Awduron plant preswyl Artes Mundi 9

Credit: Hanan Issa

Credit: Yousuf Lleu Shah

Mae Artes Mundi yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Hanan Issa ac Yousuf Lleu Shah yn ymuno â ni fel ein Hawduron Plant Preswyl ar gyfer Artes Mundi 9.

 

Bydd Issa a Lleu Shah yn cydweithio ar ddarn ysgrifennu gwreiddiol sy’n archwilio gwaith yr artistiaid ar y rhestr fer ac yn creu darnau newydd i deuluoedd eu hystyried gyda’i gilydd. Dyma drefniant cydweithio sy’n dod â dau awdur at ei gilydd sy’n mynd ati’n ddewr i archwilio rhai o broblemau mwyaf dybryd ein hoes. Mae safbwyntiau Issa a Lleu Shah yn ategu ei gilydd, fel mam a mab byddant yn creu profiad sy’n gweu taith drwy’r arddangosfa i bob oedran ei mwynhau.

 

Bardd ac awdur Cymreig-Iracaidd yw Hanan Issa. Hi yw cyd-sylfaenydd cyfres meic agored BAME gyntaf Cymru ‘Where I’m Coming From’. Roedd hi’n un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2018-2019. Cyhoeddwyd ei phamffled barddoniaeth cyntaf My Body Can House Two Hearts gan BurningEye Books ym mis Hydref 2019. Mae hi wedi cael sylw ar ITV Cymru a BBC Radio Wales ac wedi gweithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Artes Mundi, Prifysgol Warwick, Fringe Abertawe, Gŵyl StAnza, Wales Arts International a Seren Books. Cyhoeddwyd ei gwaith yn Banat Collective, Hedgehog Press, Wales Arts Review, Sukoon mag, 4 Journal, Poetry Wales, Parthian, Y Stamp, cylchgrawn sister-hood a MuslimGirl.com. Cafodd ei monolog buddugol sylw yn Bush Theatre’s Hijabi Monologues.

 

Mae Yousuf Lleu Shah yn 8 oed ac ym Mlwyddyn 4 yr ysgol gynradd ar hyn o bryd. Ei hoff bynciau yw Mathemateg, Gwyddoniaeth a Chelf. Mae wrth ei fodd yn ysgrifennu straeon ac yn chwilfrydig am bopeth. Mae’n credu bod celf yn gallu ein hysbrydoli ni i ddeall. Ei gyhoeddiad cyntaf oedd stori fer ym mhamffled Hammad Rind, ‘Hammari Kahani: Our Story’.