Artes Mundi Yn Cyhoeddi Partneriaeth Newydd Bwysig  Sefydliad Bagri

Pleser o’r mwyaf i Artes Mundi yw cyhoeddi mai Sefydliad Bagri yw’r Partner Cyflwyno ar gyfer Artes Mundi 10 (2023) ac Artes Mundi 11 (2025). Y cydweithrediad yma fydd  partneriaeth bwysig gyntaf Sefydliad Bagri y tu allan i Lundain yn y DU gan ddynodi carreg filltir hynod i’r ddau sefydliad.

 

Mae Artes Mundi a Sefydliad Bagri yn rhannu ymrwymiad i gefnogi gwaith yn y celfyddydau gweledol cyfoes rhyngwladol a dyrchafu deialog ynghylch y cysylltiadau rhwng materion lleol a byd-eang. Bydd y bartneriaeth newydd yma’n galluogi cyflwyno rhaglen uchelgeisiol wedi’i chanoli ar yr arddangosfa eilflwydd a’r wobr gysylltiedig, ynghyd â rhaglen gyhoeddus o sgyrsiau, gweithdai, comisiynau a gweithgareddau eraill i Artes Mundi 10 ac Artes Mundi 11.

 

A chanddo genhadaeth i gydblethu diwylliant Asiaidd traddodiadol â syniadaeth fodern, mae Sefydliad Bagri’n cefnogi gwahanol raglenni ar draws ffilm, y celfyddydau gweledol, cerddoriaeth, dawns, llenyddiaeth a sgyrsiau gan ddarparu llwyfan byd-eang ar gyfer deialog i artistiaid ac arbenigwyr o bob cwr o Asia a’r rhai sydd ar wasgar.

 

Drwy raglenni helaeth gyda’r arddangosfa eilflwydd mawr ei bri a phrif wobr gelfyddyd ryngwladol y DU yn ei chanol, mae Artes Mundi yn dwyn at ei gilydd artistiaid yn lleol ac yn rhyngwladol sy’n synfyfyrio ar y grymoedd newidiol sy’n siapio ein byd a’n dyfodol. Drwy’r gwaith yma y mae Artes Mundi’n harneisio grym unigryw celfyddyd i greu lle i ddadleuon a deialogau am faterion pwysicaf ein hoes ac am y berthynas rhyngddon ni ein hunain a diwylliannau cyfarwydd a phellennig.

 

Yn ôl Alka Bagri, Ymddiriedolwraig gyda Sefydliad Bagri: “Cyffrous iawn i ni yn Sefydliad Bagri yw cychwyn ar y siwrnai yma gydag Artes Mundi fel Partner Cyflwyno. Mae hanes y sefydliad wrth ddarparu llwyfan i artistiaid sy’n gweithio gyda dulliau trawsffiniol ac amlddisgyblaethol yn taro deuddeg i’r dim gyda chenhadaeth Sefydliad Bagri. Gyda’r bartneriaeth hon ag Artes Mundi, ein gobaith yw parhau i ddarparu cyfleoedd unigryw i leisiau neilltuol ym maes celfyddyd weledol gyfoes.” 

 

Yn ôl Nigel Prince, Cyfarwyddwr Artes Mundi: “Wrth i ni fwrw ymlaen tuag at Artes Mundi 10 yng ngwanwyn/haf 2023 ac Artes Mundi 11 yn 2025, mae’r bartneriaeth hon yn rhoi buddsoddiad sylweddol i ni tuag at sicrhau’r hyn rydyn ni’n anelu at ei wneud gyda a thros artistiaid, cynulleidfaoedd a chymunedau fel ei gilydd. Rydyn ni wrth ein boddau bod Sefydliad Bagri’n ymuno â ni wrth gefnogi’r arddangosfeydd a gwobrau yn y dyfodol gan ddarparu amrywiaeth a dyfnder o ran cyfleoedd sy’n hygyrch i bawb.”