Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NP

 

museum.wales/cardiff/

Ffôn: 0300 111 2 333

E-bost: cardiff@museumwales.ac.uk

Casgliad celf Amgueddfa Cymru yw un o’r gorau yn Ewrop. Mae’r casgliad yn cwmpasu chwe chanrif ac fe’i harddangosir dros 24 o orielau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’n cynnwys rhai o’r enwau mwyaf adnabyddus ym maes celf: Claude Monet, Paul Cézanne, Vincent Van Gogh, Gwen John, Barbara Hepworth a Henry Moore.

 

Yn Orielau Adain y Gorllewin – Uchaf cynhelir rhaglen yr Amgueddfa o arddangosfeydd celf cyfoes sy’n newid yn gyson. Mae sioeau diweddar wedi cynnwys arddangosfa fawr o waith David Nash dros y blynyddoedd a’r arddangosfa ddiweddaraf The Rules of Art? sy’n dwyn ynghyd bum can mlynedd o beintio, lluniadu, cerflunio, ffotograffiaeth, ffilm a serameg o’r casgliad i ofyn cwestiynau am gynrychiolaeth, hunaniaeth a diwylliant.

 

Mae partneriaeth sefydlu’r Amgueddfa gydag Artes Mundi ers 2002 wedi dod â chwmpas rhyngwladol i’w chasgliadau cyfoes sy’n parhau â thraddodiad rhodd y chwiorydd Davies o waith Argraffiadol ac ôl-Argraffiadol yn yr 20fed ganrif. Drwy’r cydweithrediad hwn, gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Derek Williams, prynwyd gwaith gan artistiaid fel Bedwyr Williams, Tania Brugera, Prabhakar Pachpute a Berni Searle, ymysg llawer o rai eraill. www.museumwales.ac.uk.

Credit:

Amseroedd Agor

Cau Dydd Llun ond agor ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc
Dydd Mawrth: 10.00 yb – 5.00 yp
Dydd Mercher: 10.00 yb – 5.00 yp
Dydd Lau: 10.00 yb – 5.00 yp
Dydd Gwener: 10.00 yb – 5.00 yp
Dydd Sadwrn: 10.00 yb – 5.00 yp
Dydd Sul: 10.00 yb – 5.00 yp

 

Bydd mwy o amser gyda chi yn yr amgueddfa, sydd ar agor tan 8pm bob dydd Iau cyntaf y mis. Dyddiau: 2 Tachwedd, 7 Rhagfyr, 4 Ionawr, 1 Chwefror.

Rhydd i fynd i mewn.

Canllaw Mynediad: https://amgueddfa.cymru/caerdydd/ymweld/mynediad/ 

Sut i Gyrraedd Yno

Ar droed/Ar feic
Mae’r Amgueddfa 20 munud ar droed o orsafoedd bws a thrên Caerdydd Canolog. Mae map o lwybrau cerdded/beic ar gael o Sustrans.

 

Bws
O orsaf trenau Caerdydd Canolog, cerddwch i Wyndham Arcade, Heol Eglwys Fair ac ewch ar fws rhif 35 i’r Amgueddfa. O Fae Caerdydd ewch ar fws Bay Car rhif 6 i ganol y ddinas, ac yna ewch ar fws rhif 35 o Arcêd Wyndham. Neu, o orsaf drenau Bae Caerdydd, ewch ar y trên uniongyrchol i orsaf Heol y Frenhines a cherddwch 880 llath i’r Amgueddfa. Gallwch drefnu’ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 

Mewn car
Cyffordd 32 o’r M4. Os ydych yn defnyddio teclyn llywio â lloeren, defnyddiwch y cod post CF10 3NP.
Parcio: Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio. Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi’r Orsedd.

 

Trenau
Gorsaf Cathays yw’r orsaf agosaf at yr Amgueddfa, a gellir cerdded yno mewn tua 5 munud. Am fwy o wybodaeth am deithio yma ar y trên, ewch i Ymholiadau Rheilffordd Cenedlaethol.
Mae Great Western Railway yn darparu gwasanaethau trên cyflym rhyng-ddinasol a gwasanaethau rhanbarthol i orsaf Caerdydd Canolog.