AM11 Enwebiadau - Cwestiynau ac Atebion

Ydw i’n gymwys i enwebu rhywun?
Gwahoddir unrhyw aelod o’r cyhoedd sydd â diddordeb yn neu sydd ynghlwm â’r celfyddydau gweledol i enwebu rhywun. 

 

 

Pa fath o artist galla i ei enwebu?
Mae unrhyw artist sy’n gweithio mewn unrhyw gyfrwng o fewn cyd-destun celfyddyd gyfoes yn gymwys.   

 

Oes unrhyw feini prawf ar gyfer enwebu?
Dylid ystyried pob artist o dan y thema fras, “Y Cyflwr Dynol”. Mae gynnon ni ddiddordeb yn y rheini y mae eu gwaith yn mynegi eu perthynas â honno mewn amryw o ffyrdd: o’r barddol i’r rhethregol; o’r swrrealaidd i’r dychanol. Gallent ymdrin â themâu amserol fel strwythurau grym a llywodraeth, cynrychiolaeth, globaleiddio a phrynwriaeth, trefoli a chynhyrchu bwyd, materion rhywedd, amgylcheddaeth a newid ecolegol, ond hefyd materion tra phersonol fel ffyrdd cyfredol o fyw, galar, colled a phryderon am y dyfodol. 

 

 

A yw hyn yn golygu artistiaid sefydledig yn unig neu a allant fod yn rhai sy’n dod i’r amlwg?
Gall artistiaid fod naill ai’n sefydledig neu’n rhai sy’n dod i’r amlwg ond dylent fod yn adnabyddus yn y wlad lle maent yn gweithio a lle mae eu henw rhyngwladol wedi’i sefydlu neu’n datblygu.  

 

 

 Alla i enwebu artist sy’n fyfyriwr neu’n fyfyriwr a raddiodd yn ddiweddar?
Gellir enwebu unrhyw artist sy’n bodloni’r meini prawf. Fodd bynnag, nid yw myfyrwyr yn gymwys, a disgwylir y bydd gan artistiaid rywfaint o brofiad o arddangos yn rhyngwladol, lle ystyrir eu bod yn dod i’r amlwg neu tua chanol eu gyrfa, felly mae’n bosibl y bydd graddedigion diweddar yn cael eu hystyried yn briodol neu fel arall.

 

 

A ddylwn i enwebu gwaith celf penodol?
Gwneir enwebiadau ar gyfer ystyried yr artist a’i ymarfer, nid ar gyfer un darn o waith.

 

 

Ga i enwebu artist sydd wedi bod ar y rhestr fer o’r blaen?
Cewch.  

 

Alla i enwebu fy hunan?
Ni allwch enwebu eich hun ond gallwch ofyn i gymheiriaid a chydweithwyr eich enwebu ar sail eich ymarfer fel artist.

 

 

A gaiff yr artist sydd wedi’i enwebu fod o unrhyw oedran?
Nid oes unrhyw gyfyngiad o ran oedran.   

 

 

Ga i enwebu mwy nag un artist?
Cewch. Mae dolen ar dudalen gyflwyno’r ffurflen enwebu a fydd yn mynd â chi at ddechrau ffurflen newydd.  

 

 

Ga i enwebu’r un artist fwy nag unwaith?
Nid oes angen oherwydd bod y dethol yn seiliedig ar y meini prawf ac nid ar nifer yr enwebiadau. 

 

 

Beth os nad oes gan yr artist dw i’n ei enwebu ei wefan ei hun?
Os nad oes gan yr artist wefan, syniad da yw cynnwys unrhyw wefan sy’n dangos ei (g)waith.  

 

 

Fyddwch yn fy hysbysu os bydd artist/artistiaid a enwebir gen i ar y rhestr fer?
Anfonir e-bost i’ch hysbysu os yw’r artist(iaid) a enwebir gynnoch chi wedi cyrraedd y rhestr fer.  

 

Pam mae angen i mi roi gwybod i chi beth yw fy ngwlad breswyl?
Mae gennym ddiddordeb mewn gwybod o ba rannau o’r byd y daw enwebiadau, gan ei fod yn ein helpu i werthuso cyrhaeddiad Gwobr ac Arddangosfa Ddwyflynyddol Artes Mundi ac adrodd i gyllidwyr a chefnogwyr.

 

 

Pam mae angen i mi ddweud wrthych chi beth yw gwlad breswyl yr artist?
Unwaith eto, mae gennym ddiddordeb mewn gwybod ym mha rannau o’r byd mae artistiaid yn byw ac yn gweithio, gan fod hyn yn ein helpu i werthuso cyrhaeddiad Artes Mundi ac adrodd i gyllidwyr a chefnogwyr.

 

 

Beth sy’n digwydd ar ôl i mi enwebu rhywun?
Bydd yr holl enwebiadau’n cael eu coladu a’u dosbarthu i’r rheithgor. Dros gyfres o gyfarfodydd ag Artes Mundi, adolygir yr enwebiadau yn erbyn y meini prawf, paratoir rhestr hir ac eir â’r rhestr hon ymhellach er mwyn pennu’r detholion ar y rhestr fer ar gyfer AM11. Ar ôl dewis, byddwn yn cysylltu ag artistiaid sydd ar y rhestr fer ac yn dechrau cynllunio ar gyfer arddangosfa Artes Mundi 11. Bydd rhestr fer AM11 yn cael ei chyhoeddi ar ein gwefan, yn ein cylchlythyr ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Gallwch gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio drwy’r ffurflen enwebu. 

 


Mae gen i gwestiwn nad yw’n cael ei ateb yma, sut alla i gysylltu â chi?

Anfonwch e-bost i info@artesmundi.org gan ganiatáu hyd at 5 diwrnod ar gyfer ymateb.