
Hannan Jones – Cosmotechnic Templum
Ceir camsyniad cyffredin bod amser yn llinol, bod y presennol yn gydamseriad aneglur o’n profiad o’r ‘nawr’; syniad ein bod yn wynebu’r dyfodol wrth wynebu ymlaen, a bod y gorffennol y tu cefn i ni. Ond beth sy’n digwydd pan fyddwn ni’n edrych am i fyny? Beth yw’r posibiliadau pan fyddwn yn ymgysylltu â photensial anllinol di-derfyn amser, ei gylcholdeb, ei realiti di-rifedi a’i gosmoleg niferus.
Yn ymddangos am y tro cyntaf mae un rhan o drioleg o ffilmiau gan Hannan Jones, fel rhan o lansiad meddal ym mis Ionawr, o dan y duwdod Janus—duw Rhufeinig dechrau, diwedd, trawsnewid a phyrth—sy’n aml yn cael ei ddangos gyda dau wyneb, un yn edrych i’r gorffennol ac un i’r dyfodol, arwydd o lif trefn digwyddiadau fel dilyniant.
Yn y deyrnas nefolaidd ddi-gwmwl, mae chwedloniaeth yn cydblethu, mae aliniad y planedau’n ymrafael ag oraclau dewiniaeth a phroffwydoliaeth, a’r systemau gwybodaeth cosmogenesis hyn sy’n arwain gwareiddiadau hynafol a chymdeithas heddiw. Gan blethu gwrthsafiad, pŵer ac adrodd straeon – grymoedd sy’n dylanwadu ar benderfyniadau am ryfel, heddwch, gwleidyddiaeth a gobaith. Mae’r systemau llywodraethu hyn, sydd â’u gwreiddiau yn y ddaear, yn adlewyrchu’r drefn nefolaidd; yn gymharol o fewn terfynau ac yn ddi-derfyn.
Yr amherffaith sy’n arwain at ffurf ‘berffaith’ gweddillion Rhufeinig strwythurau’r Ymerodraeth; mae strwythur calendr solar Julian, na all gysoni orbit a chylchdro’r Fam Ddaear yn llawn, yn mesur amser solar dyddiol yn y prif feridian, ante meridiem (AM) a post meridian (PM). Mae ‘sicrwydd’ llinol gweddillion yr Ymerodraeth yn meithrin bodlonrwydd Gorllewinol sy’n gallu mynnu ‘trefn’, mygu, cuddio neu ddiystyru ffyrdd eraill o wybod a bod. Mae llywodraethu amserol hynafol yn parhau drwy weddillion hen wareiddiadau, gan adael cadarnleoedd parhaus sy’n siapio sut rydym yn byw yn y foment ac yn gogwyddo ein hunain tuag at y dyfodol.
Mae ymgysylltu â rhesymegau ymerodrol drwy’r broses o wneud ffilmiau yn ymgais i ddal gofod ac ail-addasu perthnasoedd drwy ymgynnull ar safle o feddiannaeth Rufeinig fawr—llestr cosmolegol. Drwy gysylltu â’r continwwm amser, a chydgyfeirio’r hynafol a’r annherfynol, mae cyrff chwe chamera Bolex a ffilm 16mm yn perfformio ffilmiau araf; profiad synhwyraidd o amser sy’n ceisio datgymalu adeiladwaith trefedigaethol ymerodrol amser llinol, gan agor lle ar gyfer dealltwriaeth fwy hyblyg a chylchol o hanes, un sy’n cwmpasu cyfnodau hir wedi’u llethu neu eu dileu o dan reolaeth ymerodrol. Gyda phetryaledd tebyg i ddrws, yn strwythurol rydym yn wynebu’r mynedfeydd i’r gogledd, i’r de, i’r dwyrain ac i’r gorllewin o fewn ein templum nefolaidd canolog (templum caeli) o fewn yr adfeilion, gan ailgysylltu ag archaeoleg i broffwydo drwy agor porth sy’n taflu cysgod dros resymeg ymerodrol y Rhufeiniaid.
Nodiadau
- Ystyr Templum (o A Dictionary of Greek and Roman Antiquities (1890), TEMPLUM) yw’r gofod yn yr awyr sy’n cael ei ddynodi fel porth gyda lituus ar gyfer argoel a chyfathrebu dwyfol gan offeiriad Rhufeinig. Mae’r deml ffisegol (templum) ar y ddaear yn arwydd daearol o’r templum (porth) i’r nefoedd uwch ben. Felly mae pob teml Rufeinig yn dal i fod yn lle arbennig o dan ddarnau o’r awyr a oedd yn byrth i’r nefoedd. Roedd/Mae arogldarth yn cael ei ddefnyddio gan ei fod yn esgyn am y nefoedd gan gynrychioli gweddïau’r ffyddlon, ac ati.
- Ym mis Ebrill 2025, bydd y drioleg o ffilmiau’n cael ei chyflwyno fel rhan o arddangosfa yn stiwdio Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Mae’r lleoliad hwn ychydig o lathenni o gromae locus– canolbwynt ffisegol ac ‘ysbrydol’ cadarnle Caerllion. Fe’i gosodwyd drwy ddefnyddio’r groma (teclyn arolygu), a gafodd ei anfarwoli o dan ganol porth bwaog pedair ffordd enfawr.
Testun: Dr Mark Lewis, Uwch Guradur, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a Hannan Jones
Credydau
Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd: Hannan Jones
Sinematograffeg 16mm: Ruby Allan, James Holcombe, Hannan Jones, Joanne Lee, Ross Little, Daisy Smith.
Prosesu â Llaw Du a Gwyn 16mm: James Holcombe
Dylunio Sain: Hannan Jones
Recordiadau: Recordiad maes electroffonig ac electromagnetig SOMA Laboratory Ether V ac ELF/VLF
Cyfansoddiad: Beat/s Kitchen (Hannan Jones a Shamica Ruddock)
Cymysgu a Meistr: Ronan Fay at Green Door Studios
Print 16mm golau gorau: Colorlab, Maryland
Gyda diolch i Dr Mark Lewis, Nigel Prince, Melissa Hinkin, Dee Iskrzynska, Katarzyna Lukasik, Reman Sadani, Dr Philippa Lovatt a Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd.
Comisiynwyd ar gyfer Safbwynt(iau), mewn partneriaeth ag Artes Mundi, Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rufeinig, Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru.