Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Prifysgol Aberystwyth
Aberystwyth, Ceredigion
SY23 3DE

 

aberystwythartscentre.co.uk/cy/

Ffôn: 01970 622882

E-bost: artsadmin@aber.ac.uk

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yw un o’r Canolfannau Celfyddydau mwyaf yng Nghymru ac mae’n ganolfan aml-gelfyddyd sy’n cynhyrchu a chyflwyno rhaglen o theatr, ffilm, cerddoriaeth ac arddangosfeydd ochr yn ochr â rhaglen ddysgu creadigol sy’n gwasanaethu campws y brifysgol, cymuned Ceredigion a thu hwnt

 

Mae ein rhaglen arddangosfeydd yn rhoi llwyfan i arddangos y gorau oll mewn celf gyfoes, gan arddangos gwaith gan artistiaid cyfoescenedlaethol a rhyngwladol. ‘Rydym yn cynnig amgylchedd o ansawdd uchel i arddangos gwaith, gydag un o’r gofodau celf gyfoes mwyaf yng Nghymru yn ein Horiel 1 bwrpasol ar gyfer artistiaid sefydledig ac arddangosfeydd ar raddfa fawr; Oriel 2 fel gofod pwrpasol i gefnogi ein cenhedlaeth nesaf o artistiaid newydd sy’n dod i’r amlwg ac oriel y caffi a gofod ffenestr y Piazza ar gyfer gwaith sy’n canolbwyntio ar gymuned.   Mae gennym raglen dreigl o breswyliadau artistiaid gyda’n gofod stiwdio a adeiladwyd yn arbennig, gan roi cyfleoedd i artistiaid ddatblygu eu hymarfer eu hunain mewn amgylchedd cefnogol. 

Credit: Black and white Aberystwyth Arts Centre logo

Amseroedd Agor

Dydd Llun: 9.00 yb – 11.00 yp
Dydd Mawrth: 9.00 yb – 11.00 yp
Dydd Mercher: 9.00 yb – 11.00 yp
Dydd Iau: 9.00 yb – 11.00 yp
Dydd Gwener: 9.00 yb – 11.00 yp
Dydd Sadwrn: 9.00 yb – 11.00 yp
Dydd Sul: 12.00 yb – 8.00 yp

 

Mae mynediad i bob arddangosfa yn rhad ac am ddim.

 

Hygyrchedd: Mynediad – Aber Arts (aberystwythartscentre.co.uk)

Sut i Gyrraedd Yno

Di-gar
Mae’n hawdd ein cyrraedd ar drên, bws, beic ac ar droed. Mae’r bws 03 yn cysylltu’r dref/gorsaf â Chanolfan y Celfyddydau bob 30 munud o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor.

 

Ar y trên
Mae trenau yn rhedeg yn syth i Aberystwyth o Birmingham, Yr Amwythig, Y Drenewydd a Machynlleth, bob 1-2 awr.

 

Yn y car
Mae’r troad i’r campws o’r A487 wrth i chi fynd i’r gogledd allan o ganol y dref i gyfeiriad Machynlleth, ac mae digon o arwyddion. Mae meysydd parcio mawr yn agos i Ganolfan y Celfyddydau ac ar y campws sydd am ddim i gwsmeriaid fin nos ar ôl 5pm ac ar benwythnosau. Os ydych yn ymweld â ni yn ystod y dydd, dylech ddilyn yr arwyddion i’r Maes Parcio Ymwelwyr, a chodir tâl bach am hyn.