ac mai symudiad yw dadleoliad, wrth i mi fwrw gwreiddiau mewn gwlad wedi’i hadeiladu o doriadau yn sodlau fy mam-gu.

 

Ddegawdau wedyn, mae llinellau igam-ogam yn ei dilyn hi, yn dilyn fy mam, yn fy nilyn i, dan wadnau ein traed sydd yr un ffunud â’i gilydd rwy’n dal i rwbio olew llyfn heulflodau i
wella,
      gwella,
         gwella
fel na fydd fy merch hefyd yn eu hetifeddu.

 


 

Mae Durre Shahwar yn awdur ac ymchwilydd sydd â diddordeb mewn testunau, delweddau a themâu gwrthdroadol. Hi yw cyd-sylfaenydd ‘Where I’m Coming From’, grwp meic agored cymunedol sy’n cynnwys awduron lliw yng Nghymru. Cyhoeddwyd ei gwaith mewn amryw o gylchgronau a blodeugerddi, yn arbennig: Know Your Place: Essays on the Working Class (Dead Ink Books), We Shall Fight Until We Win (404 Ink), Homes For Heroes 100 (Festival of Ideas). Mae Durre wedi bod yn rhan o Hay Festival Writers at Work ac BBC Writersroom Welsh Voices. Ar hyn o bryd mae Durre yn gwneud ei PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn gweithio tuag at ei llyfr cyntaf o hunangofiant am hunaniaeth, hil, ymfudo. @Durre_Shahwar