Artist Preswyl Oriel Machno

Mai 2024

Gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri

Fel rhan o raglen gyhoeddus AM10, buom yn gweithio mewn partneriaeth â lleoliadau i ddatblygu cyfres o brosiectau gyda chymunedau. Cafodd y rhain eu gwireddu mewn ymateb i’r themâu a’r syniadau a oedd yn bresennol yn yr ymarferion a’r gweithiau a oedd yn cael eu harddangos gan bob un o’r saith artist. Cymerodd y prosiectau sawl ffurf tra bod cymunedau hefyd wedi cyfrannu at ein cyfres o bodlediadau a chynhyrchu labeli deongliadol a ddangosir yn yr orielau.

Credit: Oriel Machno, Opening event and Taloi Havini screening - 18.05.24 Photo: Mark McNulty

Credit: Oriel Machno, sharing event - 26.05.24 Photo: Mark McNulty

 

 

 

 

Roedd Gweni Llwyd yn artist preswyl yn Oriel Machno ym Mhenmachno, rhwng 18 a 27 Mai 2024, gan ddatblygu corff newydd o waith ac arwain cyfres o weithdai lleol. Ar gyfer AM10, cyflwynwyd gwaith yr artist Taloi Havini ym Mostyn, Llandudno, a oedd yn fan cychwyn ar gyfer cyfnod preswyl Llwyd, gan ddefnyddio themâu a hanesion a rannwyd rhwng Rhanbarth Ymreolaethol Bougainville a Gogledd Cymru. Datblygodd Llwyd ymchwil yn ymwneud â defnydd tir, gan archwilio syniadau ynghylch tras ac adfer, cof torfol a dychymyg, a gwahanol raddfeydd o amser, ar yr un pryd â chynnal gweithgareddau gweithdy creadigol a rhannu digwyddiadau ar gyfer y cymunedau lleol cyfagos. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys gweithdy gwneud printiau, gweithdy recordio sain, gweithdy ffotograffiaeth a drôn yn ogystal â dangos ffilm fer a chynnal sgwrs.

 

Mae Gweni Llwyd yn artist sy’n gweithio ar draws meysydd cyffyrddol a digidol drwy ddelweddau symudol, darlunio a gosodwaith. Mae gwaith Llwyd yn plethu profiadau personol, cyfunol a thu hwnt i bobl yn chwareus gyda’i gilydd, gan dynnu sylw at sut mae bywyd i gyd yn rhan o fetaboledd blêr, cyffredin.


Please click images to enlarge

Partneriaid Cyflwyno

 

Partneriaid Craidd

 

Partneriaid Cyllido