Berni Searle
Ganwyd Berni Searle yn Cape Town, De Affrica (1964), lle mae’n byw ac yn gweithio ar hyn o bryd.

Credit: Berni Searle
Mae hi’n fwyaf adnabyddus am gynhyrchu creadigaethau cyfryngol drwy’r lens a fideo digidol, a gellir gweld ei gweithiau ‘perfformiadol’ fel cyfres o ymchwiliadau parhaus i gwestiynau hunan-gynrychilaeth, hunaniaeth bersonol a thorfol.