Artes Mundi yn mynd i bartneriaeth â Forma ar gyfer, A Perfect Sentence, arddangosfa unigol gyntaf y DU gan Oliver Frank Chanarin

A Perfect Sentence
Oliver Frank Chanarin
16 Mawrth - 3 Medi 2023
Museum of Making, Silk Mill Lane, Derby DE1 3AF

Archwilio tiriogaeth newidiol ffotograffiaeth ddogfennol y mae A Perfect Sentence: ein hawydd am sylw, cymhlethdod cael ein gweld a’n pryder os cawn ein hanwybyddu. Mae arddangosfa unigol gyntaf Oliver Frank Chanarin yn y Deyrnas Unedig, A Perfect Sentence wedi cael ei chomisiynu a’i chynhyrchu gan Forma gydag wyth o bartneriaid, a bydd yn cynnwys amryfal gyflwyniadau ar draws y wlad, derbyniadau cyhoeddus, platfform digidol a chyhoeddiad.

 

Ymunwch â ni am y premiere yn The Museum of Making, Derby ddydd Iau 16 Mawrth 2023, fel rhan o’r ŵyl ffotograffiaeth eilflwydd FORMAT23.  

 

Gydol 2022, aeth Chanarin ar nifer o siwrneiau ar draws y Deyrnas Unedig, gan gael ei hun ar y cyrion yn aml – o grwpiau ffetisiau swbwrbaidd, i gwmnïau carnifal mewn neuaddau bro, i actifyddion rhywedd yn protestio yn y strydoedd. Daeth ei gamera analog yn offeryn ar gyfer cyfnewid cymdeithasol. Ildiodd sesiynau tynnu lluniau cydweithredol i gyfarfyddiadau siawns â dieithriaid a ffrindiau, camau gwag ac ymgeisiau penderfynol i ymgolli yn y byd. Mae’r ffotograffau hyn felly yn gofnod goddrychol a phersonol o genedl sy’n trawsnewid.

 

Fe wnaeth A Perfect Sentence ddatblygu yn ystod amser rhyfeddol a chythryblus, pan wnaeth Brexit rannu’r wlad, pan orfodwyd pobl i ynysu gan Covid-19 a phan gryfhaodd ymwybyddiaeth y cyhoedd o wleidyddiaeth hunaniaeth. Fe wnaeth y cyplysiad hwn gyd-daro â chwalfa partneriaeth artistig Chanarin – y ddeuawd ryngwladol o fri, Broomberg & Chanarin – y daeth eu cydweithrediad i ben ar ôl bod yn cydweithio am dros ugain mlynedd. Mewn ymateb i’r digwyddiadau hyn, dilynodd Chanarin esiampl portread casgliadol August Sander o gymdeithas yr Almaen, People of the 20th Century (1927-64) a throi at ffotograffiaeth ddogfennol frodorol.

Mae Chanarin yn cofio:

 

Doeddwn i ddim yn siŵr sut i fod yn ffotograffydd mwyach; sut i dynnu lluniau ar y patrwm newydd hwn; sut i fynd at bobl yn y stryd, yn eu cartrefi, yn eu cymunedau; a faint o breifatrwydd sy’n rhesymol ddisgwyliedig.

 

Roeddwn i’n teimlo’n ansicr, fel planed a oedd wedi colli ei lleuad, a gwyddwn mai’r ateb oedd troi’n ôl at yr ysgogiad a’m denodd at ffotograffiaeth yn y lle cyntaf.  Cyfarfyddiadau â dieithriaid; yr hap amseroedd hardd a geir wrth ymgolli yn y byd gyda chamera.

 

Caiff A Perfect Sentence ei siapio gan nifer o gysylltiadau geiriol a di-eiriau. Rwyf wedi ceisio gwneud y cyfarfyddiadau hyn yn rhai iach ac ysbrydoledig ond dyhead yn unig yw’r ‘perffaith’ yma gan fod pob cyswllt rhwng pobl yn ofidus, yn enwedig pan fo camera yn y cwestiwn.

 

Wrth fy ngwaith, tyfais yn eofn, er mwyn cael un ddelwedd dda mewn niwl o ddeg o rai gwael. Maent yn datblygu yn ôl fy nghystrawen gudd a greddfol i. Cofnod o’r gwir yw hwn, ac eto mae cysgod anghrediniaeth yn rhwymo pob dim ynghyd.

Yn ystod blwyddyn y gwaith cynhyrchu, cymerodd Chanarin dros 2,750 o negatifau lliw analog; a’u hargraffu â llaw yn yr ystafell dywyll er mwyn cynhyrchu cannoedd o brintiau unigryw, math c.  Mae’r gwaith celf terfynol yn cynnwys 300 o ddelweddau, gyda llawer ohonynt yn debyg i ffotograffau ar ganol eu datblygu. Mae arbrofion â datguddio, cwtogi a hidlo lliwiau i’w gweld drwy nodiannau rhedol yr artist. Mae’r llythyrau a’r rhifau sy’n anodi’r arwynebau yn tynnu sylw’r gwyliwr at oddrychedd cynhenid y broses o greu delweddau.

 

Bydd detholiad o ffotograffau o A Perfect Sentence yn cael eu harddangos am y tro cyntaf yn The Museum of Making, Derby ar 16 Mawrth – 3 Medi 2023, fel rhan o FORMAT23, sef gŵyl ffotograffiaeth ryngwladol arweiniol y Deyrnas Unedig. Mae testunau artist Chanarin sydd wedi’u hysgogi gan naratif yn cyd-fynd â’r arddangosiad ffotograffig – rhyddiaith farddonol sy’n uno atgof, ffaith a ffuglen. Fel rhan o’r gwaith A Perfect Sentence caiff platfform digidol ei lansio, a chaiff y llyfr A Perfect Sentence hefyd ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2023 gan Loose Joints.

 

Cynhelir rhaglen o arddangosiadau a chyflwyniadau ar draws y Deyrnas Unedig dros y ddwy flynedd nesaf. Caiff y manylion eu cyhoeddi’n ddiweddarach yn 2023.

Partneriaid

 

Cafodd A Perfect Sentence ei chomisiynu a’i chynhyrchu gyda Forma mewn partneriaeth ag 8 o sefydliadau ar draws y Deyrnas Unedig:
Artes Mundi, Caerdydd; KARST, Plymouth; Guildhall Art Gallery, City of London Corporation; Norfolk Museums Service (Norwich Castle Museum and Art Gallery, Norwich, and Time and Tide Museum, Great Yarmouth); originalprojects;, Great Yarmouth; QUAD, gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol FORMAT a Derby Museums, Derby; a’r Wolverhampton Art Gallery, Wolverhampton.

 

Cefnogir y cynhyrchiad gan bartneriaid cyd-gomisiynu a chyd-gynhyrchu A Perfect Sentence, ac fe’i gwnaed yn bosibl drwy gyllid hael gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Caiff 72 o ffotograffau eu cyflwyno’n rhodd i chwech o gasgliadau cenedlaethol, diolch i grant Comisiwn Caffael gan Art Fund. Yn ogystal, mae’r Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, Kick The Dust a Dinas Llundain wedi cynorthwyo’r cynyrchiadau yng Nghymru, Great Yarmouth a Llundain, yn y drefn honno.

Comisiynwyd a chynhyrchwyd gan

 

 

 

Partneriaid cynhyrchu

 

Cyllidwyr