Aelodau Rheithgor Artes Mundi 11 wedi’u cyhoeddi

Mae’n bleser gennym gyhoeddi detholwr/beirniaid Artes Mundi 11 sy’n cynnwys ffigurau mawr yn y celfyddydau gweledol cyfoes: Zoe Butt, Sohrab Mohebbi a Marie Helene Pereira. Gyda’i gilydd, mae eu gwybodaeth, eu harbenigedd a’u rhwydweithiau yn bellgyrhaeddol, yn gysyniadol, yn ymarferol ac yn ddaearyddol, gan greu amrywiaeth a dyfnder i gefnogi Artes Mundi 11. Diolch i bawb a wnaeth enwebiad. Edrychwn ymlaen at gyhoeddi’r artistiaid sydd ar restr fer Artes Mundi 11 yn hydref 2024.


A side profile photo of a woman called Zoe Butt, taken in black and white

Zoe Butt

A black and white image of a man with shoulder length hair, a moustache and a beard. He is wearing a long sleeved shit and is sat outside at a table with a coffee cup.

Sohrab Mohebbi

A black and white portrait image of a smiling woman with short afro hair, wearing a patterned tunic top.

Marie Helene Pereira

Mae Zoe Butt yn guradur ac yn awdur, sy’n meithrin meddwl beirniadol a chymunedau artistig sy’n ymwybodol o hanes, gan annog deialog rhwng diwylliannau de’r byd.

 

Yn 2022 sefydlodd ‘in-tangible institute’, gan chwilio am ecoleg gadarn ar gyfer talent curadurol sy’n ymateb yn lleol yn Ne-ddwyrain Asia. Ar hyn o bryd mae’n Ymgynghorydd Arweiniol (De-ddwyrain Asia ac Oceania), Sefydliad Celf Kadist. Cyn hynny, arferai fod yn Gyfarwyddwr Artistig, Canolfan Gelf Gyfoes The Factory, Ho Chi Minh City (2017-2021), Cyfarwyddwr Gweithredol, Sàn Art, Ho Chi Minh City (2009–2016); Cyfarwyddwr, Rhaglenni Rhyngwladol, Prosiect Long March, Beijing (2007–2009); Curadur Cynorthwyol, Celf Gyfoes Asia, Oriel Gelf Queensland, Brisbane (2001–2007). Mae ei hymdrechion nodedig yn cynnwys Pollination(2018-); Sharjah Biennial 14: Leaving the Echo Chamber – Journey Beyond the Arrow, (2019); Conscious Realities (2013-2016) a San Art Laboratory (2012-2015). 

 

 

Sohrab Mohebbi yw Cyfarwyddwr SculptureCenter.

 

Cyn hynny, bu’n gweithio fel Curadur Kathe a Jim Patrinos ar gyfer 58fed Carnegie International. Mohebbi oedd Curadur Arbennig SculptureCenter (2020-21), a’r Curadur rhwng 2018 a 2020.Roedd yn Guradur Cynorthwyol yn REDCAT, Los Angeles, 2014-18.Derbyniodd MA o’r Ganolfan Astudiaethau Curadurol yng Ngholeg Bard a BFA mewn ffotograffiaeth o Brifysgol Celf Tehran. 

 

 

Mae Marie Helene Pereira yn Guradur ac yn ymarferydd diwylliannol o Dakar, Senegal. Mae’n Uwch Guradur (Arferion Perfformiadol) yn Haus dêr Kulturen der Welt, Berlin, yr Almaen.

 

Mae Pereira yn aelod o RAW Material Company ers ei sefydlu yn 2011, ac wedi bod yn Gyfarwyddwr Rhaglenni yno’n flaenorol (2019-2022). Mae hi wedi trefnu arddangosfeydd a rhaglenni trafod cysylltiedig, gan gynnwys trefnu bod RAW yn cymryd rhan yn “We face forward: Art from West Africa Today” Oriel Gelf Whitworth, Manceinion; ICI Curatorial Hub yn TEMP, Efrog Newydd; a’r 9fed Arddangosfa Eilflwydd yn Shanghai, Shanghai (2013). Fe wnaeth gyd-guradu Scattered Seeds yn Cali-Columbia (2015-2017) a churadu Battling to normalize freedom yn y Clarkhouse Initiative, ym Mumbai, India (2017).

 

Roedd Pereira yn gyd-guradur rhan o’r 13eg Dakar Biennale Celfyddyd Gyfoes Affrica (2018), sy’n rhan o dîm artistig Still Present! – 12fed Biennale Berlin (2022), yn un o dderbynwyr Cymrodoriaeth Ymchwil Curadurol ICI (2021) – menter Oriel Marian Goodman a ddyfeisiwyd gan yr artist Steve McCueen – i anrhydeddu’r diweddar Okwui Enwezor.

 

Mae gan Pereira ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth hunaniaeth yn ogystal â hanesion mudo. Mae’n byw ac yn gweithio ym Merlin, yr Almaen.

 

 

Partneriaid Cyflwyno

Partneriaid Craidd