Blog "Ncheta" gan Ogechi Dimeke

20 Hydref 2023 - 21 Ionawr 2024

Oriel Gelf Glynn Vivian
Heol Alexandra
Abertawe
SA1 5DZ

10:00 am - 4:30 pm

Gosodwaith yw “Ncheta” o gasgliad o wahanol weithiau, sef ffabrig mwslin 50 metr wedi’i liwio’n felyn, coch, oren a phinc; ffotograffau o wahanol aelodau o Aurora Trinity Collective, yn dangos eiliadau o ymgysylltu perfformiadol â’r ffabrig ar Draeth Penarth; a recordiadau llais mewn 8 iaith wahanol o aelodau Aurora Trinity Collective yn sgwrsio am eu perthynas bersonol/diwylliannol nhw â ffabrigau/tecstilau, gan greu haen glywedol sy’n ategu elfen weledol y gwaith celf. Mae’r gwaith i’w weld yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe. Mae’r defnydd wedi’i daenu ar draws atriwm yr oriel a gellir ei weld oddi uchod yn yr orielau uchaf, neu oddi isod yn yr atriwm. Mae’r gosodiad yn awgrymu profiad gweledol deinamig ac ymdrochol i’r sawl a’i gwêl, ac yn ymgais i ymgysylltu â’r gynulleidfa mewn ffordd unigryw a chynhwysol.

Credit: Aurora Trinity Collective, Ncheta, 2023. Glynn Vivian Art Gallery. Credit - Polly Thomas

Credit: Aurora Trinity Collective, Ncheta, 2023. Glynn Vivian Art Gallery. Credit - Polly Thomas

Tyfodd “Ncheta” o sawl trafodaeth ddwys rhwng yr artistiaid Helen Clifford a minnau ar ôl encil creadigol cyntaf Aurora i Faenorbŷr ym mis Chwefror 2021. Gair Igbo yw Ncheta sy’n golygu cofio. Mae’r deialogau hyn wedi esblygu dros amser, ond mae eu hanfod craidd wedi aros yn ddigyfnewid. Dechreuodd y peth fel myfyrdod ar ein perthynas â’r tirlun yng Nghymru – wrth holi’n hunain a oedden ni’n teimlo cysylltiad, ac os oeddem, sut, ac a oeddem yn credu ein bod ni’n perthyn. Datblygodd wedyn i fod yn archwiliad dyfnach o’r cynhesrwydd unigryw y mae pob un ohonom yn ei gyfrannu fel unigolion a sut mae Aurora Trinity Collective yn cyfleu hyn drosom. Mae’r gwaith celf yn ddatganiad beiddgar ac amlwg nad dim ond ymdoddi i’r cefndir a wna Aurora Trinity Collective ond ein bod am ddathlu ein hunigoliaeth a’n hunigrywiaeth.

 

Mae’r gwaith hefyd yn cyfleu’r teimladau dwys o ymddiriedaeth a diogelwch rydyn ni’n eu meithrin rhwng ein gilydd, a dyna pam nad yw’r recordiadau wedi’u trawsgrifio na’u cyfieithu; dyma werthoedd craidd sy’n diffinio ein taith a phwy ydym ni fel Aurora Trinity Collective.

 

Mae’r gwaith celf hwn yn eich gwahodd i suddo i’w gôl, ymgolli yn ei wres, a rhannu’r llawenydd a’r hwyl a brofom ni wrth ei greu. Gwahoddir y gwyliwr i ymgysylltu â’r gwaith ar lefel emosiynol a deallusol.

 

Fy ngwir ddyhead yw bod “Ncheta” yn sefyll nid yn unig fel ymgorfforiad o’r teimladau a’r syniadau rydym ni’n eu rhannu – yr ymddiriedaeth, y gwres, yr harddwch, yr hwyl a’r lle diogel sy’n diffinio Aurora Trinity Collective ac sy’n rhinwedd y carem ac y gobeithiem ei hefelychu ble bynnag yr ydym a phwy bynnag y gweithiwn efo nhw – ond hefyd fel tysteb i’r ymroddiad, y gofal, y cariad a’r arbenigedd a roddodd fodolaeth iddo.

 

Yr artistiaid eraill a gydweithiodd gydag Aurora Trinity Collective i gynhyrchu Ncheta yw Amak Mahmoodian, June Campbell Davies, Lauren Clifford-Keane a Nasia Sarwar-Skuse. Cydweithwyr eraill oedd:

 

Agnieszka Platcha
Annebelle Ntombo
Azeb Tesfay
Binta Bah
Christianah Ugbaja
Fanta Touray
Fazilath Abdoul
Feven Berhane Tesfay
Frehiwet Ademariam
Georgia Bowles
Hanna Jenkins
Hind Abdalla
Kaddija Jallow
Leila Karami
Letty Clarke
Nafisa Saih
Nasima Begum
Racheal Makaza
Rena Zhang
Ruhena Rahman
Samar Iqbal
Sawsan Suliman
Shabnam Tajpoor
Stacy Ann James
Suha Elhag
Sweeta Hasmi
Tawhida Alfarsy
Yrgelam Tecke

 

Ysgrifennwyd gan Ogechi Dimeke