Artes Mundi 10, Partner Cyflwyno: Sefydliad Bagri

Arddangosfa Eilflwydd y Degfed Rhifyn

 

20 Hydref 2023 – 25 Chwefror 2024

 

Gyda’i bartner cyflwyno, Sefydliad Bagri, bydd Artes Mundi 10 (AM10), prif wobr celf gyfoes ryngwladol ac arddangosfa eilflwydd y DU, am y tro cyntaf yn cyflwyno saith o artistiaid gweledol cyfoes rhyngwladol ar draws pum partner lleoliad yng Nghymru ar gyfer ei ddegfed rhifyn. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 20 Hydref 2023 a 25 Chwefror 2024 a bydd enillydd Gwobr nodedig Artes Mundi, sy’n werth £40,000 – gwobr celf gyfoes fwyaf y DU – yn cael ei gyhoeddi yn ystod y cyfnod arddangos.

 

Yn AM10 bydd pob artist yn cyflwyno prosiect unigol mawr, gan gynnwys cynyrchiadau newydd, gwaith nas gwelwyd o’r blaen a chyfle i weld sawl arddangosfa am y tro cyntaf yn y DU. Mae rhai artistiaid yn cyflwyno ar draws nifer o leoliadau, a bydd gan bob artist waith mewn lleoliad yng Nghaerdydd.

 

Dyma leoliadau arddangos yr artistiaid ar gyfer AM10: Mounira Al Solh, Rushdi Anwar ac Alia Farid yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd (un yn nheulu Amgueddfa Cymru – Museum Wales o amgueddfeydd); Nguyễn Trinh Thi yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe a Chapter, Caerdydd; Taloi Havini ym Mostyn, Llandudno a Chapter, Caerdydd; Carolina Caycedo yn Oriel Davies, y Drenewydd a Chapter, Caerdydd; a Naomi Rincón Gallardo yn Chapter, Caerdydd.

 

Dywedodd Nigel Prince, Cyfarwyddwr Artes Mundi: “Mae AM10 yn argoeli i fod yn gyfres gyffrous a meddylgar o gyflwyniadau. Gan weithio gyda phob artist a’n partneriaid yn y lleoliad, rydym mewn sefyllfa i gyflwyno cyfres o sioeau treiddgar sydd gyda’i gilydd yn edrych ar agweddau ar ddefnydd tir, tiriogaeth a dadleoliad drwy hanes newid amgylcheddol, gwrthdaro a mudo dan orfod, amodau sydd i gyd â rhywbeth i’w ddweud wrth bob un ohonom ni heddiw.”

 

Fel cyfrwng cyfnewid diwylliannol pwysig rhwng y DU a chymunedau rhyngwladol, mae Artes Mundi wedi ennill enw iddo’i hun am ddwyn ynghyd gelfyddyd gan rai o’r lleisiau artistig mwyaf perthnasol sy’n ymdrin â phynciau mawr ein hoes. Yn y gorffennol, mae Artes Mundi wedi gweithio gydag artistiaid yn ystod cyfnodau allweddol yn eu gyrfaoedd, a dyma’n aml y tro cyntaf iddynt gyflwyno’u gwaith i gynulleidfaoedd yn y DU, gyda llawer ohonynt bellach yn enwau cyfarwydd ar y llwyfan rhyngwladol, gan gynnwys Dineo Seshee Bopape, Prabhakar Pachpute, Ragnar Kjartansson, Theaster Gates, John Akomfrah, Teresa Margolles, Xu Bing, a Tania Bruguera.

 

Manylion am arddangosfeydd artistiaid AM10 a’u lleoliadau

 

 

Mounira Al Solh yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ganwyd yn Libanus. Mae’n byw ac yn gweithio yn Libanus a’r Iseldiroedd.

 

Mae Mounira Al Solh yn cynhyrchu paentiadau, gweithiau ar bapur, gosodweithiau fideo, brodwaith a symudiadau corfforol sy’n ymdrin â mudo, cof, trawma a cholled. Dan ddylanwad ei threftadaeth Libanaidd-Syriaidd, mae ei gwaith yn edrych ar bwysigrwydd hanes llafar, iaith, ac adrodd storïau fel cofnod o brofiadau bywyd y rhai sydd wedi’u dadleoli gan y gwrthdaro sy’n parhau yn y Dwyrain Canol. Ar gyfer ei chyflwyniad yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, bydd Mounira yn cynhyrchu cerflun newydd mawr a fydd yn atgof i’r pebyll seremonïol traddodiadol a ddefnyddiwyd gan gymunedau’r Dwyrain Canol ac Arabaidd. Bydd ‘hwyl’ y cwch yn gweithredu fel sgrin ar gyfer fideo yn siarad am gymunedau sy’n diflannu, mudo a cholli ffyrdd traddodiadol o weithio, ar yr un pryd â chyfeirio at y rheini sydd wedi’u dadleoli yn Ewrop, llawer ohonynt wedi mudo ar gychod. Bydd Al Solh hefyd yn cyflwyno cyfres newydd o ddarluniau a fydd yn gofnodion neu’n dystiolaeth ffoaduriaid, unigolion a theuluoedd alltud yng Nghaerdydd o Syria a’r Dwyrain Canol fel rhan o gyfres sydd ar waith o dros 500 o bortreadau, I strongly believe in our right to be frivolous (2012-ac yn parhau).

 

Rushdi Anwar yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ganwyd yng Nghwrdistan. Mae’n byw ac yn gweithio rhwng Gwlad Thai ac Awstralia.

 

Mae Rushdi Anwar yn artist gweledol, ymchwilydd, gweithredwr tawel, ymgysylltydd cymunedol, ac mae’n ymgyrchu dros gydraddoldeb cymdeithasol. Yn wreiddiol o Halabja, Cwrdistan (Cwrdistan-Irac), mae ei waith yn aml yn myfyrio ar faterion cymdeithasol-gwleidyddol Cwrdistan, Irac, a’r Dwyrain Canol. Mae’n defnyddio profiadau ac atgofion personol, gan fyfyrio’n farddonol ar faterion cyfoes fel dadleoliad, hunaniaeth, gwrthdaro, a thrawma a ddioddefwyd o dan gyfundrefnau trefedigaethol ac ideolegol. Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, bydd Anwar yn cyflwyno trosolwg o ddarnau hen a newydd, gan gynnwys gweithiau sydd â chysylltiad â Bashiqa, tref ei deulu yng ngogledd-ddwyrain Mosul, tiriogaeth y mae llywodraethau Cwrdaidd ac Iracaidd yn ei hawlio, lleoliad a oedd yn arfer cael ei lywodraethu gan gyfundrefnau trefedigaethol Prydain a Ffrainc ac, yn fwy diweddar, a gafodd ei ddinistrio a’i ysbeilio gan ISIS. Mae We have found in the ashes what we lost in the fire (2018) yn 12 bocs sy’n cynnwys ffotograffau wedi llosgi, delweddau o eglwys a ddinistriwyd y bu Anwar yn ymweld â hi yn Bashiqa. Mae eu pennau gwydrog wedi’u printio â phatrymau Islamaidd geometrig sy’n cyfeirio at gyfnod hanesyddol penodol yn ystod concwest Mwslimaidd Sbaen (Al-Andalus) (711-1492). Gellid dadlau mai dyma’r tro cyntaf i’r Dwyrain gwrdd â’r Gorllewin yng nghyd-destun crefydd a diwylliant. Gyda’i gilydd, bydd y gweithiau a gyflwynir yn edrych ar y tebygrwydd anesmwyth rhwng y dinistr, y byrhoedledd a’r adnewyddiad a wynebir gan gymunedau sydd wedi’u dadleoli a’u dadwreiddio ar draws y byd a’r amgylcheddau adeiledig y maent yn cael eu gorfodi i’w gadael.

 

Carolina Caycedo yn Oriel Davies, y Drenewydd a Chapter, Caerdydd

Ganwyd yn y Deyrnas Unedig i rieni o Golombia. Mae hi’n byw ac yn gweithio yn UDA.

 

Mae Carolina Caycedo yn artist amlddisgyblaethol sy’n adnabyddus am ei fideos, llyfrau artist, cerfluniau a gosodweithiau sy’n ymdrin â materion amgylcheddol a chymdeithasol. Yn Oriel Davies yn y Drenewydd, bydd Caycedo yn cyflwyno cyfres o weithiau hen a newydd gan gynnwys dangosiad cyntaf y fideo, Fuel to Fire (2023). Mae hyn yn cyflwyno’r gwyliwr i pagamento, sef protocol sylfaenol ecolegol ac economaidd cynhenid, sy’n cynnal llif a chydbwysedd cylchoedd bywyd ar y ddaear ar sail dwyochredd. Hefyd, cyflwynir y gyfres gysylltiedig Fuel to Fire: Mineral Intensive (2022 ac yn parhau), lluniadau pensil lliw newydd ar raddfa fawr o gyfres sy’n canolbwyntio ar arferion echdynnu a’u heffaith ar y tir. Mae proses a chyfranogiad yn ganolog i ymarfer Caycedo – gan ddefnyddio gwybodaeth hysbys a fframweithiau brodorol a ffeministaidd, mae’n gwahodd gwylwyr i ystyried cyflymder anghynaliadwy twf o dan gyfalafiaeth a sut y gallem wrthsefyll hynny mewn undod. Yn My Female Lineage of Environmental Struggle (2018 i’r presennol), mae dros 100 o bortreadau o amgylcheddwyr benyw o bob cwr o’r byd, gan gynnwys menywod a gymerodd ran yng ngorymdaith Comin Greenham, yn cael eu hargraffu ar faner tecstil fel rhan o’r gyfres Geneology of Struggle a fydd yn eistedd ochr yn ochr â detholiad o faneri gwreiddiol Gwersyll Heddwch Menywod Comin Greenham o gasgliadau’r DU. Gan gysylltu â’r gwaith yn Oriel Davies, bydd Caycedo yn cyflwyno gwaith newydd o’i phrosiect amlgyfrwng Be Dammed (2012 ac yn parhau) yn Chapter, Caerdydd. Wedi’i leoli yn y blwch golau uwchben mynedfa’r adeilad, mae’r gwaith delweddau a thestun mawr yn edrych ar effaith argaeau trydan dŵr a phrosiectau seilwaith mawr eraill ar gymunedau a’r amgylchedd.

 

Alia Farid yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ganwyd yn Kuwait. Mae’n byw ac yn gweithio rhwng Dinas Kuwait a Puerto Rico.

 

Mae Alia Farid yn wneuthurwr ffilmiau ac yn gerflunydd, ac mae ei gwaith yn canolbwyntio ar hanes llai adnabyddus sy’n aml wedi cael ei ddileu’n fwriadol. Yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, bydd Farid yn cyflwyno cyfres o gerfluniau mawr wedi’u siapio fel llestri dŵr amrywiol, pob un yn cynnwys sinc fechan wedi’i hadeiladu i mewn i ochr arwyneb y resin, gan ddatgelu pwrpas gwreiddiol y mowldiau fel ffynhonnau yfed cyhoeddus mawr a welir ar draws dinasoedd Kuwait. Mae’r cerfluniau hyn yn rhoi sylw penodol i gamreoli adnoddau naturiol ac effaith diwydiannau echdynnol ar dir, ecoleg a gwead cymdeithasol de Irac a Kuwait. Ail waith Farid fydd y perfformiad cyntaf erioed o osodwaith fideo dwy ran newydd sy’n ymhelaethu ar gomisiwn blaenorol, Chibayish (2022) ar gyfer Amgueddfa Celf Americanaidd Whitney. Gan ddychwelyd i’r lleoliad hwn, a ffilmiwyd ar gymer afonydd Tigris ac Ewffrates, mae Farid yn ailedrych ar y ffilm wreiddiol sy’n cofnodi’r ymwneud rhyngddi hi â thri phreswylydd ifanc o’r corsdir: Riad Samir a Jassim a Qassim Mohammed.

 

Taloi Havini ym Mostyn, Llandudno a Chapter, Caerdydd

Ganwyd yn Bougainville, llwyth Nakas/Haká. Mae hi’n byw ac yn gweithio yn Awstralia.

 

Mae Taloi Havini yn artist amlddisgyblaethol sy’n defnyddio amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys ffotograffiaeth, sain-fideo, cerfluniaeth, gosodwaith ymdrochol ac argraffu, er mwyn edrych ar y cysylltiadau rhwng hanes, hunaniaeth, ac adeiladu cenedl o fewn strwythurau cymdeithasol mamlinachol ei man geni, Rhanbarth Ymreolaethol Bougainville. Yn Oriel Mostyn yn Llandudno, bydd Havini yn cyflwyno gosodwaith fideo ymdrochol mawr, Habitat. Bydd yn cael ei ddangos am y tro cyntaf yn y DU fel gwaith tair-sianel, ac mae’n parhau â’i hymchwiliad parhaus i etifeddiaeth echdynnu adnoddau a pherthynas anodd Awstralia yn y Môr Tawel. Bydd Havini hefyd yn cyflwyno gwaith newydd, Where the rivers flow, (Panguna, Jaba, Pangara, Konawiru), cyfres o ddeugain o brintiau sydd wedi’u hechdynnu o archifau ffilm yr artist yn dilyn ei siwrnai drwy ganol ynys drofannol Bougainville. Yn Chapter yng Nghaerdydd bydd Havini yn cyflwyno rhagor o waith ffotograffig newydd sy’n cynnwys murlun a thri blwch golau, o’r enw Hyena (day and night).

 

Naomi Rincón Gallardo yn Chapter, Caerdydd

Ganwyd yn UDA. Mae hi’n byw ac yn gweithio ym Mecsico.

 

Mae Naomi Rincón Gallardo yn artist gweledol ac yn ymchwilydd. O safbwynt anhrefedigaethol-cwiar, mae ei gwaith yn mynd i’r afael â chreu gwrthfydau mewn sefyllfaoedd neo-drefedigaethol. Yn ei gwaith, mae’n integreiddio ei diddordebau mewn gemau theatr, cerddoriaeth boblogaidd, cosmolegau Mesoamericanaidd, ffuglen ddyfaliadol, gweithgareddau a chrefftau brodorol, ffeministiaethau anhrefedigaethol a phobl gwiar o liw. Yn Chapter yng Nghaerdydd, bydd Gallardo yn cyflwyno’r perfformiad cyntaf o driawd o waith fideo newydd yn y DU – Verses of Filth (2021), Sonnet of Vermin (2022) ac Eclipse (2023). Maent yn edrych ar fythau Mesoamericanaidd fel ffyrdd amgen o ddeall realiti, gan gydblethu ffeithiau, ffuglen a ffrithiant er mwyn creu man sy’n bodoli rhwng profiadau  iwtopaidd radical a ffantasi swreal. Ochr yn ochr â’r gosodwaith fideo, bydd cyfres o frasluniau dyfrlliw, gwisgoedd a phropiau cerfluniol o’r fideos dan sylw, gan gynnwys masgiau, gwisgoedd a pharaffernalia wedi’u hanimeiddio â golau ac animatroneg.

 

Nguyn Trinh Thi yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe a Chapter, Caerdydd

Fe’i ganwyd yn Fietnam ac mae’n parhau i fyw a gweithio yno.

 

Mae Nguyễn Trinh Thi yn wneuthurwr ffilmiau ac artist o Hanoi. Gan groesi ffiniau rhwng celf ffilm a fideo, gosodweithiau a pherfformio, mae ei gwaith ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar bŵer sain a gwrando, a’r cysylltiadau lluosog rhwng delwedd, sain a gofod. Mae ei gwaith yn archwilio hanes, cof, cynrychiolaeth, ecoleg a’r anhysbys. Yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe, bydd Trinh Thi yn ail-gyflwyno’r ffilm And They Die a Natural Death (2022), a gafodd glod gan feirniaid, a ddangoswyd yn wreiddiol fel rhan o Documenta 15 yn 2022. Yma, mae wedi cael ei had-drefnu ar gyfer lleoliad oriel. Wrth wneud y gwaith, cafodd Trin Thi ei ysbrydoli gan y nofel hunangofiannol Tale Told in the Year 2000 (2000) gan Bùi Ngọc Tấn, sydd ar hyn o bryd wedi’i sensora yn Fietnam. Gan adlewyrchu golygfa o’r llyfr, mae’r gwaith yn cynnwys system gwynt a wi-fi sydd wedi’i gosod yn ardal Vinh Quang-Tam Da yn Fietnam sy’n sbarduno’r gwaith o osod ffaniau cerfluniol, effeithiau clyweledol, sain, planhigion tsili a’r chwarae hiraethus ar ffliwt sáo ôi, offeryn cerddorol brodorol sy’n cael ei ddefnyddio gan grwpiau yn ardaloedd mynyddig gogledd y wlad. Mewn amser real, mae coedwig ymdrochol llawn cysodion ar waliau’r oriel o’ch cwmpas yn cysylltu’r gofod yn Abertawe â choetir Fietnam. Ochr yn ochr â’r gosodwaith yng Nglyn Vivian, bydd Trinh Thi yn dangos cyfres o ffilmiau yn y sinema yn Chapter yng Nghaerdydd ac mewn digwyddiad arbennig yng Nglyn Vivian.


Please click images to enlarge