Aelodau Rheithgor Artes Mundi 10 wedi’u cyhoeddi

Pleser o’r mwyaf i ni yw cyhoeddi aelodau rheithgor AM10, sy’n cynnwys ffigurau mawr ym myd y celfyddydau gweledol cyfoes: Katya García-Antón, Wanda Nanibush a Gabi Ngcobo. Mae eu holl wybodaeth a rhwydweithiau gyda’i gilydd yn bellgyrhaeddol, yn gysyniadol, yn ymarferol ac yn ddaearyddol, gan greu amrywiaeth a dyfnder o ran arbenigedd i gefnogi AM10.

A portrait photo of a woman called Katya García-Antón looking directly at the camera, wearing an orange scarf, with her arms crossed and smiling

Katya García-Antón

A headshot of a woman called Gabi Ngcobo looking and smiling directly at the camera, with her arms crossed

Gabi Ngcobo

A headshot of a woman called Wanda Nanibush

Wanda Nanibush

Mae Katya García-Antón yn gyfarwyddwr a phrif guradur Swyddfa Celfyddyd Gyfoes Norwy (OCA), lle mae’n dal y swydd er 2014. Yn wladolyn Prydeinig a Sbaenaidd, graddiodd gyda BA mewn bioleg o Brifysgol Bryste, gan arbenigo mewn primatoleg ac ecoleg. Bu’n gwneud gwaith maes yng nghoedwigoedd yr Amazon ym Mrasil ac yng nghoedwigoedd Gola yn Sierra Leone, cyn newid byd i’r celfyddydau gyda gradd feistr yn hanes celf y 19eg a’r 20fed ganrif o Athrofa Gelf Courtauld yn Llundain. Bu’n gweithio fel curadur yn Athrofa Gelf Courtauld, Museo Nacional Reina Sofía Madrid, ICA Llundain, IKON Birmingham, a hi oedd cyfarwyddwr Centre d’Art Contemporain Genève. Curadodd Bafiliynau Sbaen ym Miennale Sao Paulo 2004 ac ym Miennale Fenis yn 2011, y Pafiliwn Nordig ym Miennale Fenis 2015 a hi oedd cyd-guradur Biennale Ryngwladol Qalandiya 2022, yn Jerwsalem a Ramallah.

 

Mae hi wedi curadu dros 100 o arddangosfeydd celf, dylunio a phensaernïaeth; yn fwyaf diweddar, hi oedd prif guradur Actions of Art and Solidarity yr OCA (2021) a gyflwynwyd yn Kunstnernes Hus Oslo. Mae ei chyhoeddiadau helaeth yn cynnwys, yn fwyaf diweddar, fod yn olygydd/cyd-olygydd (gan gyfrannu gyda thraethodau) trioleg yr OCA ar ysgrifennu brodorol newydd: Sovereign Words: Indigenous Art, Curation and Criticism (2018), Mázejoavku: Indigenous Collectivity and Art (2020) a Let the River Flow, An Indigenous Uprising and its Legacy in Art, Ecology and Politics (2020), yn ogystal â’r gyfrol Art and Solidarity Reader: Radical Actions, Politics and Friendships (2022) sydd ar ddod. Yn 2021 traddododd y prif ddarlithoedd ar ddad-drefedigaethu a brodoreiddio arferion sefydliadol yn Symposiwm Meistr Athrofa Gelf Basel, ‘Seeing into the Heart of Things: Earth and Equality within Indigenous and Ancestral Knowledges’ a chyda Sefydliad Alserkal yn Expo’r Byd Dubai 2022.

 

Yn 2015, lansiodd García-Antón brosiect hirdymor yn canolbwyntio ar y Gogledd (o ran newid yn yr hinsawdd a phersbectifau’r Sámi a’r cysylltiad rhyngddynt) o’r enw ‘Thinking from the Edge of the World: Perspectives from the North’. Bu’n allweddol wrth greu Sefydliad Artica Svalbard, gan gysylltu gwaith gwyddonol ac artistig yno; partner allweddol yw OCA yng ngweithgareddau preswyl a churadurol Artica.

 

Yn OCA, mae García-Antón wedi cynhyrchu gwaith a rhaglenni brodoreiddio sylweddol, yn benodol mewn cysylltiad â chelfyddyd a syniadaeth y Sámi yn ogystal â hwyluso mwy o gysylltedd rhwng lleisiau’r Sámi a meddylwyr brodorol ar draws y byd mewn prosiectau arloesol megis documenta14, Biennale Sydney 2020, 13eg  Biennale Gwanju 2021, ymysg eraill. OCA yw prif gomisiynydd y prosiect sy’n trawsnewid y Pafiliwn Nordig i’r ‘Pafiliwn Sámi’ yn 59fed Arddangosfa Gelf Ryngwladol La Biennale di Venezia, 2022. Mae García-Antón yn rhan o’r grŵp curadurol ar gyfer y ‘Pafiliwn Sámi’.

 

Ym mis Awst 2022, bydd yn dechrau fel cyfarwyddwr Amgueddfa Gelf Gogledd Norwy (NNKM) y mae ei phencadlys yn Tromsø, gyda changen yn Longyearbyen yn Ynysfor Svalbard, a changen ar y gweill yn Bodø, ger Ynysfor Lofoten.

 

Artist, curadur ac addysgydd yw Gabi Ngcobo sy’n byw yn Johannesburg, De Affrica. Ers dechrau’r ganrif hon, mae Ngcobo wedi bod ynghlwm â phrosiectau artistig, curadurol ac addysgol ar y cyd yn Ne Affrica ac yn rhyngwladol. Mae ei phrosiectau curadurol diweddar yn cynnwys All in a Day’s Eye: The Politics of Innocence in the Javett Family Collection, yng Nghanolfan Gelfyddyd Javett – Prifysgol Pretoria (Javett-UP) a Mating Birds yn Oriel KZNSA, Durban. Yn 2018 curadodd 10fed Biennale Berlin o’r enw We don’t need another hero a hi oedd un o gyd-guradiaid 32ain Biennale Sao Paulo (2016). Mae hi’n un o aelodau sefydlu’r llwyfannau cydweithredol yn Johannesburg, NGO – Nothing Gets Organised (2016-) a’r Ganolfan ar gyfer Ailgreadau Hanesyddol (2010-14). Mae ysgrifennu Ngcobo wedi’i gyhoeddi mewn gwahanol gyhoeddiadau gan gynnwys y llyfr Uneven Bodies,  Oriel Gelf Govett-Brewster, Aotearoa Seland Newydd (2021), The Stronger We Become, catalog Pafiliwn De Affrica, Fenis (2019), Public Intimacy: Art and Other Ordinary Acts in South Africa, YBCA/SFMOMA (2014), We Are Many: Art, the Political and Multiple Truths, Uwchgynhadledd Gelf  Verbier (2019) a Texte Zur Kunst  Medi 2017. Cyfarwyddwr Curadurol Javett-UP yw Ngcobo.

 

Rhyfelwraig dros ddelweddau a geiriau, curadur a threfnydd cymunedol Anishinaabe-kwe yw Wanda Nanibush o Genedl Gyntaf y Beausoleil. Ar hyn o bryd, Nanibush yw Curadur cyntaf Celfyddyd Frodorol a chydbennaeth Adran Celfyddyd Frodorol a Chanadaidd Oriel Gelf Ontario (AGO), Toronto.

 

Mar ei harddangosfa ôl-dremiol Robert Houle: Red is Beautiful ymlaen yn yr AGO a bydd yn mynd ar daith. Bu ei harddangosfa ddiwethaf yn yr AGO, yn 2018, Rebecca Belmore: Facing the Monumental, yn teithio’n rhyngwladol ynghyd â dau brosiect annibynnol arall  Nanabozho’s sisters (Dalhousie) a Sovereign Acts (JMB). Sefydlodd Nanibush aabaakwad, yn 2018 a fydd yn digwydd yn Fenis, Yr Eidal rhwng 21 a 26 Ebrill  2022.

 

Mae gan Nanibush Radd Feistr mewn Astudiaethau Gweledol o Brifysgol Toronto lle mae wedi dysgu cyrsiau i raddedigion. Yn ogystal â llawer o draethodau catalog mae Nanibush wedi cyhoeddi’n eang ynghylch celf frodorol, gwleidyddiaeth, hanes a ffeministiaeth, a rhywioldeb.