Artes Mundi yn Croesawu Ymddiriedolwr Newydd

Mae Artes Mundi yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Chelsea Pettitt fel Ymddiriedolwr newydd i gryfhau ein Bwrdd ymhellach. Mae ganddi ystod o brofiad a gwybodaeth yn y celfyddydau gweledol cenedlaethol a rhyngwladol a fydd yn parhau i gefnogi a gwella’r gwaith a wnawn.

 

Curadur o Galiffornia yw Chelsea Pettitt a hi yw Rheolwr Cyffredinol Portffolio Chartwell ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cyn hynny bu’n Guradur Cynorthwyol yn Oriel Hayward, yn Bennaeth Partneriaethau ar gyfer Canolfan Gelfyddydau Wysing ac yn Bennaeth Celfyddydau ar gyfer Sefydliad Bagri lle comisiynodd a chefnogodd brosiectau celfyddydol a diwylliannol o bob rhan o Asia a’r alltudiaeth.

 

Ar ôl graddio o Goleg Goldsmiths gydag MA mewn Anthropoleg Weledol mae hi wedi curadu a chynorthwyo ar sawl arddangosfa:

  • Absolutely Augmented Reality, Kuzma & Ajuan, Llundain (2021)
  • Chang/ce: An Open Call for Animations (2021)
  • At Home in the World (2020)
  • A Universal Archive: William Kentridge as Printmaker (2012-14)
  • The House in the Sky: Artists Imagine New Utopias (2014)
  • ynghyd â sioeau unigol gan Ujino Muneteru, Yu-Chen Wang a Kim Beom

 

Mae hi hefyd wedi derbyn grant STEP Travel, a dau grant Curadurol Jonathan Ruffer, ar gyfer ymchwil yn Taiwan, Twrci a’r Iseldiroedd.

 

Dywedodd Chelsea Pettitt, Ymddiriedolwr newydd Artes Mundi, “Rwyf wrth fy modd i gael fy ngwahodd i ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr Artes Mundi. Mae Artes Mundi yn taflu goleuni ar artistiaid sy’n mynd i’r afael â rhai o’r materion mwyaf brys a phwysig sy’n ein hwynebu heddiw. Mae’n holi ac yn annog deialog heriol a phwysig sy’n atseinio’n rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol. Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn teimlo’n bwysicach nag erioed ac mae’n anrhydedd i mi gael y cyfle i’w cefnogi.”

 

Dan arweiniad y Cadeirydd yr Athro Michael Tooby, mae Chelsea yn ymuno ag Ymddiriedolwyr eraill Artes Mundi gan gynnwys Osei Bonsu, Dr Sabrina Cohen-Hatton, Derek Howell, Adam Salkeld a Dr Francesca Sobande.

 

Twitter@cpettittcurator

Instagram@chelseapettitt